MANYLION.
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Bangor,
- Pwnc: Heb ei ddarparu
- Oriau: Llawn amser
- Cytundeb: Parhaol
- Math o gyflog: Per annum
- Cyflog: £29,878.74- £32,423.10 y flwyddyn, yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad
- Iaith: Unrhyw
- Dyddiad Cau: 30 Hydref, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: £29,878.74- £32,423.10 y flwyddyn, yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad
Golyga'r swydd hon fod yn gyfrifol am recriwtio, cadw a rheoli llwyth achosion safonol o ddysgwyr sydd wedi dewis cofrestru yn cwblhau eu hastudiaethau. Bydd profiad ym maes rheoli a phrofiad digidol yn fanteisiol.Mae'r Asesydd yn gyfrifol am ddarparu hyfforddiant, asesu, a sicrhau ansawdd gwaith y dysgwyr. Bydd yr asesydd yn goruchwylio dealltwriaeth a chymhwysedd ymarferol y dysgwyr yn y gweithle.
Bydd disgwyl i'r asesydd recriwtio dysgwyr a darparu amrywiaeth o gymwysterau.
O ddydd i ddydd bydd y swydd yn golygu cyfarfod â dysgwyr a chyflogwyr mewn lleoliadau gwaith gwahanol. Ar y cyfan, bydd hyn yn digwydd yn ddigidol ond bydd peth teithio'n ddisgwyliedig, gan weithio'n annibynnol i sicrhau cydymffurfiaeth â gofynion cymwysterau. Bydd gofyn i'r asesydd feddu ar y sgiliau i gynllunio ymweliadau mewn modd rhesymegol o ran cyfyngu ar deithio a gwneud y defnydd gorau o amser. Yn ogystal, bydd yn darparu adnoddau a chefnogaeth i fodloni anghenion unigol pob dysgwr yn ei ddewis iaith.
Bydd yr asesydd yn un o dîm o aseswyr o fewn Busnes@GLLM a bydd disgwyl iddynt hyrwyddo'r cyrsiau a gynigir er mwyn annog dysgwyr i gofrestru arnynt.
Byddem yn croesawu ceisiadau gan bobl sydd â phrofiad o leiaf 3 blynedd mewn rôl gwasanaeth cwsmeriaid, gweinyddu busnes, digidol, arwain tîm neu reoli.
Manylion Swydd
Cyfeirnod y Swydd
BD/050/26
Cyflog
£29,878.74- £32,423.10 y flwyddyn, yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad
Lleoliad Gwaith
- Bangor
- Wedi ei nodi yn y Swydd Ddisgrifiad
- Llanelwy
Hawl gwyliau
- 28 diwrnod y flwyddyn, yn codi i 32 diwrnod ar ôl pum mlynedd lawn o wasanaeth di-dor (01 Medi i 31 Awst).
- Yr holl wyliau cyhoeddus arferol, i'w pennu'n flynyddol.
- Hyd at 5 diwrnod effeithlonrwydd / diwrnod y trefnwyd i'r safle fod ar gau bob blwyddyn, i'w pennu'n flynyddol.
- Bydd gan y rhai ar gontractau Rhan-amser hawl pro rata i'r hyn a nodir uchod.
- Bydd gan y rhai ar gontractau Amser Tymor hawl pro rata i'r hyn a nodir uchod a delir fel rhan o'r cyflog blynyddol.
Patrwm gweithio
37 awr yr wythnos
Hawliau Pensiwn
Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol
Math o gytundeb
Llawn Amser Parhaol
Dyddiad cau
30 Hyd 2026
12:00 YH(Ganol dydd)