MANYLION.
  • Lleoliad: Heb ei ddarparu
  • Pwnc: Heb ei ddarparu
  • Oriau: Llawn amser
  • Cytundeb : Parhaol
  • Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
  • Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
  • Math o gyflog : Per annum
  • Cyflog : £33,731 - £51,942 (MPR2 - UPR3)
  • Iaith: Unrhyw
  • Dyddiad Cau: 07 Rhagfyr, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Athro/Athrawes Daearyddiaeth - Ysgol Dyffryn Taf

Cyngor Sir Caerfyrddin

Cyflog: £33,731 - £51,942 (MPR2 - UPR3)

Ynglŷn â'r swydd wag

Cyfeirnod y Swydd Wag: 4222

Sefydliad:

Ysgolion

Nifer y swyddi gwag:

1

Math o gontract:

Parhaol Amser Llawn

Lleoliad:

Hendy-gwyn ar Daf

Gradd:

Athrawon Ysgol

Cyflog:

£33,731 - £51,942 (MPR2 - UPR3)

Os yw'n rhan-amser a/neu yn ystod y tymor, bydd y cyflog llawn amser a ddyfynnir (yn seiliedig ar 37 awr) ar sail pro rata yn unol â hynny

Cyfradd yr awr:

£26.43 - £32.11

Oriau Contract:

1.0 FTE

Dewch i ymuno â'n tîm

Mae Ysgol Dyffryn Taf yn awyddus i benodi Athro/Athrawes Daearyddiaeth frwdfrydig ac ysbrydoledig i ymuno â'n tîm Dyniaethau cyfeillgar ac ymroddedig y gwanwyn hwn. Mae hwn yn gyfnod cyffrous i ymuno â ni wrth i ni barhau i wreiddio'r Cwricwlwm i Gymru ac ymateb i ddatblygiadau mewn cymwysterau 14-16 ac ôl-16.

Rydym yn chwilio am athro/athrawes greadigol a myfyriol sy'n caru ei bwnc ac sy'n awyddus i rannu'r brwdfrydedd hwnnw â phobl ifanc. P'un a ydych ar ddechrau eich gyrfa neu'n dod â phrofiad o rywle arall, cewch eich cefnogi i ddatblygu, rhoi cynnig ar syniadau newydd a gwneud gwahaniaeth gwirioneddol.

Mae hwn yn gyfle cyffrous i gyfrannu at ddatblygiad parhaus Daearyddiaeth o fewn Maes Dysgu a Phrofiad y Dyniaethau, ac i chwarae rhan weithredol wrth lunio profiadau dysgu cyfoethog a dilys i'n disgyblion.

Mae Ysgol Dyffryn Taf yn ysgol gymunedol ym mhob ystyr. Wedi'i lleoli yn Hendy-gwyn ar Daf, yng nghanol Dyffryn Taf ar y ffin rhwng Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro, rydym yn gwasanaethu cymuned wledig glos, ac mae'r ymdeimlad hwnnw o berthyn yn treiddio drwy bopeth a wnawn. Gyda thua 900 o ddisgyblion rhwng 11 a 18 oed, rydym yn ddigon mawr i gynnig cwricwlwm eang a chweched dosbarth ffyniannus, ond yn ddigon bach i'r staff adnabod pob disgybl a'i deulu yn dda.

Mae ein gweledigaeth, "Gallwn, gofalwn", yn rhywbeth y byddwch yn ei deimlo o'ch diwrnod cyntaf. Mae staff yn gofalu am ei gilydd lawn cymaint ag y maent yn gofalu am ein disgyblion. Croesewir cydweithwyr newydd i dîm cefnogol, ac mae ein Uwch Dîm bob amser ar gael i wrando, helpu ac annog.

I ddaearyddwr, prin yw'r lleoedd gwell i addysgu. Mae aber Taf, arfordir Bae Caerfyrddin, Bryniau'r Preseli a Pharc Cenedlaethol Arfordir Penfro i gyd ar garreg ein drws. Mae hyn yn rhoi cyfleoedd cyfoethog i ddisgyblion archwilio eu cynefin drwy waith maes a chysylltu'r hyn a welant yn lleol â'r byd ehangach.

Os hoffech gael sgwrs anffurfiol, neu os hoffech ragor o wybodaeth am y swydd hon, mae croeso i chi gysylltu â'r ysgol ar 01994 242100, lle bydd un o aelodau'r Uwch Dîm yn gallu trafod y rôl yn fanylach.

Llenwch y ffurflen gais yn llawn. Rhaid i'r cais gyrraedd erbyn 9.00am ddydd Llun 7 Rhagfyr 2026.

Disgrifiad Swydd:

Teacher- English Secondary School.pdf - 161KB ~~EFORM_FILE_NEW_WINDOW~~

Dyddiad disgwyliedig y cyfweliad:

14 Rhagfyr 2026

Lefel DBS:

Bydd gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd gan Wirio'r Rhestr Wahardd yn ofynnol ar gyfer y swydd hon. Mae'n drosedd gwneud cais am y swydd os yw'r ymgeisydd wedi'i wahardd rhag cymryd rhan mewn gweithgareddau a reoleiddir sy'n berthnasol i blant neu oedolion sydd mewn perygl.

