MANYLION.
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Llanelli, Sa15 4DN
- Pwnc: Heb ei ddarparu
- Oriau: Heb ei ddarparu
- Cytundeb: Heb ei ddarparu
- Math o gyflog: Per annum
- Cyflog: £26,387 - £51,931 / blwyddyn
- Iaith: Unrhyw
- Dyddiad Cau: 30 Hydref, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: £26,387 - £51,931 / blwyddyn
Darlithydd mewn Peirianneg FecanyddolApplication Deadline: 30 October 2026
Department: Peirianneg
Employment Type: Llawn Amser
Location: Campws Graig
Reporting To: Pennaeth Maes Cwricwlwm
Compensation: £26,387 - £51,931 / blwyddyn
DescriptionMae Coleg Sir Gâr yn chwilio am Ddarlithydd brwdfrydig, rhagweithiol ac arloesol mewn Peirianneg Fecanyddol i ymuno â'n tîm Peirianneg ar Gampws y Graig, Llanelli.
Mae hwn yn gyfle cyffrous i gyflwyno addysgu, dysgu ac asesu o ansawdd uchel ar draws rhaglenni Peirianneg Fecanyddol Addysg Bellach, ochr yn ochr â chyrsiau masnachol a chyrsiau mewnol i gwmnïau ar gyfer diwydiant lleol. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cyfuno gwybodaeth ddamcaniaethol gref ag arbenigedd ymarferol, i gyflwyno dysgu diddorol, sy'n canolbwyntio ar y diwydiant, gan baratoi dysgwyr ar gyfer cyflogaeth, prentisiaethau neu astudio pellach.
Gan weithio ar y cyd â chydweithwyr a chyflogwyr, byddwch yn cyfrannu at ddatblygu'r cwricwlwm ac yn cefnogi cyflawniad dysgwyr. Yn ogystal byddwch yn ymgymryd â chyfrifoldebau arwain cwrs a Thiwtor Personol, monitro presenoldeb a chynnydd, a chefnogi anghenion unigol a lles dysgwyr.
Dylai ymgeiswyr feddu ar radd berthnasol neu gymhwyster cyfwerth, bod â phrofiad addysgu perthnasol a dylent allu dangos cymhwysedd wrth ddefnyddio meddalwedd Peirianneg Fecanyddol, peiriannau a chyfarpar y gweithdy o safon y diwydiant. Mae cymhwyster addysgu yn ofynnol, neu ymrwymiad i ennill TAR o fewn dwy flynedd i'r penodiad. Byddai profiad diwydiannol o fewn peirianneg fecanyddol, gweithgynhyrchu neu gynnal a chadw, ochr yn ochr â chymwysterau aseswr neu ddilysydd, yn fanteisiol.
Os ydych yn frwdfrydig ynghylch datblygu'r genhedlaeth nesaf o beirianwyr a chyfrannu at lwyddiant parhaus Peirianneg yng Ngholeg Sir Gâr, byddem yn croesawu eich cais.
Cyfrifoldebau Allweddol
- Cynllunio, paratoi a chyflwyno gwersi, tiwtorialau, sesiynau gweithdy diddorol o ansawdd uchel a gweithgareddau dysgu agored ar draws rhaglenni Peirianneg Fecanyddol Addysg Bellach.
- Cynllunio, cynnal, goruchwylio a marcio asesiadau ymarferol, gwaith cwrs ac arholiadau yn unol â gofynion y corff dyfarnu a gweithdrefnau'r Coleg.
- Gweithredu fel Arweinydd Cwrs ar gyfer rhaglen benodedig, gan gydlynu cyflwyno, cynllunio asesu a chyfathrebu â thîm y rhaglen.
- Gweithio'n hyblyg i fodloni anghenion y cwricwlwm, gan gynnwys addysgu wedi'i amserlennu yn ystod y dydd a gyda'r nos a mynychu Nosweithiau Agored, Nosweithiau Rhieni, cyfweliadau dysgwyr a digwyddiadau cofrestru.
- Cyfrannu at ddatblygu a chyflwyno cyrsiau masnachol a chyrsiau mewnol ar gyfer cwmnïau a phrosiectau allanol perthnasol.
- Cynnal a datblygu cysylltiadau â chyflogwyr er mwyn llywio cyflwyno'r cwricwlwm a chefnogi dysgu'n gysylltiedig â gwaith a chyfleoedd dilyniant.
Sgiliau Gwybodaeth ac ArbenigeddHanfodol
- Gradd berthnasol neu gymhwyster cyfwerth
- Cymhwyster addysgu (Os nad ydych yn meddu ar gymhwyster addysgu ar ddyddiad dechrau'r swydd, bydd hi'n ofynnol i chi ennill TAR o fewn 2 flynedd i'r dyddiad hwn)
- TGAU Saesneg a Mathemateg - o leiaf Gradd C neu Lefel O cyfwerth
- Profiad addysgu perthnasol
- Hyfedredd Technegol: Lefel uchel o gymhwysedd wrth ddefnyddio meddalwedd Peirianneg Fecanyddol o safon y diwydiant
- Cymhwysedd ymarferol wrth ddefnyddio peiriannau o safon y diwydiant, cyfarpar y gweithdy ac offerynnau mesur trachywir, a mynd i'r afael â ffitio mecanyddol, cydosod, cynnal a chadw a chanfod namau
- Sgiliau llythrennedd a rhifedd da a'r gallu i gyfathrebu'n effeithiol ar bob lefel ar lafar ac yn ysgrifenedig
- Dealltwriaeth gadarn o lythrennedd digidol
- Sgiliau rhyngbersonol a threfniadol ardderchog
- Y gallu i weithio'n gytûn gyda myfyrwyr a chydweithwyr
- Y gallu i weithio dan bwysau ac i derfynau amser tynn
- Prydlondeb ardderchog a'r gallu i weithio'n hyblyg
- Dyfarniadau Aseswr/Dilysydd: Dyfarniadau Aseswr (A1/TAQA) neu Ddilysydd (V1) perthnasol
- Dealltwriaeth fanwl o faterion perthnasol mewn addysg ôl 16
- Profiad Diwydiannol Profiad diwydiannol o fewn y sectorau trydanol, electronig, neu awtomeiddio
- Hanes profedig o lefelau uchel o gyrhaeddiad dysgwyr
- Ymwybyddiaeth o ddangosyddion perfformiad allweddol
- Tystiolaeth o weithgareddau addysgu a dysgu arloesol
- Tystiolaeth o olrhain a monitro perfformiad dysgwyr yn effeithiol
- Profiad o gymryd rhan weithredol yng ngofal bugeiliol pobl ifanc
- Llefaredd Cymraeg (Gwrando/Siarad) - Lefel 0/1 Dymunol
- Llythrennedd Cymraeg (Ysgrifennu/Darllen) - Lefel 0/1 Dymunol
Mae croeso i bobl wneud cais am swyddi yn Gymraeg, ac ni fydd ceisiadau a wneir yn Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.
Buddion
- Byddwch yn cael 46 diwrnod o wyliau, ynghyd â gwyliau banc a phum diwrnod cau sef cyfanswm o 59 diwrnod o wyliau y flwyddyn.
- Hefyd byddwch yn cael 4 diwrnod ychwanegol ar ôl 5 mlynedd o wasanaeth.
- Cynllun pensiwn hynod o hael gyda 23.68% o gyfraniadau cyflogwr.
- Rhaglen dysgu a datblygu proffesiynol wobrwyedig.
- Cynllun seiclo i'r gwaith
- Maes parcio ceir am ddim ar y safle
- Disgowntiau mewn siopau adwerthu ac ar-lein