MANYLION.
  • Lleoliad: Glannau Dyfrdwy,
  • Pwnc: Heb ei ddarparu
  • Oriau: Heb ei ddarparu
  • Cytundeb: Heb ei ddarparu
  • Math o gyflog: Per annum
  • Cyflog: £32,806 - £35,997
  • Iaith: Unrhyw
  • Dyddiad Cau: 03 Tachwedd, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Cymhorthydd Personol CC/3221

Coleg Cambria

Cyflog: £32,806 - £35,997

Disgrifiad Swydd a Manyleb Person

Coleg Cambria: Cyflwyniad

Yng Ngholeg Cambria, ein nod yw bod yn sefydliad addysg eithriadol.

Rydym yn rhoi croeso cynnes i holl fyfyrwyr a staff i wneud Coleg Cambria yn lle rydych chi eisiau bod yn rhan ohono. Er mwyn sicrhau bod ein myfyrwyr yn cael y profiad a'r canlyniadau gorau y gallant eu cael, rydym yn sicrhau fod y bobl rydym yn eu cyflogi yn hapus. Rydym yn meithrin amgylchedd gwaith cadarnhaol, gweithlu sy'n ehangu ac yn gwella'n gyson, ac yn cynnig y cyfle i chi herio'ch hun. Yn ogystal â hynny, mae gennym ystod eang o fudd-daliadau i sicrhau fod ein gweithwyr yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, gan gynnwys gwyliau blynyddol hael, pecyn pensiwn gwych, ac aelodaeth â disgownt i'n campfeydd, ein salonau a'n bwytai hyfforddi proffesiynol.

Mae ein 5 safle, sydd wedi'u lleoli mewn ardal odidog yng Ngogledd Cymru, yn ehangu ac yn datblygu'n gyson. Gyda pherthnasoedd cryf gyda nifer o gwmnïau yn yr ardal, rydym yn helpu rhoi'r dechrau gorau i'n myfyrwyr i'w gyrfaoedd ac yn helpu'r economi leol i ffynnu. Mae gan Gymru ddiwylliant cadarn a balch, ac rydym yn parhau i ddatblygu'r gwerthoedd pwysig hynny trwy ymrwymo i hyrwyddo'r Gymraeg. Rydym yn falch iawn o'r hyn rydym wedi'i adeiladu yma ac rydym bellach yn chwilio am rywun i wella ein gweithlu sydd eisoes yn eithriadol.

Crynodeb o'r Swydd

Cymhorthydd Personol

Rydym yn croesawu ymgeiswyr o bob cefndir i ymuno a'n tîm cefnogol. Yn y swydd hon, byddwch yn darparu gwasanaeth cymorth ysgrifenyddol cyfrinachol, effeithlon ac effeithiol i'r Dirprwy Brif Weithredwr a'r uwch reolwyr. Byddwch yn cydbwyso cymorth personol lefel uchel, rheoli dyddiaduron a chyfarfodydd gyda chydlynu prosesau coleg allweddol a gweithrediad effeithiol Hybiau Ystwyth ar ein safleoedd Glannau Dyfrdwy ac Iâl.

Yr hyn fyddwch chi'n ei wneud
  • Gweithredu fel prif bwynt cyswllt y Dirprwy Brif Weithredwr a'r Uwch Dim Rheoli, gan dderbyn a chroesawu rhanddeiliaid allanol proffil uchel, gwleidyddion, a swyddogion Llywodraeth Cymru.
  • Rheoli'n weithredol ddyddiadur cymhleth y Dirprwy Brif Weithredwr, trefnu apwyntiadau, cydlynu teithio a llety, a pharatoi deunyddiau briffio i sicrhau bod gweithrediadau dyddiol yn rhedeg yn esmwyth.
  • Trefnu cyfarfodydd, llunio agendâu, ac ysgrifennu/trawsgrifio cofnodion ffurfiol ar gyfer cyfarfodydd Uwch Dîm Rheoli, pwyllgorau mewnol y coleg, a chyfarfodydd y Corff Llywodraethu/y Bwrdd.
  • Rheoli a chydlynu prosesau allweddol y coleg sydd wedi eu cysylltu â phortffolio'r Dirprwy Brif Weithredwr, gan ymdrin â materion sensitif a chyfrinachol gyda doethineb a dechrau gohebiaeth briodol.
  • Cynorthwyo wrth weithredu Hybiau Ystwyth Glannau Dyfrdwy ac Iâl yn effeithiol, trwy gydweithio a'r tîm Cymhorthwyr Personol ehangach gan ddarparu arweiniad i gydweithwyr yn ôl yr angen.
  • Cynorthwyo gyda digwyddiadau mawr yn y coleg a gofynion statudol, gan gynnwys arolygiadau Estyn/Ofsted a Digwyddiadau Agored.

Dylai fod gan
  • Cymhwyster Lefel 4 neu brofiad rheoli perthnasol cyfwerth.
  • O leiaf 2 flynedd o brofiad yn darparu cymorth gweinyddol/cymhorthydd personal cynhwysfawr i uwch reolwyr mewn sefydliad mawr neu gymhleth.
  • Profiad o ysgrifennu/trawsgrifio cofnodion ffurfiol a chydlynu/rheoli prosesau sefydliadol cymhleth.
  • Llythrennedd TG cadarn ar draws MS Office, Google, a chyfathrebu digidol, gyda chymhwyster Lefel 2 mewn Llythrennedd Digidol (neu barodrwydd i weithio at hynny).
  • Ymrwymiad i ddiogelu pobl ifanc ac oedolion agored i niwed.

