MANYLION.
  • Lleoliad: Coleg Cambria,
  • Pwnc: Heb ei ddarparu
  • Oriau: Heb ei ddarparu
  • Cytundeb : Heb ei ddarparu
  • Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
  • Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
  • Math o gyflog : Per annum
  • Cyflog : £34,997 - £39,441
  • Iaith: Unrhyw
  • Dyddiad Cau: 27 Tachwedd, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Arbenigwr Ymgysylltu â Chyflogwyr CC/3244

Coleg Cambria

Cyflog: £34,997 - £39,441

Disgrifiad Swydd a Manyleb Yr Unigolyn

Coleg Cambria: Cyflwyniad

Yng Ngholeg Cambria, ein nod yw bod yn sefydliad addysg eithriadol.

Rydym yn rhoi croeso cynnes i holl fyfyrwyr a staff i wneud Coleg Cambria yn lle rydych chi eisiau bod yn rhan ohono. Er mwyn sicrhau bod ein myfyrwyr yn cael y profiad a'r canlyniadau gorau y gallant eu cael, rydym yn sicrhau fod y bobl rydym yn eu cyflogi yn hapus. Rydym yn meithrin amgylchedd gwaith cadarnhaol, gweithlu sy'n ehangu ac yn gwella'n gyson, ac yn cynnig y cyfle i chi herio'ch hun. Yn ogystal â hynny, mae gennym ystod eang o fudd-daliadau i sicrhau fod ein gweithwyr yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, gan gynnwys gwyliau blynyddol hael, pecyn pensiwn gwych, ac aelodaeth â disgownt i'n campfeydd, ein salonau a'n bwytai hyfforddi proffesiynol.

Mae ein 5 safle, sydd wedi'u lleoli mewn ardal odidog yng Ngogledd Cymru, yn ehangu ac yn datblygu'n gyson. Gyda pherthnasoedd cryf gyda nifer o gwmnïau yn yr ardal, rydym yn helpu rhoi'r dechrau gorau i'n myfyrwyr i'w gyrfaoedd ac yn helpu'r economi leol i ffynnu. Mae gan Gymru ddiwylliant cadarn a balch, ac rydym yn parhau i ddatblygu'r gwerthoedd pwysig hynny trwy ymrwymo i hyrwyddo'r Gymraeg. Rydym yn falch iawn o'r hyn rydym wedi'i adeiladu yma ac rydym bellach yn chwilio am rywun i wella ein gweithlu sydd eisoes yn eithriadol.

Crynodeb o'r Swydd

Rhagori ar ddisgwyliadau drwy addysg, arloesedd ac ysbrydoliaeth...

Mae'r swydd hon yn addas i ymgeiswyr sydd â gwybodaeth dechnegol a phrofiad mewn amgylchedd gweithgynhyrchu.

Teitl y Swydd: Arbenigwr Ymgysylltu â Chyflogwyr

Lleoliad: Glannau Dyfrdwy

Math o Gytundeb: Parhaol: Llawn Amser

Cyflog: £34,997 - £39,441

Mae gennym ni swydd wag newydd ar hyn o bryd ar gyfer Arbenigwr Ymgysylltu â Chyflogwyr i ymuno â'n tîm Ymgysylltu â Chyflogwyr yng Nglannau Dyfrdwy.

Ar ôl sicrhau prosiect Parth Buddsoddi cyffrous newydd, bydd y swydd hon yn cyfrannu at gefnogi cyflogwyr i recriwtio gweithwyr newydd o fewn y Sector Gweithgynhyrchu Uwch ar draws Sir y Fflint a Wrecsam, yn ogystal â gwella ac ailhyfforddi eu gweithlu presennol.

Mae hyn yn cynnwys lleoliadau gwaith, cyfleoedd prentisiaeth a digwyddiadau cyflogadwyedd. Fel Arbenigwr Ymgysylltu â Chyflogwyr, byddwch yn gyfrifol am greu a chynnal cysylltiadau gyda chleientiaid hen a newydd. Bydd hefyd yn gyfrifoldeb arnoch i wneud y mwyaf o unrhyw gyfleoedd a ddaw i'ch rhan, ac i weithio tuag at gyrraedd targedau unigol, tîm a sefydliadol. Bydd gennych wybodaeth ragorol ynghylch y tirlun cyllido allanol.

