MANYLION.
  • Lleoliad: Coleg Cambria,
  • Pwnc: Heb ei ddarparu
  • Oriau: Heb ei ddarparu
  • Cytundeb : Heb ei ddarparu
  • Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
  • Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
  • Math o gyflog : Per annum
  • Cyflog : £33,912 - £38,218
  • Iaith: Unrhyw
  • Dyddiad Cau: 27 Tachwedd, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Ymarferydd Dysgu yn y Gwaith (Cymraeg Hanfodol) Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Plant a Phobl Ifanc CC/3240

Coleg Cambria

Cyflog: £33,912 - £38,218

Disgrifiad Swydd a Manyleb Yr Unigolyn

Coleg Cambria: Cyflwyniad

Yng Ngholeg Cambria, ein nod yw bod yn sefydliad addysg eithriadol.

Rydym yn rhoi croeso cynnes i holl fyfyrwyr a staff i wneud Coleg Cambria yn lle rydych chi eisiau bod yn rhan ohono. Er mwyn sicrhau bod ein myfyrwyr yn cael y profiad a'r canlyniadau gorau y gallant eu cael, rydym yn sicrhau fod y bobl rydym yn eu cyflogi yn hapus. Rydym yn meithrin amgylchedd gwaith cadarnhaol, gweithlu sy'n ehangu ac yn gwella'n gyson, ac yn cynnig y cyfle i chi herio'ch hun. Yn ogystal â hynny, mae gennym ystod eang o fudd-daliadau i sicrhau fod ein gweithwyr yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, gan gynnwys gwyliau blynyddol hael, pecyn pensiwn gwych, ac aelodaeth â disgownt i'n campfeydd, ein salonau a'n bwytai hyfforddi proffesiynol.

Mae ein 5 safle, sydd wedi'u lleoli mewn ardal odidog yng Ngogledd Cymru, yn ehangu ac yn datblygu'n gyson. Gyda pherthnasoedd cryf gyda nifer o gwmnïau yn yr ardal, rydym yn helpu rhoi'r dechrau gorau i'n myfyrwyr i'w gyrfaoedd ac yn helpu'r economi leol i ffynnu. Mae gan Gymru ddiwylliant cadarn a balch, ac rydym yn parhau i ddatblygu'r gwerthoedd pwysig hynny trwy ymrwymo i hyrwyddo'r Gymraeg. Rydym yn falch iawn o'r hyn rydym wedi'i adeiladu yma ac rydym bellach yn chwilio am rywun i wella ein gweithlu sydd eisoes yn eithriadol.

Crynodeb o'r Swydd

Teitl y Swydd : Ymarferydd Dysgu yn y Gwaith (Cymraeg Hanfodol) Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Plant a Phobl Ifanc

Lleoliad : Glannau Dyfrdwy

Math o Gontract : Llawn Amser / Parhaol

Cyflog : £33,912 - £38,218.

Ar hyn o bryd mae gennym ni swydd wag ar gyfer Ymarferydd Dysgu yn y Gwaith yn ein darpariaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol Plant a Phobl Ifanc.

Beth fyddwch chi'n ei wneud
  • Asesu'r ystod lawn o gymwysterau o fewn y maes pwnc perthnasol (Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Plant a Phobl Ifanc) yn unol â gofynion y sefydliad dyfarnu sy'n gysylltiedig â sgiliau a chymhwysedd galwedigaethol.
  • Gweithio gyda llwyth achosion o ddysgwyr ledled Gogledd Cymru, a bennir gan fformiwla llwyth achosion y coleg perthnasol.
  • Cynnal Asesiad Cychwynnol ar gyfer dysgwyr, cofrestru ar gyrsiau priodol a darparu cyfleoedd hyfforddi, mentora a dysgu.
  • Darparu sesiynau gwybodaeth sylfaenol i ddysgwyr naill ai ar sail 1-1 neu weithdy (argymhellir maint grŵp mwyaf o 8).
  • Monitro cynnydd dysgwyr tuag at gymwysterau, rhoi adborth adeiladol iddynt a'u tywys i baratoi e-bortffolio o dystiolaeth.
  • Asesu portffolios dysgwyr a chyflwyno portffolios wedi'u cwblhau ar gyfer sicrhau ansawdd mewnol.

