MANYLION.
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Rhyl,
- Pwnc: Heb ei ddarparu
- Oriau: Llawn amser
- Cytundeb: Cyfnod penodol
- Math o gyflog: Per annum
- Cyflog: £19,418 - £19,788 y flwyddyn, yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad
- Iaith: Unrhyw
- Dyddiad Cau: 20 Hydref, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Mentor Llwyddiant Dysgwyr, Tymor yn Unig, cytundeb penodol hyd at 30 Mehefin 2027
Grwp Llandrillo Menai
Cyflog: £19,418 - £19,788 y flwyddyn, yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad
- Ydych chi yn hoffi gweld pobl ifanc yn llwyddo?
- Oes gennych chi y sgiliau i gael y gorau allan o bobl ifanc?
- Ydych chi'n berson agored; hwyliog a phenderfynol?
- Ydych chi yn hoffi gweithio a helpu pobl ifanc i gyflawni eu potensial?
............Os ydych yn ateb yr uchod yn gadarnhaol ac yn awyddus i wneud gwahaniaeth i fywydau a dyfodol pobl ifanc yng Nghonwy a Dinbych, yna mae'r swydd hon yn ddelfrydol ar eich cyfer chi. Byddwch yn gweithio gyda thîm o staff ymroddedig eraill i sicrhau cyfleon a chefnogaeth deilwng i ddysgwyr Coleg Llandrillo.
Pwrpas y swydd
Mae Grŵp Llandrillo Menai yn peilota swyddogaeth newydd sef Mentor Llwyddiant Dysgwyr(MLlD). Bydd deiliaid y swyddi hyn yn cefnogi ein dysgwyr llawn amser i uchafu eu presenoldeb yn y coleg, canolbwyntio a chyflawni eu nodau addysgiadol.
Bydd y MLlD yn cael eu rheoli yn uniongyrchol gan Reolwyr Maes Rhaglen ac fe fyddant yn cefnogi tiwtoriaid personol i ddelio gyda'r materion dysgwyr canlynol:
- Diffyg Presenoldeb
- Ymddygiad annerbyniol
- Methiant i gwblhau gwaith colegol
Manylion Swydd
Cyfeirnod y Swydd
CL/035/26
Cyflog
£19,418 - £19,788 y flwyddyn, yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad
Lleoliad Gwaith
- Y Rhyl
- Llandrillo-yn-Rhos
Hawl gwyliau
- 28 diwrnod y flwyddyn, yn codi i 32 diwrnod ar ôl pum mlynedd lawn o wasanaeth di-dor (01 Medi i 31 Awst).
- Yr holl wyliau cyhoeddus arferol, i'w pennu'n flynyddol.
- Hyd at 5 diwrnod effeithlonrwydd / diwrnod y trefnwyd i'r safle fod ar gau bob blwyddyn, i'w pennu'n flynyddol.
- Bydd gan y rhai ar gontractau Rhan-amser hawl pro rata i'r hyn a nodir uchod.
- Bydd gan y rhai ar gontractau Amser Tymor hawl pro rata i'r hyn a nodir uchod a delir fel rhan o'r cyflog blynyddol.
Patrwm gweithio
30 awr yr wythnos
40 wythnos y flwydyn
Hawliau Pensiwn
Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol
Math o gytundeb
Rhan Amser Cyfnod Penodol
Dyddiad cau
20 Hyd 2026
12:00 YH(Ganol dydd)