MANYLION.
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Penmorfa, Aberaeron,
- Pwnc: Heb ei ddarparu
- Oriau: Rhan amser
- Cytundeb: Cyfnod penodol
- Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
- Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
- Math o gyflog: Per annum
- Cyflog: 35,412 - 37,280 *
- Iaith: Unrhyw
- Dyddiad Cau: 12 Awst, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cynghorydd Hyfforddiant - Sgiliau Hanfodol (Llythrennedd)
Cyngor Sir Ceredigion
Cyflog: 35,412 - 37,280 *
Ynglŷn â'r rôlNoder fod y cyflog a hysbysebir ar gyfer y swydd hon yn amodol ar ddyfarniad cyflog cenedlaethol 2026/2027 sydd ar ddod. Caiff y cyflog terfynol ei addasu yn unol â hynny unwaith y bydd y dyfarniad wedi'i gytuno.
Rydym yn edrych i recriwtio Cynghorydd Hyfforddiant - Sgiliau Hanfodol (Llythrennedd) i ymuno â'n gwasanaeth Dysgu Gydol Oes.
Ynglŷn â'r rôl
Darparu addysgu a hyfforddiant o ansawdd uchel i ddysgwyr sy'n oedolion ar bob lefel a gallu, gan gynnwys rheolwyr a gweithwyr Cyngor Sir Ceredigion, busnesau lleol, gweithwyr addysgu proffesiynol eraill, dysgwyr o sefydliadau eraill a'r gymuned leol.
Ynglŷn yr ymgeisydd
Rydym yn chwilio am diwtoriaid cymwysedig a hyfedr i gyflwyno cyrsiau llythrennedd oedolion.
Mae cymhwyster addysgu Lefel 4 neu uwch a chymhwyster arbenigedd pwnc Lefel 3 gan Sefydliad Dyfarnu cydnabyddedig yn hanfodol ar gyfer y swydd hon. Bydd gennych o leiaf 4 blynedd o brofiad o ddarparu addysg oedolion, yn ogystal ag ymwybyddiaeth o dechnolegau dysgu digidol.
Bydd gofyn i chi gynllunio, datblygu, cyflwyno, arfarnu ac asesu dysgu o ansawdd uchel, a defnyddio ystod o ddulliau addysgu ac asesu, gan ddilyn canllawiau sefydliadau dyfarnu.
Oherwydd gofynion y rôl mae'n rhaid i'r ymgeisydd llwyddiannus fod â lefel o ruglder yn y Gymraeg ar benodiad. Gweler y fanyleb person am fanylion pellach.
Ein cynnig i chi
Rydym wedi ymrwymo ymrymwedig i fuddsoddi yn ein pobl a byddwn nid yn unig yn cynnig cefnogaeth i'ch galluogi i berchenogi meysydd cyfrifoldeb allweddol y swydd hon yn gyflym ac yn hyderus ond hefyd yn cefnogi eich datblygiad er mwyn i chi allu gwneud cynnydd yn eich gyrfa gyda ni.
Yn gyfnewid am eich sgiliau a'ch ymrwymiad, byddwn yn cynnig ystod o fuddion gweithwyr i chi gan gynnwys cynllun oriau hyblyg, gweithio hybrid, lwfans gwyliau blynyddol cystadleuol, cefnogaeth gynhwysfawr i weithwyr o ran iechyd a lles a chynllun cyfraniadau pensiwn hael.
Credwn fod cydbwysedd bywyd a gwaith yn holl bwysig. I'ch cefnogi i gyflawni hyn, bydd gennych fynediad at y buddion dewisol canlynol:
- Gweithio Hybrid:Yn amodol ar fodloni rhai amodau, gallwch ddewis gweithio o'ch cartref neu mewn swyddfa.
- Flexi-time:Gellir gweithio oriau o fewn lled band diffiniedig, o ddydd Llun i ddydd Gwener, yn amodol ar anghenion gwasanaeth.
Gellir cael mwy o wybodaeth am ein hystod eang o fuddion gweithwyr ar ein gwefan gyrfaoedd .
Disgrifiad Swydd a Manyleb Person
Pecyn Gwybodaeth Tîm Ceredigion
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â: Alison Newby ar 07805 760467 neu ebost alison.newby@ceredigion.gov.uk
Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.
Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o'r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau'r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a'ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.
Yr hyn a gynigwn
Cydbwysedd bywyd a gwaith
Cynllun cynilo ffordd o fyw
Cynllun pensiwn cyflogwr hael
Cynllun beicio i'r gwaith
Dysgu a datblygu
Lle byddwch yn gweithio
Dysgu Gydol Oes a Diwylliant
Rydym yn sicrhau y darperir darpariaeth dysgu gydol oes galwedigaethol i ddinasyddion Ceredigion, gyda mynediad at hamdden, chwaraeon, y celfyddydau, diwylliant a'r Gymraeg. Ein prif swyddogaeth yw:
- Dysgu Cymunedol: Cered; Dysgu Bro; Hyfforddiant Ceredigion Training; Cymraeg i oedolion.
- Diwylliant: Yr Amgueddfa; Theatr Felinfach.
- Ffordd o fyw: Ceredigion Actif; Canolfannau hamdden a phyllau nofio; y Cynllun Cenedlaethol i Atgyfeirio Cleifion i wneud Ymarfer Corff; Chwaraeon a chymryd rhan.
- Ymgysylltu â Gwaith: Cymuned ar gyfer Gwaith +; Gweithffyrdd +.
- Ymgysylltu â Phobl Ifanc: Gwasanaethau NEET; Gwasanaethau cefnogi ymddygiad ysgol ar gyfer CA3 a CA4; Gwasanaethau ieuenctid.