MANYLION.
  • Lleoliad: Penmorfa, Aberaeron,
  • Pwnc: Heb ei ddarparu
  • Oriau: Rhan amser
  • Cytundeb: Cyfnod penodol
  • Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
  • Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
  • Math o gyflog: Per annum
  • Cyflog: 35,412 - 37,280 *
  • Iaith: Unrhyw
  • Dyddiad Cau: 12 Awst, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Cynghorydd Hyfforddiant - Sgiliau Digidol

Cyngor Sir Ceredigion

Cyflog: 35,412 - 37,280 *

Ynglŷn â'r rôl
Noder fod y cyflog a hysbysebir ar gyfer y swydd hon yn amodol ar ddyfarniad cyflog cenedlaethol 2026/2027 sydd ar ddod. Caiff y cyflog terfynol ei addasu yn unol â hynny unwaith y bydd y dyfarniad wedi'i gytuno.

Rydym yn edrych i recriwtio Cynghorydd Hyfforddiant -Sgiliau Digidol i ymuno â'n gwasanaeth Dysgu Gydol Oes.

Ynglŷn â'r rôl

Darparu addysgu a hyfforddiant o ansawdd uchel i ddysgwyr sy'n oedolion ar bob lefel a gallu, gan gynnwys rheolwyr a gweithwyr Cyngor Sir Ceredigion, busnesau lleol, gweithwyr addysgu proffesiynol eraill, dysgwyr o sefydliadau eraill a'r gymuned leol.

Ynglŷn yr ymgeisydd

Rydym yn chwilio am diwtoriaid cymwysedig a hyfedr i gyflwyno cyrsiau digidol sylfaenol ac uwch i oedolion.

Mae cymhwyster addysgu Lefel 4 neu uwch a chymhwyster arbenigedd pwnc Lefel 3 gan Sefydliad Dyfarnu cydnabyddedig yn hanfodol ar gyfer y swydd hon. Bydd gennych o leiaf 4 blynedd o brofiad o ddarparu addysg oedolion, yn ogystal ag ymwybyddiaeth o dechnolegau dysgu digidol.

Bydd gofyn i chi gynllunio, datblygu, cyflwyno, arfarnu ac asesu dysgu o ansawdd uchel, a defnyddio ystod o ddulliau addysgu ac asesu, gan ddilyn canllawiau sefydliadau dyfarnu.

Oherwydd gofynion y rôl mae'n rhaid i'r ymgeisydd llwyddiannus fod â lefel o ruglder yn y Gymraeg ar benodiad. Gweler y fanyleb person am fanylion pellach.

Ein cynnig i chi

Rydym wedi ymrwymo ymrymwedig i fuddsoddi yn ein pobl a byddwn nid yn unig yn cynnig cefnogaeth i'ch galluogi i berchenogi meysydd cyfrifoldeb allweddol y swydd hon yn gyflym ac yn hyderus ond hefyd yn cefnogi eich datblygiad er mwyn i chi allu gwneud cynnydd yn eich gyrfa gyda ni.

Yn gyfnewid am eich sgiliau a'ch ymrwymiad, byddwn yn cynnig ystod o fuddion gweithwyr i chi gan gynnwys cynllun oriau hyblyg, gweithio hybrid, lwfans gwyliau blynyddol cystadleuol, cefnogaeth gynhwysfawr i weithwyr o ran iechyd a lles a chynllun cyfraniadau pensiwn hael.

Credwn fod cydbwysedd bywyd a gwaith yn holl bwysig. I'ch cefnogi i gyflawni hyn, bydd gennych fynediad at y buddion dewisol canlynol:
  • Gweithio Hybrid:Yn amodol ar fodloni rhai amodau, gallwch ddewis gweithio o'ch cartref neu mewn swyddfa.
  • Flexi-time:Gellir gweithio oriau o fewn lled band diffiniedig, o ddydd Llun i ddydd Gwener, yn amodol ar anghenion gwasanaeth.

Gellir cael mwy o wybodaeth am ein hystod eang o fuddion gweithwyr ar eingwefan gyrfaoedd.

Disgrifiad Swydd a Manyleb Person

Pecyn Gwybodaeth Tîm Ceredigion

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â: Alison Newby ar 07805 760467 neu ebost alison.newby@ceredigion.gov.uk

Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.

Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o'r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau'r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a'ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.

Yr hyn a gynigwn

Cydbwysedd bywyd a gwaith

Cynllun cynilo ffordd o fyw

Cynllun pensiwn cyflogwr hael

Cynllun beicio i'r gwaith

Dysgu a datblygu

Lle byddwch yn gweithio

Dysgu Gydol Oes a Diwylliant
Rydym yn sicrhau y darperir darpariaeth dysgu gydol oes galwedigaethol i ddinasyddion Ceredigion, gyda mynediad at hamdden, chwaraeon, y celfyddydau, diwylliant a'r Gymraeg. Ein prif swyddogaeth yw:
  • Dysgu Cymunedol: Cered; Dysgu Bro; Hyfforddiant Ceredigion Training; Cymraeg i oedolion.
  • Diwylliant: Yr Amgueddfa; Theatr Felinfach.
  • Ffordd o fyw: Ceredigion Actif; Canolfannau hamdden a phyllau nofio; y Cynllun Cenedlaethol i Atgyfeirio Cleifion i wneud Ymarfer Corff; Chwaraeon a chymryd rhan.
  • Ymgysylltu â Gwaith: Cymuned ar gyfer Gwaith +; Gweithffyrdd +.
  • Ymgysylltu â Phobl Ifanc: Gwasanaethau NEET; Gwasanaethau cefnogi ymddygiad ysgol ar gyfer CA3 a CA4; Gwasanaethau ieuenctid.
Penmorfa Penmorfa yw ein swyddfa fwyaf canolog, dyma lle mae ein Prif Weithredwr a'n Cynghorwyr wedi'i leoli. Darllen mwy Aberaeron Mae Aberaeron yn dref harbwr brydferth ac mae'n un o gyrchfannau gwyliau mwyaf poblogaidd Ceredigion gyda llefydd poblogaidd i aros a bwyta. Darllen mwy