MANYLION.
  • Lleoliad: Llanelli, Sa15 4DN
  • Pwnc: Heb ei ddarparu
  • Oriau: Heb ei ddarparu
  • Cytundeb: Heb ei ddarparu
  • Math o gyflog: Per annum
  • Cyflog: £26,387 - £51,931 / blwyddyn
  • Iaith: Unrhyw
  • Dyddiad Cau: 30 Hydref, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Darlithydd mewn Peirianneg Drydanol

Coleg Sir Gar

Cyflog: £26,387 - £51,931 / blwyddyn

Darlithydd mewn Peirianneg Drydanol
Application Deadline: 30 October 2026

Department: Peirianneg

Employment Type: Llawn Amser

Location: Campws Graig

Reporting To: Pennaeth Maes Cwricwlwm - Peirianneg a Modurol

Compensation: £26,387 - £51,931 / blwyddyn

DescriptionMae Coleg Sir Gâr yn chwilio am Ddarlithydd brwdfrydig, rhagweithiol ac arloesol mewn Peirianneg Drydanol i ymuno â'n tîm Peirianneg ar Gampws y Graig, Llanelli.

Mae hwn yn gyfle cyffrous i gyflwyno addysgu, dysgu ac asesu o ansawdd uchel ar draws rhaglenni Peirianneg Drydanol Addysg Bellach ochr yn ochr â chyrsiau masnachol a chyrsiau mewnol i gwmnïau ar gyfer diwydiant lleol. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cyfuno gwybodaeth ddamcaniaethol gref ag arbenigedd ymarferol, i gyflwyno dysgu diddorol, sy'n canolbwyntio ar y diwydiant, gan baratoi dysgwyr ar gyfer cyflogaeth, prentisiaethau neu astudio pellach.

Gan weithio ar y cyd â chydweithwyr a chyflogwyr, byddwch yn cyfrannu at ddatblygu'r cwricwlwm ac yn cefnogi cyflawniad dysgwyr. Yn ogystal byddwch yn ymgymryd â chyfrifoldebau arwain cwrs a Thiwtor Personol, monitro presenoldeb a chynnydd, a chefnogi anghenion unigol a lles dysgwyr.

Dylai ymgeiswyr feddu ar radd berthnasol neu gymhwyster cyfwerth, bod â phrofiad addysgu perthnasol a dylent allu dangos cymhwysedd mewn cyfarpar a meddalwedd o safon y diwydiant. Mae cymhwyster addysgu yn ofynnol, neu ymrwymiad i ennill TAR o fewn dwy flynedd i'r penodiad. Byddai profiad diwydiannol o fewn y sectorau trydanol, electronig neu awtomeiddio a chymwysterau asesydd neu ddilysydd yn fanteisiol.

Os ydych yn frwdfrydig ynghylch datblygu'r genhedlaeth nesaf o beirianwyr a chyfrannu at lwyddiant parhaus Peirianneg yng Ngholeg Sir Gâr, byddem yn croesawu eich cais.

Cyfrifoldebau Allweddol
  • Cynllunio, paratoi a chyflwyno gwersi, tiwtorialau, sesiynau gweithdy diddorol o ansawdd uchel a gweithgareddau dysgu agored ar draws rhaglenni Peirianneg Drydanol Addysg Bellach.
  • Cynllunio, cynnal, goruchwylio a marcio asesiadau ymarferol, gwaith cwrs ac arholiadau yn unol â gofynion y corff dyfarnu a gweithdrefnau'r Coleg.
  • Gweithredu fel Arweinydd Cwrs ar gyfer rhaglen benodedig, gan gydlynu cyflwyno, cynllunio asesu a chyfathrebu â thîm y rhaglen.
  • Gweithio'n hyblyg i fodloni anghenion y cwricwlwm, gan gynnwys addysgu wedi'i amserlennu yn ystod y dydd a gyda'r nos a mynychu Nosweithiau Agored, Nosweithiau Rhieni, cyfweliadau dysgwyr a digwyddiadau cofrestru.
  • Cyfrannu at ddatblygu a chyflwyno cyrsiau masnachol a chyrsiau mewnol ar gyfer cwmnïau a phrosiectau allanol perthnasol.
  • Cynnal a datblygu cysylltiadau â chyflogwyr er mwyn llywio cyflwyno'r cwricwlwm a chefnogi dysgu'n gysylltiedig â gwaith a chyfleoedd dilyniant.

