MANYLION.
  • Lleoliad: Llanelli, Sa15 4DN
  • Pwnc: Heb ei ddarparu
  • Oriau: Heb ei ddarparu
  • Cytundeb: Heb ei ddarparu
  • Math o gyflog: Per annum
  • Cyflog: £26,387 - £51,931 / blwyddyn
  • Iaith: Unrhyw
  • Dyddiad Cau: 21 Hydref, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Darlithydd Weldio a Ffabrigo

Coleg Sir Gar

Cyflog: £26,387 - £51,931 / blwyddyn

Darlithydd Weldio a Ffabrigo
Application Deadline: 21 October 2026

Department: Peirianneg

Employment Type: Parhaol

Location: Campws Graig

Reporting To: Pennaeth Cwricwlwm - Peirianneg

Compensation: £26,387 - £51,931 / blwyddyn

DescriptionMae Coleg Sir Gâr yn awyddus i benodi Ddarlithydd Weldio a Ffabrigobrwdfrydig, arloesol ac ymroddedig i ymuno â'n tîm Peirianneg deinamig sy'n tyfu. Dyma gyfle cyffrous i weithiwr proffesiynol profiadol siapio dyfodol addysg ym maes peirianneg drwy ddarparu addysgu, cyfarwyddyd gweithdy ymarferol, a chefnogaeth academaidd o ansawdd uchel ar draws ein rhaglenni Addysg Bellach (Lefelau 1-3).

P'un a ydych chi'n ddarlithydd profiadol neu'n arbenigwr yn y diwydiant sy'n awyddus i gamu i fyd addysg, byddwch chi'n meddu ar gefndir ymarferol cryf mewn prosesau MMA, MIG, TIG, a Ffabrigo, ynghyd â brwdfrydedd dros ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o beirianwyr.

Cyfrifoldebau Allweddol
  • Cyflwyno addysgu ymarferol a damcaniaethol diddorol o ansawdd uchel ar draws cyrsiau Weldio a Ffabrigo Lefel 1-3.
  • Datblygu deunyddiau cwricwlwm, cynnwys cyrsiau ac aseiniadau ymarferol sy'n cyd-fynd â safonau cyfredol y diwydiant.
  • Cefnogi cyflawniad dysgwyr unigol, olrhain cynnydd, a dilyniant i ddiwydiant neu addysg uwch.
  • Cydweithio â chydweithwyr adrannol, cyflogwyr lleol, a phartneriaid yn y diwydiant i sicrhau bod rhaglenni'n parhau i fod ar flaen y gad.
  • Cynnal safonau uchel o ran iechyd a diogelwch yn y gweithdy, cynnal a chadw cyfarpar, ac arferion gwaith diogel.

Sgiliau Gwybodaeth ac ArbenigeddHanfodol
  • Tystysgrif/Diploma Crefft Uwch mewn disgyblaeth Weldio a/neu Ffabrigo neu faes cysylltiedig
  • Prentisiaeth mewn Weldio a/neu Ffabrigo
  • TAR, Tystysgrif Addysg, neu gymhwyster addysgu cydnabyddedig cyfatebol. (Rhaid i ymgeiswyr heb y cymhwyster hwn ennill cymhwyster TAR o fewn 2 flynedd i ddyddiad y gyflogaeth, ac yn ystod y cyfnod hwnnw bydd y Raddfa Darlithydd Cysylltiol yn berthnasol).
  • TGAU Saesneg a Mathemateg - o leiaf Gradd C neu Lefel O cyfwerth
  • Profiad profedig o addysgu technegau weldio MMA, MIG, TIG a/neu Ffabrigo
  • Lefel uchel o gymhwysedd wrth ddefnyddio Peiriannau Diwydiannol (e.e. Gilotinau, Torwyr, Tocwyr, Llifanwyr, ac ati)
  • Y gallu i oruchwylio grŵp o ddysgwyr yn ddiogel mewn gweithdy
  • Y gallu i addysgu ystod eang o fodiwlau sy'n cwmpasu gwaith theori, efelychu, ac ymarferol
  • Cyfathrebwr da â diplomyddiaeth a thact
  • Sgiliau rhyngbersonol a threfniadol da
  • Y gallu i weithio'n gytûn gyda myfyrwyr a chydweithwyr
  • Y gallu i weithio dan bwysau ac i derfynau amser tynn
  • Prydlondeb ardderchog a'r gallu i weithio'n hyblyg
Dymunol
  • Dyfarniadau Aseswr (A1/TAQA) neu Wiriwr (V1) Perthnasol
  • Cymhwyster IOSH neu NEBOSH
  • Profiad profedig o addysgu'n llwyddiannus ar draws lefelau 1-3
  • Profiad diwydiannol yn y sector Weldio a/neu Ffabrigo
  • Dealltwriaeth drylwyr o faterion cyfredol perthnasol ym maes Addysg Bellach
  • Tystiolaeth o weithgareddau addysgu a dysgu arloesol
  • Tystiolaeth o olrhain a monitro perfformiad dysgwyr yn effeithiol
  • Profiad o gymryd rhan weithredol yng ngofal bugeiliol pobl ifanc
  • Dealltwriaeth gadarn o lythrennedd digidol
Yr Iaith Gymraeg:
  • Llefaredd Cymraeg (Gwrando/Siarad) - Lefel 0/1 Dymunol
  • Llythrennedd Cymraeg (Ysgrifennu/Darllen) - Lefel 0/1 Dymunol
(Gweler disgrifiadau iaith manwl ynghlwm)

Mae croeso i bobl wneud cais am swyddi yn Gymraeg, ac ni fydd ceisiadau a wneir yn Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.

Buddion
  • Byddwch yn cael 46 diwrnod o wyliau, ynghyd â gwyliau banc a phum diwrnod cau sef cyfanswm o 59 diwrnod o wyliau y flwyddyn.
  • Hefyd byddwch yn cael 4 diwrnod ychwanegol ar ôl 5 mlynedd o wasanaeth.
  • Cynllun pensiwn hynod o hael gyda 23.68% o gyfraniadau cyflogwr.
  • Rhaglen dysgu a datblygu proffesiynol wobrwyedig.
  • Cynllun seiclo i'r gwaith
  • Maes parcio ceir am ddim ar y safle
  • Disgowntiau mewn siopau adwerthu ac ar-lein