MANYLION.
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Coleg Caambria,
- Pwnc: Heb ei ddarparu
- Oriau: Heb ei ddarparu
- Cytundeb: Heb ei ddarparu
- Math o gyflog: Per annum
- Cyflog: £27,120 - £27,500
- Iaith: Unrhyw
- Dyddiad Cau: 28 Hydref, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: £27,120 - £27,500
Disgrifiad Swydd a Manyleb Yr UnigolynColeg Cambria: Cyflwyniad
Yng Ngholeg Cambria, ein nod yw bod yn sefydliad addysg eithriadol.
Rydym yn rhoi croeso cynnes i holl fyfyrwyr a staff i wneud Coleg Cambria yn lle rydych chi eisiau bod yn rhan ohono. Er mwyn sicrhau bod ein myfyrwyr yn cael y profiad a'r canlyniadau gorau y gallant eu cael, rydym yn sicrhau fod y bobl rydym yn eu cyflogi yn hapus. Rydym yn meithrin amgylchedd gwaith cadarnhaol, gweithlu sy'n ehangu ac yn gwella'n gyson, ac yn cynnig y cyfle i chi herio'ch hun. Yn ogystal â hynny, mae gennym ystod eang o fudd-daliadau i sicrhau fod ein gweithwyr yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, gan gynnwys gwyliau blynyddol hael, pecyn pensiwn gwych, ac aelodaeth â disgownt i'n campfeydd, ein salonau a'n bwytai hyfforddi proffesiynol.
Mae ein 5 safle, sydd wedi'u lleoli mewn ardal odidog yng Ngogledd Cymru, yn ehangu ac yn datblygu'n gyson. Gyda pherthnasoedd cryf gyda nifer o gwmnïau yn yr ardal, rydym yn helpu rhoi'r dechrau gorau i'n myfyrwyr i'w gyrfaoedd ac yn helpu'r economi leol i ffynnu. Mae gan Gymru ddiwylliant cadarn a balch, ac rydym yn parhau i ddatblygu'r gwerthoedd pwysig hynny trwy ymrwymo i hyrwyddo'r Gymraeg. Rydym yn falch iawn o'r hyn rydym wedi'i adeiladu yma ac rydym bellach yn chwilio am rywun i wella ein gweithlu sydd eisoes yn eithriadol.
Crynodeb o'r Swydd
Rhagori ar ddisgwyliadau trwy addysg, arloesedd ac ysbrydoliaeth...
Teitl y Swydd: Mentor Anhwylder Sbectrwm Awtistiaeth (ASD)
Lleoliad: Llaneurgain (gan gynnwys teithio i safleoedd eraill)
Math o Gontract: Parhaol: Llawn amser
Cyflog: £27,120 - £27,500
Ar hyn o bryd, mae gennym swydd wag i Fentor Anhwylder y Sbectrwm Awtistig (ASD) i weithio yn ein tîm Cynhwysiant deinamig. Mae'r rôl yn golygu teithio i'n safleoedd yn Deeside ac Yale i ddarparu cymorth ar draws y campysau pan fo angen.
Mae'r mentor ASD yn darparu gwasanaeth sy'n ategu'r gefnogaeth bresennol yn y Coleg, gan fynd i'r afael ag anghenion myfyrwyr awtistig sydd angen cymorth i oresgyn rhwystrau er mwyn cyrraedd eu potensial llawn.
Beth fyddwch chi'n ei wneud
- Cefnogi pontio effeithiol i ddysgwyr ag anawsterau cyfathrebu cymdeithasol ac sy'n profi gorbryder eithafol.
- Gwella profiad coleg y rhai sy'n profi pryder cymdeithasol.
- Darparu cefnogaeth i fyfyrwyr ag ASD ac anawsterau cyfathrebu cymdeithasol gydag effaith ymarferol eu hawtistiaeth ar eu profiad academaidd yn yr ystafell ddosbarth a/neu yn ystod amser egwyl a chinio.
- Gweithio'n agos a chyfathrebu'n effeithiol â thîm Cynhwysiant y Coleg i gefnogi cysylltu â staff addysgu a gwasanaethau'r coleg.
- Cyflwyno ymyriadau sy'n canolbwyntio ar fagu hyder a chymell myfyrwyr i gymryd rhan yn eu sesiynau wedi'u hamserlennu ac ymgymryd â'r astudiaeth annibynnol sy'n ofynnol i gwblhau eu cwrs.
Pethau Hanfodol
- Wedi cael addysg i Safon Lefel 2 neu safon gyfatebol (neu uwch) mewn Saesneg a Mathemateg.
