MANYLION.
  • Lleoliad: Bridgend,
  • Pwnc: Heb ei ddarparu
  • Oriau: Rhan amser
  • Cytundeb: Dros dro
  • Math o gyflog: Per annum
  • Cyflog: Digymhwyster: £26,386 - £31,139 y flwyddyn (pro rata, tâl fesul awr)Cymwysedig: £33,596 - £51,932 y flwyddyn (pro rata, tâl fesul awr)
  • Iaith: Unrhyw
  • Dyddiad Cau: 14 Hydref, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Darlithydd Trin Gwallt a delir fesul awr 

Coleg Penybont

Cyflog: Digymhwyster: £26,386 - £31,139 y flwyddyn (pro rata, tâl fesul awr)Cymwysedig: £33,596 - £51,932 y flwyddyn (pro rata, tâl fesul awr)

Darlithydd Trin Gwallt a delir fesul awr

Sylwer, contract a delir fesul awr yw hon, sy'n golygu na ellir gwarantu dyddiau ac oriau penodol - fe'u cynigir ar sail achlysurol, ad hoc, i fodloni anghenion y gwasanaeth, felly gallant amrywio.

Digymhwyster: £26,386 - £31,139 y flwyddyn (pro rata, tâl fesul awr)Cymwysedig: £33,596 - £51,932 y flwyddyn (pro rata, tâl fesul awr)

Ymunwch â'n tîm brwdfrydig yng Ngholeg Penybont yn y rôl hyblyg ac ymarferol hon, lle byddwch yn rhannu eich arbenigedd yn y diwydiant â'r genhedlaeth nesaf o steilwyr gwallt. Byddwch yn cynllunio ac yn cyflwyno sesiynau dysgu o ansawdd uchel sy'n ymgysylltu â dysgwyr, gan ymdrin ag ystod o sgiliau trin gwallt, gan gynnwys torri, steilio a thylino'r croen pen. Gan weithio ar sail achlysurol ac yn ôl yr angen i ddiwallu anghenion yr adran, byddwch yn chwarae rhan allweddol wrth ysbrydoli dysgwyr o bob cefndir a'u helpu i feithrin yr hyder ymarferol sydd ei angen arnynt i lwyddo yn y diwydiant salonau.

Rydym yn chwilio am weithiwr proffesiynol profiadol sydd â gwybodaeth gyfredol am weithio mewn salon ac angerdd cryf dros addysgu. Rhaid i chi fod â chymhwyster NVQ Lefel 3 (neu gymhwyster cyfwerth) mewn Trin Gwallt a chymhwyster addysgu (neu barodrwydd i weithio tuag at un). Gyda sgiliau rhyngbersonol a digidol rhagorol a'r gallu i uniaethu â phoblogaeth eang ac amrywiol o fyfyrwyr, byddwch yn gallu ysgogi dysgwyr o bob oedran a chefndir.

I gael rhagor o wybodaeth, gweler pecyn gwybodaeth y swydd .

Mae Coleg Penybont yn cydnabod ei gyfrifoldeb dros sicrhau diogelwch a lles pob myfyriwr. Rydym yn defnyddio proses drylwyr i wirio addasrwydd staff a gwirfoddolwyr i weithio â phlant ac oedolion sy'n agored i niwed. Mae'r swydd uchod yn amodol ar Wiriad Manylach gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) ar gyfer y gweithlu plant ac oedolion a bydd rhaid i chi gofrestru fel Athro Addysg Bellach gyda Chyngor y Gweithlu Addysg.

Mae Coleg Penybont yn deall gwerth darparu gwasanaethau yn Gymraeg a'r angen i dyfu ei weithlu dwyieithog. Rydym felly'n annog ceisiadau gan ymgeiswyr sydd â sgiliau Cymraeg da. Nodwch yn eich datganiad personol a fyddai'n well gennych i'ch asesiad/cyfweliad gael ei gynnal yn Gymraeg.

Rydym wrthi'n ceisio gwella cynrychiolaeth o bob rhan o'r gymuned a hyrwyddo cyfleoedd cyfartal. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb, gan gynnwys pobl o wahanol gefndiroedd a chymunedau, ac o wahanol oedrannau.

Rydym yn falch o fod yn Arweinydd Hyderus o ran Anabledd ac rydym yn gwarantu cyfweld ag unrhyw un sydd ag anabledd cyn belled â bod eu cais yn bodloni meini prawf hanfodol y swydd, a byddwn yn eu hystyried ar eu galluoedd. Gallwn hefyd gynnig addasiadau rhesymol trwy gydol y broses recriwtio.

Bydd gofyn i'r ymgeisydd llwyddiannus ddarparu tystiolaeth o'i hunaniaeth a'i gymhwystra i weithio yn y DU.

Nid yw'r Coleg yn cymryd rhan yng Nghynllun Noddi Fisa'r DU, felly bydd rhaid i ymgeiswyr ddarparu tystiolaeth o'u hawl i weithio yn y DU os cynigir rôl iddynt gyda ni.

Sylwer, efallai y bydd gofyn am gyfweliad neu asesiad ail gam.