MANYLION.
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Heb ei ddarparu
- Pwnc: Heb ei ddarparu
- Oriau: Rhan amser
- Cytundeb: Parhaol
- Math o gyflog: Per annum
- Cyflog: £27,485 - £28,365
- Iaith: Unrhyw
- Dyddiad Cau: 15 Hydref, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Gweinyddwr/Gweinyddwraig Adnoddau Dynol - Ysgol Uwchradd y Frenhines Elisabeth, Caerfyrddin
Cyngor Sir Caerfyrddin
Cyflog: £27,485 - £28,365
Ynglŷn â'r swydd wagCyfeirnod y Swydd Wag: 3959
Sefydliad:
Ysgolion
Nifer y swyddi gwag:
1
Math o gontract:
Parhaol - Yn Ystod y Tymor yn Unig
Lleoliad:
Caerfyrddin, Sir Gaerfyrddin
Gradd:
Gradd D +4%
Cyflog:
£27,485 - £28,365
Os yw'n rhan-amser a/neu yn ystod y tymor, bydd y cyflog llawn amser a ddyfynnir (yn seiliedig ar 37 awr) ar sail pro rata yn unol â hynny
Cyfradd yr awr:
£14.25 - £14.70
Oriau Contract:
22 awr
Dewch i ymuno â'n tîm
Rydym yn awyddus i benodi Gweinyddwr/Gweinyddwraig Adnoddau Dynol trefnus, proffesiynol a brwdfrydig i ddarparu cymorth gweinyddol effeithiol i swyddogaeth Adnoddau Dynol yr ysgol.
Mae hwn yn gyfle cyffrous i unigolyn sydd â sgiliau trefnu rhagorol, sylw manwl i fanylion ac agwedd broffesiynol a chyfrinachol, i ymuno â'n cymuned ysgol ffyniannus. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cefnogi gweinyddiaeth ddyddiol prosesau Adnoddau Dynol ac yn gweithio'n agos gyda chydweithwyr ar draws yr ysgol.
Mae'r swydd yn gontract 22 awr yr wythnos, yn ystod y tymor. Rydym yn hapus i gynnig hyblygrwydd o ran y patrwm gweithio, a byddwn yn ystyried sut y gellir trefnu'r oriau mewn ffordd sy'n diwallu anghenion yr ysgol yn ogystal ag anghenion yr ymgeisydd llwyddiannus.
Oherwydd natur y rôl a'r galw tymhorol sy'n gysylltiedig â gweinyddu Adnoddau Dynol mewn ysgol, efallai y bydd angen cyflawni rhywfaint o waith yn ystod cyfnodau gwyliau'r ysgol, gan gynnwys gwyliau'r haf, er mwyn ymdopi â llwyth gwaith uwch a chyfnodau prysur. Felly, efallai y bydd gofyn i'r ymgeisydd llwyddiannus weithio yn ystod cyfnod yr haf er mwyn cefnogi'r galw ychwanegol, gyda hyblygrwydd priodol o ran y patrwm gweithio cyffredinol.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn unigolyn hawdd mynd ato/ati, dibynadwy ac yn gallu ymdrin â gwybodaeth gyfrinachol yn ddisylw. Bydd ganddo/ganddi'r gallu i flaenoriaethu gwaith, cwrdd â therfynau amser a chyfathrebu'n effeithiol â staff ar bob lefel.
Mae Caerfyrddin, tref farchnad fywiog sydd wedi'i lleoli ar gyrion Dyffryn prydferth Tywi, yn gartref i ysgol gyfun flaengar sy'n ymgorffori ysbryd 'Gofalu, Dysgu, Arwain'. Mae ein hysgol yn ymrwymedig i greu amgylchedd cefnogol a chynhwysol lle gall pob disgybl ffynnu yn academaidd, yn bersonol ac yn gymdeithasol.
Os ydych yn frwdfrydig, yn drefnus ac yn awyddus i wneud cyfraniad cadarnhaol i gymuned ysgol brysur a llwyddiannus, byddem yn falch iawn o glywed gennych.
I gael rhagor o wybodaeth, neu i drefnu ymweliad â'r ysgol, cysylltwch â:
Nigel Cooke, Rheolwr Busnes yr Ysgol
E-bost: nigel.cooke@qehs.carms.sch.uk
Disgrifiad Swydd:
036117.pdf - 186KB ~~EFORM_FILE_NEW_WINDOW~~
Lefel DBS:
Bydd gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd gan Wirio'r Rhestr Wahardd yn ofynnol ar gyfer y swydd hon. Mae'n drosedd gwneud cais am y swydd os yw'r ymgeisydd wedi'i wahardd rhag cymryd rhan mewn gweithgareddau a reoleiddir sy'n berthnasol i blant neu oedolion sydd mewn perygl.
Lefel Sgiliau Cymraeg - Siarad:
Lefel 1 - Bydd angen gwybodaeth sylfaenol am y Gymraeg arnoch. Gellir darparu cymorth rhesymol ar ôl penodi i gyrraedd y lefel hon.
