MANYLION.
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Llanelli, Sa15 4DN
- Pwnc: Heb ei ddarparu
- Oriau: Heb ei ddarparu
- Cytundeb : Heb ei ddarparu
- Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
- Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
- Math o gyflog : Per annum
- Cyflog : £41,994 - £45,292 / blwyddyn
- Iaith: Unrhyw
- Dyddiad Cau: 04 Rhagfyr, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: £41,994 - £45,292 / blwyddyn
Partner Iechyd a DiogelwchApplication Deadline: 4 December 2026
Department: Ystadau
Employment Type: Parhaol
Location: Campws Graig
Compensation: £41,994 - £45,292 / blwyddyn
DescriptionYdych chi'n frwdfrydig dros greu amgylcheddau diogel, iach a chynaliadwy lle gall pobl ffynnu? Mae gennym gyfle cyffrous ar gyfer Partner Iechyd a Diogelwch gwybodus, rhagweithiol a brwdfrydig i ymuno â'n Hadran Ystadau yng Ngholeg Sir Gâr a Choleg Ceredigion! Mae hon yn rôl amrywiol a gwerth chweil lle byddwch yn cael y cyfle i wneud gwahaniaeth go iawn i les ein dysgwyr, staff ac ymwelwyr.
Gan weithio'n agos â'n Rheolwr Iechyd a Diogelwch a chydweithwyr ar draws y colegau, byddwch yn chwarae rôl allweddol wrth hyrwyddo diwylliant o ddiogelwch cadarnhaol, sicrhau cydymffurfiad â deddfwriaeth a gyrru gwelliant parhaus mewn iechyd, diogelwch ac arferion amgylcheddol. Os ydych yn mwynhau datrys problemau, cydweithio a throi eich arbenigedd yn ddatrysiadau ymarferol, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych!
Yr hyn fyddwch chi'n ei wneudFel ein Partner Iechyd a Diogelwch, byddwch wrth wraidd y gwaith o greu a chynnal amgylcheddau diogel, cefnogol a chynaliadwy ar draws ein campysau. Trwy weithio ochr yn ochr â'n Rheolwr Iechyd a Diogelwch, byddwch yn cael y cyfle i ddylanwadu ar sut rydyn ni'n mynd i'r afael ag iechyd, diogelwch a rheolaeth amgylcheddol, gan helpu i sicrhau bod pob un sy'n astudio a gweithio yn ein colegau neu'n ymweld â nhw yn gallu gwneud hynny yn hyderus.
Mae hon yn rôl ymarferol ac amrywiol sy'n cyfuno arbenigedd proffesiynol â sgiliau datrys problemau yn ymarferol, cydweithio a gwelliant parhaus. Bydd eich cyfrifoldebau allweddol yn cynnwys:
- Hyrwyddo diwylliant iechyd a diogelwch cadarnhaolwrth weithio'n agos gyda chydweithwyr ar draws y colegau, gan ddarparu cyngor arbenigol, arweiniad a chefnogaeth i hyrwyddo arferion gwaith diogel a chyfrifoldeb a rennir.
- Gyrru gwelliant parhaus wrth gefnogi'r gwaith o ddatblygu, gweithredu ac adolygu polisïau, gweithdrefnau a systemau rheoli iechyd a diogelwch gan sicrhau eu bod yn parhau'n effeithiol ac yn cydymffurfio â deddfwriaeth.
- Nodi risgiau a dod o hyd i atebion ymarferol drwy archwilio'r campysau, archwiliadau ac asesiadau risg, helpu adrannau i fynd i'r afael â pheryglon posibl a chynnal amgylcheddau dysgu a gweithio diogel.
- Cefnogi diogelwch tân a bod yn barod ar gyfer argyfwng trwy gydlynu driliau tân, adolygu gweithdrefnau brys a chefnogi'r gwaith o reoli trefniadau cymorth cyntaf ar draws y campysau.
- Ymchwilio i ddigwyddiadau ac atal risgiau yn y dyfodol trwy adolygu damweiniau, digwyddiadau a damweiniau fu bron â digwydd, gan nodi'r achosion gwreiddiol ac argymell gwelliannau sy'n gwneud gwahaniaeth ystyrlon.
- Rhannu eich gwybodaeth a datblygu gwybodaeth pobl erailltrwy gynllunio a chyflwyno hyfforddiant iechyd a diogelwch diddorol, sesiynau cynefino a sesiynau ymwybyddiaeth sy'n helpu cydweithwyr i ddeall eu cyfrifoldebau.
- Cael effaith cadarnhaol ar yr amgylchedd trwy gefnogi mentrau cynaliadwyedd, cydymffurfiad amgylcheddol a chadw ein Safon Amgylcheddol Draig Werdd Lefel 5, gan annog defnyddio adnoddau mewn modd cyfrifol ac arferion amgylcheddol cynaliadwy.
