MANYLION.
  • Lleoliad: Llangefni,
  • Pwnc: Heb ei ddarparu
  • Oriau: Rhan amser
  • Cytundeb: Cyfnod penodol
  • Math o gyflog: Heb ei Gyflenwi
  • Cyflog: £14.563 - £14,841 y flwyddyn, yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad
  • Iaith: Unrhyw
  • Dyddiad Cau: 23 Hydref, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Mentor Llwyddiant Dysgwyr, Tymor yn Unig, Cyfnod penodol hyd at Awst 2027

Grwp Llandrillo Menai

Cyflog: £14.563 - £14,841 y flwyddyn, yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad

Cyflwyniad i'r swydd:
  • Ydych chi yn hoffi gweld pobl ifanc yn llwyddo?
  • Oes gennych chi y sgiliau i gael y gorau allan o bobl ifanc?
  • Ydych chi'n berson agored; hwyliog a phenderfynol?
  • Ydych chi yn hoffi gweithio a helpu pobl ifanc i gyflawni eu potensial?

............Os ydych yn ateb yr uchod yn gadarnhaol ac yn awyddus i wneud gwahaniaeth i fywydau a dyfodol pobl ifanc, yna mae'r swydd hon yn ddelfrydol ar eich cyfer chi. Byddwch yn gweithio gyda thîm o staff ymroddedig eraill i sicrhau cyfleon a chefnogaeth deilwng i ddysgwyr y Grŵp.

PWRPAS Y SWYDD

Mae Grŵp Llandrillo Menai yn peilota swyddogaeth newydd sef Mentor Llwyddiant Dysgwyr(MLlD). Bydd deiliaid y swyddi hyn yn cefnogi ein dysgwyr llawn amser i uchafu eu presenoldeb yn y coleg, canolbwyntio a chyflawni eu nodau addysgiadol.

Manylion Swydd
Cyfeirnod y Swydd
CM/047/26

Cyflog
£14.563 - £14,841 y flwyddyn, yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad

Lleoliad Gwaith
  • Llangefni

Hawl gwyliau
  • 28 diwrnod y flwyddyn, yn codi i 32 diwrnod ar ôl pum mlynedd lawn o wasanaeth di-dor (01 Medi i 31 Awst).
  • Yr holl wyliau cyhoeddus arferol, i'w pennu'n flynyddol.
  • Hyd at 5 diwrnod effeithlonrwydd / diwrnod y trefnwyd i'r safle fod ar gau bob blwyddyn, i'w pennu'n flynyddol.
  • Bydd gan y rhai ar gontractau Rhan-amser hawl pro rata i'r hyn a nodir uchod.
  • Bydd gan y rhai ar gontractau Amser Tymor hawl pro rata i'r hyn a nodir uchod a delir fel rhan o'r cyflog blynyddol.


Patrwm gweithio
25 awr yr wythnos

36 wythnos y flwyddyn

Hawliau Pensiwn
Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol

Math o gytundeb
Rhan Amser Cyfnod Penodol

Dyddiad cau
23 Hyd 2026
12:00 YH(Ganol dydd)