MANYLION.
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Heb ei ddarparu
- Pwnc: Heb ei ddarparu
- Oriau: Rhan amser
- Cytundeb: Dros dro
- Math o gyflog: Per annum
- Cyflog: £26,639
- Iaith: Unrhyw
- Dyddiad Cau: 11 Hydref, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: £26,639
Ynglŷn â'r swydd wagCyfeirnod y Swydd Wag: 3913
Sefydliad:
Ysgolion
Nifer y swyddi gwag:
2
Math o gontract:
Dros Dro/Secondiad - Rhan-amser
Dyddiad gorffen y contract:
31 Awst 2027
Lleoliad:
Llanelli
Gradd:
Gradd A +4%
Cyflog:
£26,639
Os yw'n rhan-amser a/neu yn ystod y tymor, bydd y cyflog llawn amser a ddyfynnir (yn seiliedig ar 37 awr) ar sail pro rata yn unol â hynny
Cyfradd yr awr:
£13.81
Oriau Contract:
7awr 30munud
Dewch i ymuno â'n tîm
Goruchwyliwr/Goruchwyliwraig Cinio Rydym yn chwilio am Oruchwyliwr/Oruchwyliwraig Cinio ymroddedig, brwdfrydig a chyfrifol i ymuno â'n tîm. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn helpu i sicrhau bod ein trefniadau cinio dyddiol yn rhedeg yn esmwyth, yn annog disgyblion i fwynhau bwyta'n iach a rhoi cynnig ar fwydydd newydd, yn goruchwylio ymddygiad, ac yn cyfrannu at greu amgylchedd diogel, cadarnhaol a phleserus i bob plentyn yn ystod y cyfnod cinio. Bydd y rôl hefyd yn cynnwys cefnogi disgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY), naill ai ar sail un-i-un neu mewn grwpiau bach, gan sicrhau eu bod yn cael eu cynnwys a'u cefnogi'n llawn yn ystod gweithgareddau amser cinio. Oriau Gwaith:
Dydd Llun i Ddydd Gwener, yn ystod y tymor ysgol yn unig. Mae'r rôl hon yn ddelfrydol i unrhyw un sy'n chwilio am oriau gwaith hyblyg sy'n cyd-fynd ag ymrwymiadau teuluol neu gyfrifoldebau eraill. Rydym yn chwilio am rywun sydd â:
Y gallu i aros yn ddigynnwrf ac adeiladu perthnasoedd cadarnhaol gydag oedolion a phlant ar sail parch at ei gilydd.
Dealltwriaeth o gefnogi plant ag Anghenion Dysgu Ychwanegol, neu barodrwydd i ddysgu am hyn.
Gwybodaeth am weithdrefnau diogelwch bwyd sylfaenol (dymunol ond nid yn hanfodol, gan y darperir hyfforddiant llawn).
Sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol da.
Y gallu i weithio'n annibynnol yn ogystal â gweithio fel rhan o dîm.
Prif Gyfrifoldebau:
Goruchwylio disgyblion yn ystod y cyfnod cinio, dan do ac yn yr awyr agored.
Annog ymddygiad cadarnhaol a helpu i greu amgylchedd diogel a chynhwysol.
Cefnogi disgyblion yn ystod amseroedd prydau bwyd ac annog arferion bwyta'n iach.
Darparu cymorth i blant ag Anghenion Dysgu Ychwanegol ar sail un-i-un neu mewn grwpiau bach, gan eu helpu i gymryd rhan yn gadarnhaol mewn trefniadau a gweithgareddau amser cinio.
Hyrwyddo rhyngweithio cymdeithasol cadarnhaol a chynhwysiant ymhlith pob disgybl.
Cynorthwyo gydag anghenion eraill sy'n ymwneud â'r gwasanaeth cinio ac arlwyo yn ôl yr angen.
Bydd angen hefyd:
Agwedd gadarnhaol a pharodrwydd i ddysgu sgiliau newydd.
Hyblygrwydd a pharodrwydd i gefnogi anghenion eraill sy'n ymwneud ag arlwyo ac amser cinio pan fo angen.
Dull gofalgar, amyneddgar a chefnogol wrth weithio gyda phlant.
Beth rydym yn ei gynnig:
Hyfforddiant a chymorth llawn.
Amgylchedd gwaith cyfeillgar a chefnogol.
Y cyfle i wneud gwahaniaeth cadarnhaol i brofiad ysgol plant bob dydd.
Am sgwrs anffurfiol ynghylch y rôl, cysylltwch â Sean Lewis ar 01554 775778. Edrychwn ymlaen at glywed gennych.
Disgrifiad Swydd:
Lunchtime Supervisor - English School.pdf - 159KB ~~EFORM_FILE_NEW_WINDOW~~
Dyddiad disgwyliedig y cyfweliad:
6 Hydref 2026
Lefel DBS:
Bydd gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd gan Wirio'r Rhestr Wahardd yn ofynnol ar gyfer y swydd hon. Mae'n drosedd gwneud cais am y swydd os yw'r ymgeisydd wedi'i wahardd rhag cymryd rhan mewn gweithgareddau a reoleiddir sy'n berthnasol i blant neu oedolion sydd mewn perygl.
