MANYLION.
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Heb ei ddarparu
- Pwnc: Heb ei ddarparu
- Oriau: Llawn amser
- Cytundeb: Parhaol
- Math o gyflog: Per annum
- Cyflog: £27,459 - £30,722
- Iaith: Unrhyw
- Dyddiad Cau: 15 Medi, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Rheolwr Gweinyddiaeth Anghenion Dysgu Ychwanegol - Ysgol Uwchradd Y Frenhines Elisabeth, Caerfyrddin
Cyngor Sir Caerfyrddin
Cyflog: £27,459 - £30,722
Ynglŷn â'r swydd wagCyfeirnod y Swydd Wag: 3830
Sefydliad:
Ysgolion
Nifer y swyddi gwag:
1
Math o gontract:
Parhaol - Yn Ystod y Tymor yn Unig
Lleoliad:
Caerfyrddin, Sir Gaerfyrddin
Gradd:
Gradd E +4%
Cyflog:
£27,459 - £30,722
Os yw'n rhan-amser a/neu yn ystod y tymor, bydd y cyflog llawn amser a ddyfynnir (yn seiliedig ar 37 awr) ar sail pro rata yn unol â hynny
Cyfradd yr awr:
£14.23 - £15.92
Oriau Contract:
35 awr
Dewch i ymuno â'n tîm
Rydym yn awyddus i benodi Rheolwr Gweinyddiaeth Anghenion Dysgu Ychwanegol - hynod drefnus, brwdfrydig ac ymroddedig i ymuno â'n teulu ysgol ffyniannus a chwarae rhan allweddol wrth gefnogi'r gwaith o ddarparu gwasanaethau Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) yn effeithiol ar draws yr ysgol.
Mae hwn yn gyfle cyffrous i unigolyn sy'n angerddol am gefnogi pobl ifanc ac sy'n gallu gweithio'n effeithiol fel rhan o dîm ADY ymroddedig a chefnogol. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gyfrifol am reoli a chydlynu gweinyddiaeth a threfniadaeth prosesau ADY statudol ar gyfer disgyblion prif ffrwd, gan sicrhau bod cymorth yn cael ei ddarparu'n effeithlon ac yn effeithiol.
Gan weithio'n agos gyda'r Cydlynydd ADY (ALNCo), Athrawon, Cynorthwywyr Addysgu a'r tîm cymorth ADY ehangach, bydd y swyddog yn cyfrannu at gynllunio, datblygu a monitro gwasanaethau ADY ar draws yr ysgol. Bydd y rôl hefyd yn cynnwys cefnogi'r gwaith o reoli, cydlynu a dirprwyo gweithgareddau a gyflawnir gan staff cymorth.
Mae Caerfyrddin, tref farchnad fywiog sydd wedi'i lleoli ar gyrion Dyffryn prydferth Tywi, dim ond 30 munud o Abertawe, yn gartref i ysgol gyfun arloesol sy'n ymgorffori ysbryd 'Gofalu, Dysgu, Arwain'.
Mae ein hysgol yn ymrwymedig i greu amgylchedd cefnogol ac uchelgeisiol lle mae gan bob person ifanc y cyfle i ffynnu. Rydym yn gwerthfawrogi cydweithio, disgwyliadau uchel a diwylliant cryf o ofal, ac mae ein darpariaeth ADY yn chwarae rhan bwysig wrth sicrhau bod pob dysgwr yn cael y cymorth sydd ei angen i gyflawni ei botensial llawn.
Rydym yn chwilio am unigolyn sy'n drefnus, rhagweithiol, hyblyg ac yn gallu gweithio'n gydweithredol, sydd â sgiliau cyfathrebu a gweinyddol rhagorol ac ymrwymiad gwirioneddol i wneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau ein pobl ifanc.
Os ydych yn frwdfrydig am weithio mewn amgylchedd ysgol prysur a gwerth chweil ac yr hoffech gyfrannu at ddatblygiad parhaus ein darpariaeth ADY, byddem yn falch iawn o glywed gennych.
I gael rhagor o wybodaeth am y swydd, cysylltwch â:
Jenna Davies - Rheolwr ADY
jenna.davies@qehs.carms.sch.uk
Disgrifiad Swydd:
ALN Administration Manager 019704.pdf - 287KB ~~EFORM_FILE_NEW_WINDOW~~
Lefel DBS:
Bydd gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd gan Wirio'r Rhestr Wahardd yn ofynnol ar gyfer y swydd hon. Mae'n drosedd gwneud cais am y swydd os yw'r ymgeisydd wedi'i wahardd rhag cymryd rhan mewn gweithgareddau a reoleiddir sy'n berthnasol i blant neu oedolion sydd mewn perygl.
Lefel Sgiliau Cymraeg - Siarad:
Lefel 1 - Bydd angen gwybodaeth sylfaenol am y Gymraeg arnoch. Gellir darparu cymorth rhesymol ar ôl penodi i gyrraedd y lefel hon.