- Yn meddu ar gymhwyster Llythrennedd Digidol Lefel 2 ar hyn o bryd, neu'n fodlon gweithio tuag ato.
- Profiad proffesiynol o gefnogi pobl ag anhwylderau'r sbectrwm awtistig mewn lleoliad Addysg Bellach neu leoliad tebyg.
- Profiad o ddarparu cymorth un-i-un a chymorth grŵp i ddysgwyr ag anghenion cymorth ychwanegol mewn lleoliad addysgol neu amgylchedd cysylltiedig.
- Hyder wrth weithio'n annibynnol gyda dysgwyr ag anhwylderau'r sbectrwm awtistig (ASD).
Dymunol ydy sgiliau'r Gymraeg ar gyfer y swydd hon. Rydym yn chwilio am ymgeiswyr sy'n gallu ein helpu ni i ehangu ein darpariaeth a'n gwasanaethau dwyieithog.
Nod Coleg Cambria ydy hyrwyddo ac ymgorffori'r Gymraeg a diwylliant Cymru yn rhagweithiol. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu cyfleoedd a chefnogi ein cydweithwyr i ddatblygu eu sgiliau Cymraeg mewn lleoliadau ffurfiol ac anffurfiol. Mae hyn yn cynnwys gallu dilyn cynlluniau hyfforddiant Cymraeg yn ogystal â thaliadau anogaeth ar gyfer darpariaeth a gwasanaethau dwyieithog.
Rydym yn annog ceisiadau yn y Gymraeg yn fawr. Ni fydd ceisiadau a gyflwynwyd yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynwyd yn Saesneg.
Bydd ffurflenni cais, deunydd esboniadol, gwybodaeth am y broses gyfweld a dulliau asesu a disgrifiadau swydd i gyd ar gael yn Gymraeg.
Mae Coleg Cambria yn gyflogwr 'Hyderus o ran Anableddau'.
Rydyn ni'n adeiladu coleg sy'n adlewyrchu'r gymuned fywiog ac amrywiol rydyn ni'n ei gwasanaethu. Rydyn ni'n croesawu ac yn annog ceisiadau gan unigolion o bob cefndir, yn enwedig y rhai o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol.
Mae Coleg Cambria wedi ymrwymo i ddiogelu pob dysgwr, ac rydym yn disgwyl i bob aelod o staff rannu'r ymrwymiad hwn.
Mae'r rôl hon wedi'i chynnwys o dan Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) ac wedi'i dosbarthu fel gweithgaredd rheoleiddiedig.
Mae'n ofynnol felly cael gwiriad DBS Uwch gyda Rhestr Waharddedig, ac mae'n rhaid i ymgeiswyr ddatgelu pob rhybudd a chollfarn yn cynnwys unrhyw rai sydd wedi darfod. Mae'n drosedd gwneud cais os ydych wedi'ch gwahardd rhag gweithio gyda phlant. Ni fydd datgelu yn atal cyflogaeth yn awtomatig; cynhelir asesiad risg ond efallai y byddwn yn ystyried bod rhai euogfarnau / rhybuddion yn golygu eu bod nhw'n anaddas i weithio gyda phlant.
Yn dibynnu ar y swydd, efallai y bydd angen i ymgeiswyr llwyddiannus gofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg hefyd.
Fel arfer mae swyddi'n cael eu hysbysebu gydag ystod cyflog. Os cewch gynnig swydd yn y coleg, bydd profiad perthnasol yn cael ei ystyried er mwyn pennu eich cyflog cychwynnol.
Sylwer fod Coleg Cambria yn cadw'r hawl i gau'r rhestr ymgeiswyr yn gynnar ar gyfer unrhyw swydd pe byddwn yn derbyn nifer fawr o geisiadau. Byddwn yn argymell eich bod yn cwblhau eich cais cyn gynted â phosibl os hoffech gael eich ystyried ar gyfer y swydd hon
Buddion
Cynllun(iau) pensiwn ardderchog
Hawl gwyliau blynyddol hael
Darpariaeth feithrin ar ein safle yng Nglannau Dyfrdwy
Gostyngiadau ar ystod o gyrsiau gyda'r nos y coleg
Mynediad i ystod eang o gyrsiau e-ddysgu a datblygiad proffesiynol
Disgownt ar aelodaeth ystafell ffitrwydd
Cyfleusterau chwaraeon a ffitrwydd ardderchog
Parcio am ddim ar bob safle
Cynllun Beicio
Cyfraddau gostyngol ar gyfer trin gwallt a thriniaethau harddwch
Cyfraddau gostyngol yn ein bwytai
Absenoldeb mamolaeth, mabwysiadu a thadolaeth estynedig