MANYLION.
  • Lleoliad: Aberystwyth, SY23 3BP
  • Pwnc: Heb ei ddarparu
  • Oriau: Heb ei ddarparu
  • Cytundeb : Heb ei ddarparu
  • Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
  • Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
  • Math o gyflog : Per annum
  • Cyflog : £37,140 - £39,602 / blwyddyn
  • Iaith: Unrhyw
  • Dyddiad Cau: 30 Tachwedd, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Rheolwr y Campws

Coleg Sir Gar

Cyflog: £37,140 - £39,602 / blwyddyn

Rheolwr y Campws
Application Deadline: 30 November 2026

Department: Swyddfa'r Campws

Employment Type: Parhaol

Location: Campws Aberystwyth

Compensation: £37,140 - £39,602 / blwyddyn

DescriptionYdych chi'n arweinydd profiadol, brwdfrydig sy'n ffynnu wrth sicrhau fod pethau'n rhedeg yn ddidrafferth a darparu gwasanaeth eithriadol? Mae gennym gyfle cyffrous i Reolwr Campws rhagweithiol a threfnus iawn ymuno â'n tîm yng Ngholeg Ceredigion, gan oruchwylio gweithrediadau dyddiol ein campysau yn Aberystwyth ac Aberteifi. Mae hon yn rôl amrywiol a gwerth chweil lle nad oes dau ddiwrnod yr un peth!

O arwain a chefnogi timau'r campysau i sicrhau bod ein cyfleusterau'n ddiogel, yn groesawgar ac yn gweithredu'n effeithlon, byddwch yn chwarae rôl allweddol wrth greu profiad cadarnhaol i'n dysgwyr, staff ac ymwelwyr. Os ydych chi'n gyfathrebwr hyderus, yn mwynhau dod o hyd i atebion ac yn meddu ar yr ysfa i wneud gwahaniaeth go iawn, byddem wrth ein bodd yn clywed oddi wrthych!

Yr hyn fyddwch chi'n ei wneud
  • Arwain a rheoli gweithrediadau dyddiol ein campysau yn Aberystwyth ac Aberteifi, gan sicrhau bod gwasanaethau'n rhedeg yn ddidrafferth ac yn effeithlon.
  • Rheoli a chefnogi timau ar y campysau, gan gynnwys staff gweinyddol, gofalwyr a staff glanhau, gan hyrwyddo safonau uchel o ran perfformiad a gwasanaeth cwsmer.
  • Goruchwylio gweithgareddau Swyddfa'r Campws, gan gynnwys ymholiadau gan fyfyrwyr, cofrestru, prosesau cofrestru a threfniadau arholiadau.
  • Gweithio'n agos gyda chydweithwyr ar draws ar draws Ystadau, Cyllid, Y Gofrestrfa, Derbyn ac adrannau academaidd i ddarparu gwasanaethau effeithiol a chydgysylltiedig.
  • Rheoli cyfleusterau'r campws, gan gynnwys bwcio ystafelloedd, ceisiadau am waith cynnal a chadw, amserlenni glanhau a diogelwch y safle.
  • Cymryd cyfrifoldeb dros iechyd a diogelwch y campysau, gan gynnwys asesiadau risg, gweithdrefnau diogelwch rhag tân, adrodd ar ddamweiniau ac ymatebion brys.
  • Goruchwylio gweithgareddau ariannol lleol a sicrhau bod adnoddau'n cael eu rheoli'n effeithiol yn unol â gweithdrefnau'r coleg.
  • Cydlynu rotas staff, trefniadau absenoldeb a rheoli absenoldeb er mwyn sicrhau lefelau staffio priodol ar draws y ddau gampws.
  • Cefnogi gwelliant parhaus gwasanaethau, systemau a gweithdrefnau'r campysau i wella profiad dysgwyr, staff ac ymwelwyr.
  • Ymateb yn broffesiynol ac yn effeithiol i heriau ac argyfyngau gweithredol, gan gynnwys gofynion achlysurol y tu allan i oriau gwaith.