Lefel Sgiliau Cymraeg - Siarad:

Lefel 2 - Bydd angen ichi fod â lefel sylfaenol o Gymraeg llafar. Gellir darparu cymorth rhesymol ar ôl penodi i gyrraedd y lefel hon.

Dyddiad Cau: 07/12/2026, 09:00

Y Buddion

Rydym yn falch o gynnig amrywiaeth o fuddion i'n staff. Noder mai dim ond rhai o'r hyn a allai fod ar gael yw'r enghreifftiau a ddangosir, a gall cymhwysedd amrywio yn dibynnu ar eich rôl neu'ch math o gontract. Er enghraifft, efallai na fydd rhai buddion yn berthnasol i weithwyr achlysurol.
  • Cyflog cystadleuol
  • Cofrestru'n awtomatig i'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol
  • Hawl i wyliau blynyddol hael gyda'r opsiwn o brynu gwyliau blynyddol ychwanegol
  • Mynediad at gymorth iechyd a llesiant i staff
  • Datblygiad personol a dilyniant gyrfa
  • Cynlluniau disgownt staff a buddion eraill e.e., cynllun beicio i'r gwaith
  • Gweithio hyblyg a pholisïau sy'n ystyriol o deuluoedd

Rydym yn mabwysiadu dull 'recriwtio dienw' wrth lunio'r rhestr fer. Ni fydd rheolwyr recriwtio yn cael mynediad at wybodaeth bersonol, gan gynnwys eich enw a'ch manylion cyswllt, hyd nes y bydd penderfyniad wedi'i wneud ynghylch y rhestr fer.

Rydym wedi ymrwymo i recriwtio, cadw a datblygu gweithlu sy'n adlewyrchu'r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu. Mae rhannu eich data monitro cydraddoldeb yn ein galluogi i asesu effaith ein polisïau a'n harferion recriwtio a chyflogaeth ac yn rhoi cyfle i ni eu gwella lle bo modd. Nid yw rheolwyr recriwtio yn cael mynediad at wybodaeth monitro cydraddoldeb ar unrhyw adeg.

Gwybodaeth Ychwanegol

Rydym wedi ymrwymo i recriwtio diogel a theg, diogelu ac amddiffyn y rhai yr ydym yn gofalu amdanynt ac yn eu gwasanaethu. Rydym yn sicrhau bod ein holl staff yn cael eu fetio, eu dethol, eu hyfforddi a'u goruchwylio'n deg ac i safon uchel fel y gallant ddarparu gofal diogel, effeithiol a thosturiol.

Nodwch fod rhwymedigaeth gyfreithiol arnom i ystyried gweithwyr ar gyfer cyflogaeth arall addas os yw eu swyddi mewn perygl; rhoddir ystyriaeth ymlaen llaw i weithwyr presennol sy'n bodloni'r meini prawf hanfodol ac sydd wedi'u cofrestru ar ein cofrestr adleoli.

Hawl i weithio: Rhaid i bob cyflogwr yn y DU gynnal gwiriad Hawl i Weithio cyn i weithiwr newydd ddechrau gwaith. Mae hyn yn ofyniad cyfreithiol o dan Ddeddf Mewnfudo, Lloches a Chenedligrwydd 2006 ac mae'n berthnasol i bob gweithiwr, waeth beth fo'u cenedligrwydd.

Gofynnir i bob ymgeisydd am ei genedligrwydd ac a ganiateir iddo weithio yn y Deyrnas Unedig yn gyfreithlon. Pwrpas hyn yw cadarnhau a ydych yn gymwys i wneud cais am y swydd wag ac i weithio i'r Cyngor neu ei sefydliadau partner.

Mae gan Gyngor Sir Caerfyrddin drwydded nawdd ddilys. Fodd bynnag, rhaid i ymgeiswyr sydd angen nawdd o dan y llwybr Gweithiwr Medrus fodloni'r holl feini prawf cymhwysedd a nodir gan Lywodraeth y DU o dan y system fewnfudo sy'n seiliedig ar bwyntiau. Cyn cyflwyno cais, dylech wirio a yw'r rôl yn bodloni'r meini prawf cymhwysedd yng nghanllawiau Llywodraeth y DU: Skilled Worker visa: Overview - GOV.UK . Sylwer: Os nad ydych chi'n bodloni'r meini prawf cymhwysedd, ni fydd eich cais yn symud ymlaen. Os daw'n amlwg yn ddiweddarach nad ydych chi'n gymwys i wneud cais, efallai y bydd eich cais neu eich cynnig yn cael ei dynnu'n ôl.

Sut i wneud cais: Rhaid i bob cais am y swydd wag hon gael ei wneud drwy ein system ymgeisio ar-lein. Os oes gennych nam sy'n eich atal rhag gwneud cais ar-lein, e-bostiwch: swyddi@sirgar.gov.uk neu ffoniwch 01267 234567 a gofynnwch am 'Recriwtio' i drafod trefniadau eraill i'ch helpu yn y broses.

Gweler y canllawiau 'Sut rydym yn recriwtio' ar y Dudalen Gyrfaoedd i gael rhagor o wybodaeth am y broses recriwtio.