MANYLION.
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Bridgend,
- Pwnc: Heb ei ddarparu
- Oriau: Rhan amser
- Cytundeb: Dros dro
- Math o gyflog: Per annum
- Cyflog: Digymhwyster: £26,386 - £31,139 y flwyddyn (pro rata, tâl fesul awr)Cymwysedig: £33,596 - £51,932 y flwyddyn (pro rata, tâl fesul awr)
- Iaith: Unrhyw
- Dyddiad Cau: 18 Hydref, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: Digymhwyster: £26,386 - £31,139 y flwyddyn (pro rata, tâl fesul awr)Cymwysedig: £33,596 - £51,932 y flwyddyn (pro rata, tâl fesul awr)
Darlithydd Celfyddydau Perfformio - Actio a Delir fesul AwrSylwer, contract a delir fesul awr yw hon, sy'n golygu na ellir gwarantu dyddiau ac oriau penodol - fe'u cynigir ar sail achlysurol, ad hoc, i fodloni anghenion y gwasanaeth, felly gallant amrywio.
Digymhwyster: £26,386 - £31,139 y flwyddyn (pro rata, tâl fesul awr)
Cymwysedig: £33,596 - £51,932 y flwyddyn (pro rata, tâl fesul awr)
Mae gennym gyfle cyffrous i ymuno â'n tîm Celfyddydau Perfformio angerddol yng Ngholeg Penybont fel Darlithydd Actio a delir fesul awr. Os ydych yn ymarferydd creadigol a brwdfrydig, gyda gallu profedig i addysgu a mentora myfyrwyr, ac yn angerddol am ddod â'r theatr yn fyw, bydd y rôl hon yn eich galluogi i rannu eich gwybodaeth am y diwydiant a helpu ein myfyrwyr talentog i feithrin yr hyder a'r sgiliau sydd eu hangen arnynt ar gyfer gyrfa lwyddiannus yn y celfyddydau perfformio.
Rydym yn chwilio am rywun sydd â phrofiad ymarferol a phroffesiynol, ac sy'n teimlo'n hollol gartrefol yn cyfarwyddo cynyrchiadau, yn arwain prosiectau ac yn hyfforddi actorion mewn sgiliau fel llais, symudiad a datblygu cymeriadau. Bydd angen i chi ddangos hyder wrth ddysgu ystod amrywiol o dechnegau ac ymarferwyr actio, fel Stanislavski, Brecht a Strasberg, ac wrth roi cyd-destun i hanes ac esblygiad y theatr ar gyfer dysgwyr Lefel 2 a 3. Yn ddelfrydol, bydd gennych radd mewn Actio neu Ddrama a chymhwyster dysgu (neu barodrwydd i weithio tuag at un). Mae profiad o weithio gyda chorff dyfarnu UAL hefyd yn hynod ddymunol.
I gael rhagor o wybodaeth, gweler pecyn gwybodaeth y swydd .
Mae Coleg Penybont yn cydnabod ei gyfrifoldeb dros sicrhau diogelwch a lles pob myfyriwr. Rydym yn defnyddio proses drylwyr i wirio addasrwydd staff a gwirfoddolwyr i weithio â phlant ac oedolion sy'n agored i niwed. Mae'r swydd uchod yn amodol ar Wiriad Manylach gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) ar gyfer y gweithlu plant ac oedolion a bydd rhaid i chi gofrestru fel Athro Addysg Bellach gyda Chyngor y Gweithlu Addysg.
Mae Coleg Penybont yn deall gwerth darparu gwasanaethau yn Gymraeg a'r angen i dyfu ei weithlu dwyieithog. Rydym felly'n annog ceisiadau gan ymgeiswyr sydd â sgiliau Cymraeg da. Nodwch yn eich datganiad personol a fyddai'n well gennych i'ch asesiad/cyfweliad gael ei gynnal yn Gymraeg.
Rydym wrthi'n ceisio gwella cynrychiolaeth o bob rhan o'r gymuned a hyrwyddo cyfleoedd cyfartal. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb, gan gynnwys pobl o wahanol gefndiroedd a chymunedau, ac o wahanol oedrannau.
Rydym yn falch o fod yn Arweinydd Hyderus o ran Anabledd ac rydym yn gwarantu cyfweld ag unrhyw un sydd ag anabledd cyn belled â bod eu cais yn bodloni meini prawf hanfodol y swydd, a byddwn yn eu hystyried ar eu galluoedd. Gallwn hefyd gynnig addasiadau rhesymol trwy gydol y broses recriwtio.
Bydd gofyn i'r ymgeisydd llwyddiannus ddarparu tystiolaeth o'i hunaniaeth a'i gymhwystra i weithio yn y DU.
Nid yw'r Coleg yn cymryd rhan yng Nghynllun Noddi Fisa'r DU, felly bydd rhaid i ymgeiswyr ddarparu tystiolaeth o'u hawl i weithio yn y DU os cynigir rôl iddynt gyda ni.
Sylwer, efallai y bydd gofyn am gyfweliad neu asesiad ail gam.