Y Pethau Hanfodol
  • Cymhwyster perthnasol i'r proffesiwn ym maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Plant a Phobl Ifanc), i gynnal asesiadau hyd at Lefel 3.
  • Meddu ar gymhwyster asesu (TAQA), neu fod yn barod i weithio tuag ato.
  • Meddu ar gymhwyster Sicrhau Ansawdd (ar hyn o bryd Uned TAQA 401), neu fod yn barod i weithio tuag ato.
  • Bod yn siaradwr Cymraeg dwyieithog rhugl; mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.
  • Cymwysterau Saesneg a Mathemateg Lefel 2 (neu gyfatebol) ar Radd 4 (C) neu uwch.
  • Meddu ar gymhwyster Llythrennedd Digidol Lefel 2, neu fod yn barod i weithio tuag ato.
  • Profiad diwydiannol profedig mewn maes perthnasol i'r proffesiwn (Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Plant a Phobl Ifanc).
  • Profiad o gydweithio a ffurfio partneriaethau â rheolwyr allanol yn y diwydiant.
  • Y gallu i ddangos ymrwymiad i gynnal a datblygu safonau ansawdd o fewn addysg.

Hanfodol ydy sgiliau'r Gymraeg ar gyfer y swydd hon. Rydym yn chwilio am ymgeiswyr sy'n gallu ein helpu ni i ehangu ein darpariaeth a'n gwasanaethau dwyieithog.

Nod Coleg Cambria ydy hyrwyddo ac ymgorffori'r Gymraeg a diwylliant Cymru yn rhagweithiol. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu cyfleoedd a chefnogi ein cydweithwyr i ddatblygu eu sgiliau Cymraeg mewn lleoliadau ffurfiol ac anffurfiol. Mae hyn yn cynnwys gallu dilyn cynlluniau hyfforddiant Cymraeg yn ogystal â thaliadau anogaeth ar gyfer darpariaeth a gwasanaethau dwyieithog.

Rydym yn annog ceisiadau yn y Gymraeg yn fawr. Ni fydd ceisiadau a gyflwynwyd yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynwyd yn Saesneg.

Bydd ffurflenni cais, deunydd esboniadol, gwybodaeth am y broses gyfweld a dulliau asesu a disgrifiadau swydd i gyd ar gael yn Gymraeg.

Mae Coleg Cambria yn gyflogwr 'Hyderus o ran Anableddau'.

Rydyn ni'n adeiladu coleg sy'n adlewyrchu'r gymuned fywiog ac amrywiol rydyn ni'n ei gwasanaethu. Rydyn ni'n croesawu ac yn annog ceisiadau gan unigolion o bob cefndir, yn enwedig y rhai o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol.

Mae Coleg Cambria wedi ymrwymo i ddiogelu pob dysgwr, ac rydym yn disgwyl i bob aelod o staff rannu'r ymrwymiad hwn.

Mae'r rôl hon wedi'i chynnwys o dan Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) ac wedi'i dosbarthu fel gweithgaredd rheoleiddiedig.

Mae'n ofynnol felly cael gwiriad DBS Uwch gyda Rhestr Waharddedig, ac mae'n rhaid i ymgeiswyr ddatgelu pob rhybudd a chollfarn yn cynnwys unrhyw rai sydd wedi darfod. Mae'n drosedd gwneud cais os ydych wedi'ch gwahardd rhag gweithio gyda phlant. Ni fydd datgelu yn atal cyflogaeth yn awtomatig; cynhelir asesiad risg ond efallai y byddwn yn ystyried bod rhai euogfarnau / rhybuddion yn golygu eu bod nhw'n anaddas i weithio gyda phlant.

Yn dibynnu ar y swydd, efallai y bydd angen i ymgeiswyr llwyddiannus gofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg hefyd.

Fel arfer mae swyddi'n cael eu hysbysebu gydag ystod cyflog. Os cewch gynnig swydd yn y coleg, bydd profiad perthnasol yn cael ei ystyried er mwyn pennu eich cyflog cychwynnol.

Sylwer fod Coleg Cambria yn cadw'r hawl i gau'r rhestr ymgeiswyr yn gynnar ar gyfer unrhyw swydd pe byddwn yn derbyn nifer fawr o geisiadau. Byddwn yn argymell eich bod yn cwblhau eich cais cyn gynted â phosibl os hoffech gael eich ystyried ar gyfer y swydd hon.

Buddion

Cynllun(iau) pensiwn ardderchog

Hawl gwyliau blynyddol hael

Darpariaeth feithrin ar ein safle yng Nglannau Dyfrdwy

Gostyngiadau ar ystod o gyrsiau gyda'r nos y coleg

Mynediad i ystod eang o gyrsiau e-ddysgu a datblygiad proffesiynol

Disgownt ar aelodaeth ystafell ffitrwydd

Cyfleusterau chwaraeon a ffitrwydd ardderchog

Parcio am ddim ar bob safle

Cynllun Beicio

Cyfraddau gostyngol ar gyfer trin gwallt a thriniaethau harddwch

Cyfraddau gostyngol yn ein bwytai

Absenoldeb mamolaeth, mabwysiadu a thadolaeth estynedig