Lefel Sgiliau Cymraeg - Siarad:
Lefel 2 - Bydd angen ichi fod â lefel sylfaenol o Gymraeg llafar. Gellir darparu cymorth rhesymol ar ôl penodi i gyrraedd y lefel hon.
Dyddiad Cau: 11/10/2026, 23:55
Y Buddion
Rydym yn falch o gynnig amrywiaeth o fuddion i'n staff. Noder mai dim ond rhai o'r hyn a allai fod ar gael yw'r enghreifftiau a ddangosir, a gall cymhwysedd amrywio yn dibynnu ar eich rôl neu'ch math o gontract. Er enghraifft, efallai na fydd rhai buddion yn berthnasol i weithwyr achlysurol.
- Cyflog cystadleuol
- Cofrestru'n awtomatig i'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol
- Hawl i wyliau blynyddol hael gyda'r opsiwn o brynu gwyliau blynyddol ychwanegol
- Mynediad at gymorth iechyd a llesiant i staff
- Datblygiad personol a dilyniant gyrfa
- Cynlluniau disgownt staff a buddion eraill e.e., cynllun beicio i'r gwaith
- Gweithio hyblyg a pholisïau sy'n ystyriol o deuluoedd
Rydym yn mabwysiadu dull 'recriwtio dienw' wrth lunio'r rhestr fer. Ni fydd rheolwyr recriwtio yn cael mynediad at wybodaeth bersonol, gan gynnwys eich enw a'ch manylion cyswllt, hyd nes y bydd penderfyniad wedi'i wneud ynghylch y rhestr fer.
Rydym wedi ymrwymo i recriwtio, cadw a datblygu gweithlu sy'n adlewyrchu'r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu. Mae rhannu eich data monitro cydraddoldeb yn ein galluogi i asesu effaith ein polisïau a'n harferion recriwtio a chyflogaeth ac yn rhoi cyfle i ni eu gwella lle bo modd. Nid yw rheolwyr recriwtio yn cael mynediad at wybodaeth monitro cydraddoldeb ar unrhyw adeg.
Gwybodaeth Ychwanegol
Rydym wedi ymrwymo i recriwtio diogel a theg, diogelu ac amddiffyn y rhai yr ydym yn gofalu amdanynt ac yn eu gwasanaethu. Rydym yn sicrhau bod ein holl staff yn cael eu fetio, eu dethol, eu hyfforddi a'u goruchwylio'n deg ac i safon uchel fel y gallant ddarparu gofal diogel, effeithiol a thosturiol.
Nodwch fod rhwymedigaeth gyfreithiol arnom i ystyried gweithwyr ar gyfer cyflogaeth arall addas os yw eu swyddi mewn perygl; rhoddir ystyriaeth ymlaen llaw i weithwyr presennol sy'n bodloni'r meini prawf hanfodol ac sydd wedi'u cofrestru ar ein cofrestr adleoli.
Hawl i weithio: Rhaid i bob cyflogwr yn y DU gynnal gwiriad Hawl i Weithio cyn i weithiwr newydd ddechrau gwaith. Mae hyn yn ofyniad cyfreithiol o dan Ddeddf Mewnfudo, Lloches a Chenedligrwydd 2006 ac mae'n berthnasol i bob gweithiwr, waeth beth fo'u cenedligrwydd.
Gofynnir i bob ymgeisydd am ei genedligrwydd ac a ganiateir iddo weithio yn y Deyrnas Unedig yn gyfreithlon. Pwrpas hyn yw cadarnhau a ydych yn gymwys i wneud cais am y swydd wag ac i weithio i'r Cyngor neu ei sefydliadau partner.
Mae gan Gyngor Sir Caerfyrddin drwydded nawdd ddilys. Fodd bynnag, rhaid i ymgeiswyr sydd angen nawdd o dan y llwybr Gweithiwr Medrus fodloni'r holl feini prawf cymhwysedd a nodir gan Lywodraeth y DU o dan y system fewnfudo sy'n seiliedig ar bwyntiau. Cyn cyflwyno cais, dylech wirio a yw'r rôl yn bodloni'r meini prawf cymhwysedd yng nghanllawiau Llywodraeth y DU: Skilled Worker visa: Overview - GOV.UK . Sylwer: Os nad ydych chi'n bodloni'r meini prawf cymhwysedd, ni fydd eich cais yn symud ymlaen. Os daw'n amlwg yn ddiweddarach nad ydych chi'n gymwys i wneud cais, efallai y bydd eich cais neu eich cynnig yn cael ei dynnu'n ôl.
Sut i wneud cais: Rhaid i bob cais am y swydd wag hon gael ei wneud drwy ein system ymgeisio ar-lein. Os oes gennych nam sy'n eich atal rhag gwneud cais ar-lein, e-bostiwch: swyddi@sirgar.gov.uk neu ffoniwch 01267 234567 a gofynnwch am 'Recriwtio' i drafod trefniadau eraill i'ch helpu yn y broses.
Gweler y canllawiau 'Sut rydym yn recriwtio' ar y Dudalen Gyrfaoedd i gael rhagor o wybodaeth am y broses recriwtio.