MANYLION.
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Crosskeys,
- Pwnc: Heb ei ddarparu
- Oriau: Rhan amser
- Cytundeb: Dros dro
- Math o gyflog: Per annum
- Cyflog: £23,608 - £36,491
- Iaith: Unrhyw
- Dyddiad Cau: 11 Hydref, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: £23,608 - £36,491
Tiwtor Clybiau Plant CymruSwydd ddisgrifiad
26 awr yr wythnos
Cyfnod Penodol - 31/07/27
Fel rhan o ddatblygiadau Cymraeg Gwaith Y Ganolfan Dysgu Cymraeg i ehangu ei chynnig Gofal Plant a Blynyddoedd Cynnar Genedlaethol mae Dysgu Cymraeg Gwent yn awyddus i benodi tiwtor rhan amser (.7) i gefnogi staff Clybiau Plant Cymru.
Rhennir gwaith y tiwtor fel a ganlyn: 3 diwrnod (pro-rata) yr wythnos yn cefnogi dysgwyr sy'n dilyn cyrsiau Camau Chwarae - y mwyafrif ar lefel Mynediad a 2 ddiwrnod (pro-rata) yr wythnos gyda chlybiau plant penodol gan gefnogi staff sy'n gweithio i rwydwaith o Glybiau Plant penodol. Clwb y Ddraig yw enw'r sefydliad ac maent yn gyfrifol am 10 Clwb yn ardaloedd Rhondda Cynon Taf a Chaerffili gyda 46 o staff parhaol gan y rhwydwaith yn ogystal â staff ysbeidiol yn ystod gwyliau ysgolion. Y nod yw y bydd yr hyfforddiant yn galluogi i Glwb y Ddraig gynnig darpariaeth ddwyieithog ehangach.
Rôl y tiwtor fydd cefnogi'r staff i ddysgu a defnyddio'r Gymraeg yn eu swyddi gan gynnwys asesiadau lefel ar gychwyn y cyfnod gwaith. Bydd y ddarpariaeth sy'n cael ei chynnig yn seiliedig ar y lefelau. Bydd angen i'r tiwtor addasu'r ddarpariaeth a'r dulliau dysgu fel bod y gefnogaeth yn addas i unigolion penodol. Dylid dilyn cwricwlwm y Ganolfan fel sail i'r gwersi ar gyfer yr unigolion hyn gan sicrhau cynnydd o fewn y 9 mis.
Bydd rôl y tiwtor yn cynnwys cynnal gwersi a sesiynau hyfforddi i grwpiau o ddysgwyr. Bydd y tiwtor yn mynychu sesiynau'r clybiau gan gynnig cefnogaeth ac anogaeth i staff i ddatblygu ac ymarfer eu Cymraeg oddi fewn i gyd-destun Chwarae.
Bydd rhaid i'r tiwtor sy'n ymgymryd ar rôl hon fynychu cyf-werth â 3 diwrnod o hyfforddiant gan fudiad Clybiau Plant Cymru. Bydd hyn yn galluogi'r tiwtor i fynychu'r Clybiau Plant ac deall yn well y math o iaith fydd o ddefnydd i staff. Mae'r hyfforddiant hwn yn hanfodol a bydd y Ganolfan yn cydlynu rhwng y Tiwtor a Chlybiau Plant Cymru. Bydd angen i'r tiwtor gasglu adborth y gweithlu i'r ddarpariaeth.
Bydd rhaid i'r tiwtor gael gwiriad DBS estynedig cyn cychwyn ar y gwaith. Swydd ran-amser (.7) am gyfnod penodedig hyd at 31 Gorffennaf 2027 yn y lle cyntaf yw hon, ond rhagwelir yr ymestynnir y swydd wedyn. Fe'i lleolir yn Dysgu Cymraeg Gwent yn Crosskeys ond wrth reswm bydd cryn dipyn o deithio fel rhan o'r swydd.
Os hoffech chi drafod unrhyw agwedd o'r gwaith yn bellach, mae croeso i chi gysylltu â Geraint Wilson-Price, Pennaeth Dysgu Cymraeg Gwent: Geraint.Wilson-Price@coleggwent.ac.uk
Gofynion a Chydymffurfiaeth
- Diogelu: Mae'r penodiad yn amodol ar ddal gwiriad DBS Manwl boddhaol a bod yn gofrestredig gyda'r CGA (rhaid i'r ymgeisydd dalu'r costau).
- Cymwysterau: Rhaid i ddarlithwyr feddu ar gymhwyster addysgu neu fod yn barod i'w gyflawni (e.e. TAR) o fewn cyfnod penodol.
Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant
Cyflogwr gwrth-hiliol a Hyderus o ran Anabledd yw Coleg Gwent, sydd wedi ymrwymo i gydraddoldeb o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010. Rydym yn croesawu pob math o hunaniaeth a dawn niwroamrywiol, ac anogwn geisiadau oddi wrth grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol (Lleiafrifoedd Ethnig, Benywod, pobl LHDTC+ a phobl ag anableddau) yn arbennig. Mae'r gefnogaeth yn cynnwys chwe rhwydwaith staff (Hil, LHDTC+, Anabledd, ayyb) a Grŵp Llywio Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant.
Llesiant Staff
Rydym yn darparu cefnogaeth iechyd gynhwysfawr sy'n cynnwys:
- Mynediad i'r gampfa a gweithgareddau lles â chymhorthdal.
- Mynediad i ap Headspace a hyrwyddwyr iechyd meddwl.
- Campysau ac ystafelloedd gweddïo hygyrch.
Dyddiad Cau: 11/10/26
Dyddiad Cyfweliad: : I'w drefnu