Gofynion Hanfodol
  • Cymhwyster lefel 3 o leiaf (Safon Uwch neu gyfwerth)
  • Gallu i gynllunio, rheoli, a chyrraedd targedau'n effeithiol, gan gynnwys sgiliau trefnu a rheoli amser rhagorol.
  • Gallu i deithio at gyflogwyr ar draws Gogledd Cymru a gogledd-orllewin Lloegr.
  • Sgiliau cyfathrebu rhagorol, yn ysgrifenedig ac ar lafar, ynghyd â sgiliau trafod cryf.
  • Gallu i ddatblygu perthynas gref â staff, cleientiaid, a rhanddeiliaid mewnol/allanol.
  • Profiad sylweddol o ddatblygu busnes
  • Profiad o reoli perthnasoedd â chleientiaid
  • Dealltwriaeth o raglenni hyfforddi a datblygu (gan gynnwys prentisiaethau)
  • Profiad o weithio ym maes gwerthiant ymgynghorol ac mewn amgylchedd sy'n cael ysgogi gan dargedau.
  • Profiad o greu a chynnal rhwydweithiau a phartneriaethau allanol

Mae sgiliau Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon

Mae Coleg Cambria wedi ymrwymo i godi proffil y Gymraeg

Mae hyrwyddo'r Gymraeg yn rhan allweddol o'n gwaith. Mae croeso i ymgeiswyr gyflwyno cais yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Mae ffurflenni cais, deunydd esboniadol, gwybodaeth am y broses gyfweld a'r dulliau asesu, yn ogystal â'r disgrifiadau swydd i gyd ar gael yn Gymraeg.

Mae Coleg Cambria yn gyflogwr 'Hyderus o ran Anableddau'.

Mae hyrwyddo Cydraddoldeb ac Amrywiaeth yn rhan allweddol o'n gwaith, ac mae'r Coleg yn ymrwymo i gael grŵp o staff amrywiol.

Mae Coleg Cambria wedi ymrwymo i ddiogelu pob dysgwr, ac rydym yn disgwyl i bob aelod o staff rannu'r ymrwymiad hwn.

Mae'r swydd wedi'i chynnwys o dan Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) ac yn cael ei hystyried yn weithgaredd a reoleiddir. Gofynnir felly am Wiriad DBS Uwch gyda Rhestr Waharddedig, a disgwylir i ymgeiswyr ddatgelu pob rhybudd a chollfarn, yn cynnwys rhai sydd wedi'u disbyddu. Mae hi'n drosedd gwneud cais os ydych wedi eich gwahardd rhag gweithio gyda phlant. Ni fydd datgelu yn atal cyflogaeth yn awtomatig; cynhelir asesiad risg ond efallai y byddwn yn barnu bod rhai euogfarnau / rhybuddion yn anaddas i weithio gyda phlant.

Yn dibynnu ar y swydd, efallai y bydd angen i ymgeiswyr llwyddiannus gofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg hefyd.

Fel arfer mae swyddi'n cael eu hysbysebu gydag ystod gyflog. Os cynigir y swydd i chi yn y coleg, bydd profiad perthnasol yn cael ei ystyried er mwyn pennu eich cyflog cychwynnol.

Sylwer bod Coleg Cambria yn cadw'r hawl i gau'r rhestr ymgeiswyr yn gynharach na'r dyddiad a nodir pe baem yn derbyn nifer fawr o geisiadau. Byddem yn argymell eich bod yn cwblhau eich cais cyn gynted â phosibl os hoffech gael eich ystyried ar gyfer y swydd hon.

Buddion

Cynllun(iau) pensiwn ardderchog

Hawl gwyliau blynyddol hael

Darpariaeth feithrin ar ein safle yng Nglannau Dyfrdwy

Gostyngiadau ar ystod o gyrsiau gyda'r nos y coleg

Mynediad i ystod eang o gyrsiau e-ddysgu a datblygiad proffesiynol

Disgownt ar aelodaeth ystafell ffitrwydd

Cyfleusterau chwaraeon a ffitrwydd ardderchog

Parcio am ddim ar bob safle

Cynllun Beicio

Cyfraddau gostyngol ar gyfer trin gwallt a thriniaethau harddwch

Cyfraddau gostyngol yn ein bwytai

Absenoldeb mamolaeth, mabwysiadu a thadolaeth estynedig