Dyddiad Cau: 15/09/2026, 23:55
Y Buddion
Rydym yn falch o gynnig amrywiaeth o fuddion i'n staff. Noder mai dim ond rhai o'r hyn a allai fod ar gael yw'r enghreifftiau a ddangosir, a gall cymhwysedd amrywio yn dibynnu ar eich rôl neu'ch math o gontract. Er enghraifft, efallai na fydd rhai buddion yn berthnasol i weithwyr achlysurol.
- Cyflog cystadleuol
- Cofrestru'n awtomatig i'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol
- Hawl i wyliau blynyddol hael gyda'r opsiwn o brynu gwyliau blynyddol ychwanegol
- Mynediad at gymorth iechyd a llesiant i staff
- Datblygiad personol a dilyniant gyrfa
- Cynlluniau disgownt staff a buddion eraill e.e., cynllun beicio i'r gwaith
- Gweithio hyblyg a pholisïau sy'n ystyriol o deuluoedd
Rydym yn mabwysiadu dull 'recriwtio dienw' wrth lunio'r rhestr fer. Ni fydd rheolwyr recriwtio yn cael mynediad at wybodaeth bersonol, gan gynnwys eich enw a'ch manylion cyswllt, hyd nes y bydd penderfyniad wedi'i wneud ynghylch y rhestr fer.
Rydym wedi ymrwymo i recriwtio, cadw a datblygu gweithlu sy'n adlewyrchu'r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu. Mae rhannu eich data monitro cydraddoldeb yn ein galluogi i asesu effaith ein polisïau a'n harferion recriwtio a chyflogaeth ac yn rhoi cyfle i ni eu gwella lle bo modd. Nid yw rheolwyr recriwtio yn cael mynediad at wybodaeth monitro cydraddoldeb ar unrhyw adeg.
Gwybodaeth Ychwanegol
Rydym wedi ymrwymo i recriwtio diogel a theg, diogelu ac amddiffyn y rhai yr ydym yn gofalu amdanynt ac yn eu gwasanaethu. Rydym yn sicrhau bod ein holl staff yn cael eu fetio, eu dethol, eu hyfforddi a'u goruchwylio'n deg ac i safon uchel fel y gallant ddarparu gofal diogel, effeithiol a thosturiol.
Nodwch fod rhwymedigaeth gyfreithiol arnom i ystyried gweithwyr ar gyfer cyflogaeth arall addas os yw eu swyddi mewn perygl; rhoddir ystyriaeth ymlaen llaw i weithwyr presennol sy'n bodloni'r meini prawf hanfodol ac sydd wedi'u cofrestru ar ein cofrestr adleoli.
Hawl i weithio: Rhaid i bob cyflogwr yn y DU gynnal gwiriad Hawl i Weithio cyn i weithiwr newydd ddechrau gwaith. Mae hyn yn ofyniad cyfreithiol o dan Ddeddf Mewnfudo, Lloches a Chenedligrwydd 2006 ac mae'n berthnasol i bob gweithiwr, waeth beth fo'u cenedligrwydd.
Gofynnir i bob ymgeisydd am ei genedligrwydd ac a ganiateir iddo weithio yn y Deyrnas Unedig yn gyfreithlon. Pwrpas hyn yw cadarnhau a ydych yn gymwys i wneud cais am y swydd wag ac i weithio i'r Cyngor neu ei sefydliadau partner.
Mae gan Gyngor Sir Caerfyrddin drwydded nawdd ddilys. Fodd bynnag, rhaid i ymgeiswyr sydd angen nawdd o dan y llwybr Gweithiwr Medrus fodloni'r holl feini prawf cymhwysedd a nodir gan Lywodraeth y DU o dan y system fewnfudo sy'n seiliedig ar bwyntiau. Cyn cyflwyno cais, dylech wirio a yw'r rôl yn bodloni'r meini prawf cymhwysedd yng nghanllawiau Llywodraeth y DU: Skilled Worker visa: Overview - GOV.UK . Sylwer: Os nad ydych chi'n bodloni'r meini prawf cymhwysedd, ni fydd eich cais yn symud ymlaen. Os daw'n amlwg yn ddiweddarach nad ydych chi'n gymwys i wneud cais, efallai y bydd eich cais neu eich cynnig yn cael ei dynnu'n ôl.
Sut i wneud cais: Rhaid i bob cais am y swydd wag hon gael ei wneud drwy ein system ymgeisio ar-lein. Os oes gennych nam sy'n eich atal rhag gwneud cais ar-lein, e-bostiwch: swyddi@sirgar.gov.uk neu ffoniwch 01267 234567 a gofynnwch am 'Recriwtio' i drafod trefniadau eraill i'ch helpu yn y broses.
Gweler y canllawiau 'Sut rydym yn recriwtio' ar y Dudalen Gyrfaoedd i gael rhagor o wybodaeth am y broses recriwtio.