Hyblygrwydd ac Addasiadau
  • Dewisiadau Gweithio: Rydym yn cefnogi trefniadau gweithio'n ystwyth a chydweithio ar draws safleoedd allweddol, gan gynnwys ein Hybiau Ystwyth yng Nglannau Dyfrdwy ac Iâl.
  • Addasiadau ar gyfer y Cyfweliad: Rhowch wybod i ni os oes angen unrhyw addasiadau neu gyfaddasiad digidol yn ystod o broses gyfweld.
  • Iaith: Rydym wedi ymrwymo i hyrwyddo'r Gymraeg a diwylliant Cymru, ac rydym yn croesawu ceisiadau a gyflwynir yn Gymraeg. Anogir yn gryf sgiliau cyfathrebu rhugl yn y Gymraeg (ar lafar ac yn ysgrifenedig) neu gydymdeimlad â diwylliant Cymru.

Eisiau gwybod rhagor? Am sgwrs anffurfiol am y swydd a'n hamgylchedd gweithio, cysylltwch â Lee-ann Davies trwy anfon e-bost at recruitment@cambria.ac.uk .

Dymunol ydy sgiliau'r Gymraeg ar gyfer y swydd hon. Rydym yn chwilio am ymgeiswyr sy'n gallu ein helpu ni i ehangu ein darpariaeth a'n gwasanaethau dwyieithog.

Nod Coleg Cambria ydy hyrwyddo ac ymgorffori'r Gymraeg a diwylliant Cymru yn rhagweithiol. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu cyfleoedd a chefnogi ein cydweithwyr i ddatblygu eu sgiliau Cymraeg mewn lleoliadau ffurfiol ac anffurfiol. Mae hyn yn cynnwys gallu dilyn cynlluniau hyfforddiant Cymraeg yn ogystal â thaliadau anogaeth ar gyfer darpariaeth a gwasanaethau dwyieithog.

Rydym yn annog ceisiadau yn y Gymraeg yn fawr. Ni fydd ceisiadau a gyflwynwyd yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynwyd yn Saesneg.

Bydd ffurflenni cais, deunydd esboniadol, gwybodaeth am y broses gyfweld a dulliau asesu a disgrifiadau swydd i gyd ar gael yn Gymraeg.

Mae Coleg Cambria yn gyflogwr 'Hyderus o ran Anableddau'.

Rydyn ni'n adeiladu coleg sy'n adlewyrchu'r gymuned fywiog ac amrywiol rydyn ni'n ei gwasanaethu. Rydyn ni'n croesawu ac yn annog ceisiadau gan unigolion o bob cefndir, yn enwedig y rhai o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol.

Mae Coleg Cambria wedi ymrwymo i ddiogelu pob dysgwr, ac rydym yn disgwyl i bob aelod o staff rannu'r ymrwymiad hwn.

Mae'r rôl hon wedi'i chynnwys o dan Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) ac wedi'i dosbarthu fel gweithgaredd rheoleiddiedig.

Mae'n ofynnol felly cael gwiriad DBS Uwch gyda Rhestr Waharddedig, ac mae'n rhaid i ymgeiswyr ddatgelu pob rhybudd a chollfarn yn cynnwys unrhyw rai sydd wedi darfod. Mae'n drosedd gwneud cais os ydych wedi'ch gwahardd rhag gweithio gyda phlant. Ni fydd datgelu yn atal cyflogaeth yn awtomatig; cynhelir asesiad risg ond efallai y byddwn yn ystyried bod rhai euogfarnau / rhybuddion yn golygu eu bod nhw'n anaddas i weithio gyda phlant.

Yn dibynnu ar y swydd, efallai y bydd angen i ymgeiswyr llwyddiannus gofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg hefyd.

Fel arfer mae swyddi'n cael eu hysbysebu gydag ystod cyflog. Os cewch gynnig swydd yn y coleg, bydd profiad perthnasol yn cael ei ystyried er mwyn pennu eich cyflog cychwynnol.

Sylwer fod Coleg Cambria yn cadw'r hawl i gau'r rhestr ymgeiswyr yn gynnar ar gyfer unrhyw swydd pe byddwn yn derbyn nifer fawr o geisiadau. Byddwn yn argymell eich bod yn cwblhau eich cais cyn gynted â phosibl os hoffech gael eich ystyried ar gyfer y swydd hon.

Buddion

Cynllun(iau) pensiwn ardderchog

Hawl gwyliau blynyddol hael

Darpariaeth feithrin ar ein safle yng Nglannau Dyfrdwy

Gostyngiadau ar ystod o gyrsiau gyda'r nos y coleg

Mynediad i ystod eang o gyrsiau e-ddysgu a datblygiad proffesiynol

Disgownt ar aelodaeth ystafell ffitrwydd

Cyfleusterau chwaraeon a ffitrwydd ardderchog

Parcio am ddim ar bob safle

Cynllun Beicio

Cyfraddau gostyngol ar gyfer trin gwallt a thriniaethau harddwch

Cyfraddau gostyngol yn ein bwytai

Absenoldeb mamolaeth, mabwysiadu a thadolaeth estynedig