- Dylanwadu ar benderfyniadau a chefnogi prosiectau ar draws y coleg trwy ddarparu cyngor proffesiynol ar ddatblygiadau ar y campws, ymweliadau addysgol, cyfarpar a gweithgareddau gweithredol, ac ar yr un pryd paratoi adroddiadau ac argymhellion ar gyfer yr uwch reolwyr a phwyllgorau perthnasol.
Yr hyn bydd ei angen arnochGofynion o ran y Gymraeg:
- Llafaredd Cymraeg (Gwrando/Siarad) - Lefel 0/1
- Llythrennedd Cymraeg (Ysgrifennu/Darllen) - Lefel 0/1
Mae croeso i bobl wneud cais am swyddi yn Gymraeg, ac ni fydd ceisiadau a wneir yn Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.
Cymwysterau, Profiad a Sgiliau:
Rydyn ni'n chwilio am rywun sy'n cyfuno gwybodaeth dechnegol gref gydag agwedd ymarferol, hawdd mynd ato a chydweithredol. Byddwch yn hyderus wrth rannu eich arbenigedd, meithrin perthnasoedd cadarnhaol a chefnogi cydweithwyr i wneud penderfyniadau gwybodus ynghylch iechyd, diogelwch a materion amgylcheddol.
I fod yn llwyddiannus yn y rôl hon, byddwch chi angen:
- Gradd neu gymhwyster NEBOSHmewn Iechyd a Diogelwch Galwedigaethol, Iechyd Amgylcheddol, neu ddisgyblaeth gysylltiedig.
- Dealltwriaeth drylwyr o ddeddfwriaeth iechyd a diogelwch, rheoliadau, a chanllawiau sy'n berthnasol i sefydliadau addysgol, gan gynnwys, methodolegau asesu risg a mesurau rheoli priodol.
- Sgiliau cyfathrebu a sgiliau rhyngbersonol rhagorol, gyda'r hyder i ddarparu cyngor proffesiynol, dylanwadu ar newid cadarnhaol a meithrin perthnasoedd gwaith effeithiol.
- Sgiliau dadansoddol, trefniadol, a sgiliau ysgrifennu adroddiadau cryf, ynghyd â'r gallu i ddehongli gwybodaeth gymhleth a chyfathrebu argymhellion ymarferol, clir.
- Dull rhagweithiol sy'n canolbwyntio ar ddatrysiadau, gyda'r gallu i weithio'n annibynnol, ymdopi â blaenoriaethau cystadleuol a chynnal safonau uchel dan bwysau.
- Dull proffesiynol, hawdd mynd ato a hyblyg, gyda'r gallu i fynd i'r afael â materion sensitif gyda diplomyddiaeth, tact a chyfrinachedd.
- Hyder wrth ddefnyddio ystod o systemau TG, gan gynnwys taenlenni a chronfeydd data, i reoli gwybodaeth, cynnal cofnodion a chefnogi'r gwaith o wneud adroddiadau.
- Ymrwymiad diffuant i hyrwyddo diwylliant iechyd a diogelwch cadarnhaol, gwelliant parhaus a gweithio ar y cyd.
- Y gallu i deithio rhwng campysau'r coleg yn ôl yr angen.
Gwybodaeth Ychwanegol
Bydd y rôl hon wedi'i lleoli ar Gampws y Graig, Llanelli, ynghyd â theithio i gampysau eraill Coleg Sir Gâr a Choleg Ceredigion yn ôl yr angen.
Byddwch yn ymuno â'r Adran Ystadau ac yn gweithio'n agos gyda chydweithwyr ar draws y ddau goleg i gefnogi amgylcheddau dysgu a gweithio diogel, a chynaliadwy sy'n cydymffurfio.
Os ydych yn barod i wneud defnydd da o'ch arbenigedd iechyd a diogelwch a chwarae rôl bwysig o ran cefnogi cymunedau ein coleg, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych!
Gwybodaeth Bellach
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y rôl neu os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Tom Braddock Tom.braddock@colegsirgar.ac.uk.
Buddion
- Byddwch yn cael 28 diwrnod o wyliau, ynghyd â gwyliau banc a phum diwrnod cau sef cyfanswm o 41 diwrnod o wyliau y flwyddyn. Hefyd byddwch yn cael 4 diwrnod ychwanegol ar ôl 5 mlynedd o wasanaeth.
- Cynllun pensiwn hynod o hael gyda 20% o gyfraniadau cyflogwr.
- Rhaglen dysgu a datblygu proffesiynol wobrwyedig.
- Cynllun seiclo i'r gwaith
- Maes parcio ceir am ddim ar y safle
- Disgowntiau mewn siopau adwerthu ac ar-lein