MANYLION.
  • Lleoliad: Oldcastle Primary School,
  • Pwnc: Heb ei ddarparu
  • Oriau: Rhan amser
  • Cytundeb : Dros dro
  • Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
  • Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
  • Math o gyflog : Heb ei Gyflenwi
  • Cyflog : £20,361 - £21,025 y flwyddyn
  • Iaith: Unrhyw
  • Dyddiad Cau: 09 Rhagfyr, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Swyddog Cymorth Dysgu (Cyfnod Penodol) - Ysgol Gynradd Oldcastle

Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr

Cyflog: £20,361 - £21,025 y flwyddyn

Tymor yr Ysgol

31.25 awr yr wythnos

Cyfnod Penodol hyd at 31 Awst 2027

Dydd Llun, dydd Mawrth, dydd Iau a dydd Gwener 8.50am i 3.05pm

Dydd Mercher 8.50am i 5.35pm

Mae Llywodraethwyr Ysgol Gynradd Oldcastle am benodi Swyddog Cymorth Dysgu llawn cymhelliant i ymuno â'n hysgol gefnogol a blaengar ar ei thaith i ragoriaeth.

Bydd angen i'r person a benodir fod yn unigolyn sy'n llawn cymhelliant ac yn gallu ysbrydoli a gwneud dysgu yn hwyl, person â sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu eithriadol sy'n gallu ymgysylltu â phlant ac ennyn eu brwdfrydedd, rhywun sy'n gallu pennu a chynnal safonau uchel o ddysgu ac ymddygiad. Mae'r rôl yn cynnwys gweithio yn y clwb ar ôl yr ysgol ar ddydd Mercher rhwng 3pm a 5.30pm.

Mae Ysgol Gynradd Oldcastle yn ysgol gynradd fywiog ym Mhen-y-bont ar Ogwr, sy'n ymroddedig i ysbrydoli, cymell ac addysgu dros 400 o blant 3 i 11 oed. Rydym yn ysgol uchelgeisiol lle mae gwerthoedd dysgu yn sail i ragoriaeth, mae unigolion yn cael eu gwerthfawrogi, mae cyflawniadau'n cael eu dathlu, ac mae disgyblion, staff a'r gymuned yn ffynnu mewn amgylchedd dysgu diogel, hapus ac arloesol. Rydym wedi ein cydnabod gan Estyn fel ysgol gynhwysol a chroesawgar, ac rydym yn ymfalchïo yn ein hethos cryf o lesiant disgyblion, parch ac ymgysylltu â'r gymuned. Yn Ysgol Gynradd Oldcastle, mae addysg yn fwy na dysgu yn unig - mae'n ymwneud â meithrin dysgwyr hunanhyderus sy'n barod i wynebu'r byd.

Mae'n ddymunol y byddwch yn gallu sgwrsio ac ymateb i ohebiaeth yn hyderus ac yn rhwydd yn y Gymraeg.

Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.

Mae gwiriad cofnodion troseddol Manwl gyda Rhestr Waharddedig Plant gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.

Dyddiad Cau: 09 Rhagfyr 2026

Dyddiad Llunio'r Rhestr Fer: 11 Rhagfyr 2026

Dyddiad y Cyfweliad: 15 Rhagfyr 2026

Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr

Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person