Sgiliau Gwybodaeth ac ArbenigeddHanfodol
  • Gradd berthnasol neu gymhwyster cyfwerth
  • Cymhwyster addysgu (Os nad ydych yn meddu ar gymhwyster addysgu ar ddyddiad dechrau'r swydd, bydd hi'n ofynnol i chi ennill TAR o fewn 2 flynedd i'r dyddiad hwn)
  • TGAU Saesneg a Mathemateg - o leiaf Gradd C neu Lefel O cyfwerth
  • Profiad addysgu perthnasol
  • Hyfedredd Technegol: Lefel uchel o gymhwysedd wrth ddefnyddio meddalwedd safon y diwydiant (e.e., MATLAB/Simulink, MULTISIM, CAD, meddalwedd raglennu PLC) ac offer caledwedd ar gyfer sesiynau yn y labordy a sesiynau ymarferol
  • Sgiliau llythrennedd a rhifedd da a'r gallu i gyfathrebu'n effeithiol ar bob lefel ar lafar ac yn ysgrifenedig
  • Dealltwriaeth gadarn o lythrennedd digidol
  • Sgiliau rhyngbersonol a threfniadol ardderchog
  • Y gallu i weithio'n gytûn gyda myfyrwyr a chydweithwyr
  • Y gallu i weithio dan bwysau ac i derfynau amser tynn
  • Prydlondeb ardderchog a'r gallu i weithio'n hyblyg
Dymunol
  • Dyfarniadau Aseswr/Dilysydd: Dyfarniadau Aseswr (A1/TAQA) neu Ddilysydd (V1) perthnasol
  • Dealltwriaeth fanwl o faterion perthnasol mewn addysg ôl 16
  • Profiad Diwydiannol Profiad diwydiannol o fewn y sectorau trydanol, electronig, neu awtomeiddio
  • Hanes profedig o lefelau uchel o gyrhaeddiad dysgwyr
  • Ymwybyddiaeth o ddangosyddion perfformiad allweddol
  • Tystiolaeth o weithgareddau addysgu a dysgu arloesol
  • Tystiolaeth o olrhain a monitro perfformiad dysgwyr yn effeithiol
  • Profiad o gymryd rhan weithredol yng ngofal bugeiliol pobl ifanc
Yr Iaith Gymraeg:
  • Llefaredd Cymraeg (Gwrando/Siarad) - Lefel 0/1 Dymunol
  • Llythrennedd Cymraeg (Ysgrifennu/Darllen) - Lefel 0/1 Dymunol
(Gweler disgrifiadau iaith manwl ynghlwm)

Mae croeso i bobl wneud cais am swyddi yn Gymraeg, ac ni fydd ceisiadau a wneir yn Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.

Buddion
  • Byddwch yn cael 46 diwrnod o wyliau, ynghyd â gwyliau banc a phum diwrnod cau sef cyfanswm o 59 diwrnod o wyliau y flwyddyn.
  • Hefyd byddwch yn cael 4 diwrnod ychwanegol ar ôl 5 mlynedd o wasanaeth.
  • Cynllun pensiwn hynod o hael gyda 23.68% o gyfraniadau cyflogwr.
  • Rhaglen dysgu a datblygu proffesiynol wobrwyedig.
  • Cynllun seiclo i'r gwaith
  • Maes parcio ceir am ddim ar y safle
  • Disgowntiau mewn siopau adwerthu ac ar-lein