MANYLION.
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Aberystwyth, SY23 3BP
- Pwnc: Heb ei ddarparu
- Oriau: Heb ei ddarparu
- Cytundeb : Heb ei ddarparu
- Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
- Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
- Math o gyflog : Per annum
- Cyflog : £11,207.70 / blwyddyn
- Iaith: Unrhyw
- Dyddiad Cau: 30 Tachwedd, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: £11,207.70 / blwyddyn
Cynorthwyydd FfreuturApplication Deadline: 30 November 2026
Department: Arall
Employment Type: Parhaol - Rhan Amser
Location: Campws Aberystwyth
Compensation: £11,207.70 / blwyddyn
DescriptionYdych chi'n mwynhau gweithio gyda phobl, bod yn rhan o dîm cefnogol a gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i ddiwrnod rhywun? Mae gennym gyfle gwych i Gynorthwyydd Ffreutur cyfeillgar, brwdfrydig a gweithgar ymuno â'n tîm ar Gampws Aberystwyth Coleg Ceredigion!
P'un a ydych chi'n paratoi bwyd, yn gweini myfyrwyr a staff, neu'n helpu i gadw ein ffreutur i redeg yn ddiffwdan, byddwch chi'n chwarae rhan allweddol wrth greu profiad croesawgar a phleserus i gymuned ein coleg. Os ydych chi'n frwd dros ddarparu gwasanaeth gwych, yn mwynhau rôl amrywiol ac ymarferol, ac yn ffynnu mewn amgylchedd tîm prysur, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych chi!
Yr hyn fyddwch chi'n ei wneud
- Paratoi, coginio a gweini bwyd a lluniaeth yn unol â chanllawiau'r coleg.
- Darparu gwasanaeth cyfeillgar, effeithlon a phroffesiynol i fyfyrwyr, staff ac ymwelwyr.
- Cynnal safonau uchel o ran glendid a hylendid ymhob rhan o'r gegin, y mannau paratoi bwyd a'r mannau bwyta.
- Golchi llestri, cyllyll a ffyrc a chyfarpar arlwyo, gan sicrhau y cedwir pob ardal yn lân ac yn daclus.
- Derbyn a gwirio nwyddau er mwyn sicrhau bod bwyd a chyflenwadau yn bodloni'r gofynion o ran ansawdd a maint.
- Sicrhau bod bwyd, diodydd a chyflenwadau arlwyo yn cael eu storio'n gywir ac yn ddiogel.
- Ymdrin â thaliadau a thrafodion arian parod yn unol â gweithdrefnau'r coleg.
- Cefnogi'r Goruchwyliwr Ffreutur a gweithio'n agos gyda chydweithwyr i sicrhau bod y ffreutur yn rhedeg yn ddidrafferth.
- Dilyn yr holl bolisïau a gweithdrefnau perthnasol yn ymwneud â hylendid bwyd ac iechyd a diogelwch.
Yr hyn bydd ei angen arnochGofynion o ran y Gymraeg:
- Llafaredd Cymraeg (Gwrando/Siarad) - Lefel 2 Hanfodol
- Llythrennedd Cymraeg (Ysgrifennu/Darllen) - Lefel 2 Hanfodol
Mae croeso i bobl wneud cais am swyddi yn Gymraeg, ac ni fydd ceisiadau a wneir yn Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.
- Cymhwyster arlwyo perthnasol a/neu brofiad blaenorol o weithio mewn amgylchedd arlwyo neu wasanaeth bwyd.
- Dealltwriaeth dda o ofynion hylendid bwyd ac iechyd a diogelwch mewn lleoliad arlwyo.
- Sgiliau trefnu cadarn a'r gallu i reoli tasgau'n effeithiol mewn amgylchedd prysur.
- Sgiliau cyfathrebu da, gyda ffordd gyfeillgar a hawdd mynd ato.
- Y gallu i weithio'n annibynnol ac fel rhan o dîm
- Parodrwydd i gymryd y cam cyntaf a chefnogi cydweithwyr pan fo angen.
Disgwylir cwblhau'r broses o lunio rhestr fer yn ystod yr wythnos sy'n dechrau 30 Tachwedd 2026, gyda chyfweliadau i'w cynnal wyneb yn wyneb ar ein Campws yn Aberystwyth ddydd Mercher, 9 Rhagfyr 2026.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y rôl neu'r broses recriwtio, cysylltwch â Lucy Williams - Lucy.williams@colegsirgar.ac.uk.
Buddion
- Byddwch yn cael 28 diwrnod o wyliau, ynghyd â gwyliau banc a phum diwrnod cau sef cyfanswm o 41 diwrnod o wyliau y flwyddyn. Hefyd byddwch yn cael 4 diwrnod ychwanegol ar ôl 5 mlynedd o wasanaeth.
- Cynllun pensiwn hynod o hael gyda 20% o gyfraniadau cyflogwr.
- Rhaglen dysgu a datblygu proffesiynol wobrwyedig.
- Cynllun seiclo i'r gwaith
- Maes parcio ceir am ddim ar y safle
- Disgowntiau mewn siopau adwerthu ac ar-lein