Dyddiad Cau: 15/10/2026, 23:55
Y Buddion
Rydym yn falch o gynnig amrywiaeth o fuddion i'n staff. Noder mai dim ond rhai o'r hyn a allai fod ar gael yw'r enghreifftiau a ddangosir, a gall cymhwysedd amrywio yn dibynnu ar eich rôl neu'ch math o gontract. Er enghraifft, efallai na fydd rhai buddion yn berthnasol i weithwyr achlysurol.
- Cyflog cystadleuol
- Cofrestru'n awtomatig i'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol
- Hawl i wyliau blynyddol hael gyda'r opsiwn o brynu gwyliau blynyddol ychwanegol
- Mynediad at gymorth iechyd a llesiant i staff
- Datblygiad personol a dilyniant gyrfa
- Cynlluniau disgownt staff a buddion eraill e.e., cynllun beicio i'r gwaith
- Gweithio hyblyg a pholisïau sy'n ystyriol o deuluoedd
Rydym yn mabwysiadu dull 'recriwtio dienw' wrth lunio'r rhestr fer. Ni fydd rheolwyr recriwtio yn cael mynediad at wybodaeth bersonol, gan gynnwys eich enw a'ch manylion cyswllt, hyd nes y bydd penderfyniad wedi'i wneud ynghylch y rhestr fer.
Rydym wedi ymrwymo i recriwtio, cadw a datblygu gweithlu sy'n adlewyrchu'r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu. Mae rhannu eich data monitro cydraddoldeb yn ein galluogi i asesu effaith ein polisïau a'n harferion recriwtio a chyflogaeth ac yn rhoi cyfle i ni eu gwella lle bo modd. Nid yw rheolwyr recriwtio yn cael mynediad at wybodaeth monitro cydraddoldeb ar unrhyw adeg.
Gwybodaeth Ychwanegol
Rydym wedi ymrwymo i recriwtio diogel a theg, diogelu ac amddiffyn y rhai yr ydym yn gofalu amdanynt ac yn eu gwasanaethu. Rydym yn sicrhau bod ein holl staff yn cael eu fetio, eu dethol, eu hyfforddi a'u goruchwylio'n deg ac i safon uchel fel y gallant ddarparu gofal diogel, effeithiol a thosturiol.
Nodwch fod rhwymedigaeth gyfreithiol arnom i ystyried gweithwyr ar gyfer cyflogaeth arall addas os yw eu swyddi mewn perygl; rhoddir ystyriaeth ymlaen llaw i weithwyr presennol sy'n bodloni'r meini prawf hanfodol ac sydd wedi'u cofrestru ar ein cofrestr adleoli.
Hawl i weithio: Rhaid i bob cyflogwr yn y DU gynnal gwiriad Hawl i Weithio cyn i weithiwr newydd ddechrau gwaith. Mae hyn yn ofyniad cyfreithiol o dan Ddeddf Mewnfudo, Lloches a Chenedligrwydd 2006 ac mae'n berthnasol i bob gweithiwr, waeth beth fo'u cenedligrwydd.
Gofynnir i bob ymgeisydd am ei genedligrwydd ac a ganiateir iddo weithio yn y Deyrnas Unedig yn gyfreithlon. Pwrpas hyn yw cadarnhau a ydych yn gymwys i wneud cais am y swydd wag ac i weithio i'r Cyngor neu ei sefydliadau partner.
Mae gan Gyngor Sir Caerfyrddin drwydded nawdd ddilys. Fodd bynnag, rhaid i ymgeiswyr sydd angen nawdd o dan y llwybr Gweithiwr Medrus fodloni'r holl feini prawf cymhwysedd a nodir gan Lywodraeth y DU o dan y system fewnfudo sy'n seiliedig ar bwyntiau. Cyn cyflwyno cais, dylech wirio a yw'r rôl yn bodloni'r meini prawf cymhwysedd yng nghanllawiau Llywodraeth y DU: Skilled Worker visa: Overview - GOV.UK . Sylwer: Os nad ydych chi'n bodloni'r meini prawf cymhwysedd, ni fydd eich cais yn symud ymlaen. Os daw'n amlwg yn ddiweddarach nad ydych chi'n gymwys i wneud cais, efallai y bydd eich cais neu eich cynnig yn cael ei dynnu'n ôl.
Sut i wneud cais: Rhaid i bob cais am y swydd wag hon gael ei wneud drwy ein system ymgeisio ar-lein. Os oes gennych nam sy'n eich atal rhag gwneud cais ar-lein, e-bostiwch: swyddi@sirgar.gov.uk neu ffoniwch 01267 234567 a gofynnwch am 'Recriwtio' i drafod trefniadau eraill i'ch helpu yn y broses.
Gweler y canllawiau 'Sut rydym yn recriwtio' ar y Dudalen Gyrfaoedd i gael rhagor o wybodaeth am y broses recriwtio.