Yr hyn bydd ei angen arnochGofynion o ran y Gymraeg:
  • Llafaredd Cymraeg (Gwrando/Siarad) - Lefel 3/4 Hanfodol
  • Llythrennedd Cymraeg (Ysgrifennu/Darllen) - Lefel 3/4 Hanfodol
(Gweler y disgrifiadau iaith manwl sydd wedi'u hatodi)

Mae croeso i bobl wneud cais am swyddi yn Gymraeg, ac ni fydd ceisiadau a wneir yn Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.


Cymwysterau, Profiad a Sgiliau:

  • Profiad perthnasol mewn rôl weinyddol, weithredol neu reoli, gyda'r gallu i gydlynu gwasanaethau a thimau cymorth yn effeithiol.
  • Sgiliau trefnu, cynllunio a datrys problemau cryf, gyda'r gallu i reoli blaenoriaethau sy'n cystadlu yn erbyn ei gilydd a gweithio'n dda o dan bwysau.
  • Sgiliau cyfathrebu a sgiliau rhyngbersonol rhagorol, gyda'r hyder i feithrin perthnasoedd gwaith cadarnhaol ar bob lefel.
  • Ymagwedd rhagweithiol, hunangymhellol a hyblyg, gyda'r gallu i gymryd y cam cyntaf a gwneud penderfyniadau cadarn.
  • Sgiliau dadansoddol cryf a sylw i fanylion, gydag ymrwymiad i gyflawni gwaith o ansawdd uchel.
  • Y gallu i drin gwybodaeth sensitif yn gyfrinachol ac ymdrin â sefyllfaoedd gyda phroffesiynoldeb, diplomyddiaeth a doethineb.
  • Profiad o weithredu, monitro a gwella systemau a gweithdrefnau er mwyn sicrhau bod gwasanaethau'n effeithiol ac yn effeithlon.
  • Cymwysterau TG ar Lefel 3 o leiaf (ECDL neu gyfwerth).
  • TGAU Saesneg a Mathemateg Gradd C neu uwch (neu gyfwerth).
  • Y gallu i deithio rhwng campysau yn ôl yr angen.
Byddai gradd berthnasol neu HND/HNC mewn Gweinyddu Busnes, Rheolaeth Busnes, Cyfrifyddu neu bwnc cysylltiedig yn ddymunol, yn ogystal â dealltwriaeth o Addysg Bellach ac Addysg Uwch.

Gwybodaeth Ychwanegol

Mae'r rôl hon yn cynnwys gweithio ar draws ein campysau yn Aberystwyth ac Aberteifi, gyda theithio achlysurol i safleoedd eraill Coleg Sir Gâr a Choleg Ceredigion yn ôl yr angen.

Bydd angen rhywfaint o hyblygrwydd i ymateb i ofynion gweithredol, gan gynnwys gwaith achlysurol y tu allan i oriau gwaith. Gall cyfleoedd gwyliau blynyddol fod yn gyfyngedig yn ystod y tymor hefyd.

Os ydych chi'n barod i ymgymryd â rôl arweinyddiaeth amrywiol a'n helpu i ddarparu profiad rhagorol i gymuned ein coleg ar ein campysau, byddem yn croesawu eich cais!

Gwybodaeth Bellach

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y rôl neu os hoffech gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Tom Braddock - Tom.braddock@colegsirgar.ac.uk.

Buddion
  • Byddwch yn cael 28 diwrnod o wyliau, ynghyd â gwyliau banc a phum diwrnod cau sef cyfanswm o 41 diwrnod o wyliau y flwyddyn. Hefyd byddwch yn cael 4 diwrnod ychwanegol ar ôl 5 mlynedd o wasanaeth.
  • Cynllun pensiwn hynod o hael gyda 20% o gyfraniadau cyflogwr.
  • Rhaglen dysgu a datblygu proffesiynol wobrwyedig.
  • Cynllun seiclo i'r gwaith
  • Maes parcio ceir am ddim ar y safle
  • Disgowntiau mewn siopau adwerthu ac ar-lein