MANYLION.
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Various,
- Pwnc: Heb ei ddarparu
- Oriau: Heb ei ddarparu
- Cytundeb: Dros dro
- Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
- Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
- Math o gyflog: Per annum
- Cyflog: £33,731 - £51,942 y flwyddyn
- Iaith: Unrhyw
- Dyddiad Cau: 31 Gorffennaf, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: £33,731 - £51,942 y flwyddyn
ManylionHysbyseb Swydd
Mae gan Cyngor Gwynedd becyn cyflogaeth deniadol, am ragor o wybodaeth cliciwch ar y Pecyn Gwybodaeth
Mae Cyngor Gwynedd yn gweithredu'n fewnol trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn cynnig ei holl wasanaethau yn ddwyieithog. Bydd angen i'r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy'n cael ei nodi fel un o'r sgiliau hanfodol yn y Manylion Person.
Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda'r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog.
(Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i'r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a'r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas.)
Am sgwrs anffurfiol neu manylion pellach gellir cysylltu â Mari Lois Hughes ar MariLoisHughes2@gwynedd.llyw.cymru neu 07776678727.
Ystyried secondiad ar gyfer y swydd yma
Cynhelir cyfweliadau ar 12/08/2026.
Ffurflenni cais ar gael gan , Gwasanaeth Cefnogol, Cyngor Gwynedd, Swyddfa'r Cyngor, Stryd y Jêl, Caernarfon, LL55 1SH
Ffôn: 01286 679076 eBost: Swyddi@gwynedd.llyw.cymru
DYDDIAD C AU: 10 : 00 O'R GLOCH, 31/07/2026
Bydd y Cyngor yn gofyn am ddadleniad gan y Swyddfa Cofnodion Troseddol ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus.
Os yn llwyddiannus i fod ar y rhestr fer am gyfweliad, byddwn yn cysylltu a chwi drwy'r cyfeiriad E-BOST a gofnodwyd gennych ar eich ffurflen gais. Mae angen i chwi sicrhau eich bod yn gwirio eich E-BOST yn rheolaidd.
Manylion Person
NODWEDDION PERSONOL
HANFODOL
Hyder i gynnal hyfforddiant
Hyderus mewn cyfarfodydd a chyflwyno gwybodaeth
Trefnu amser yn effeithiol
Sgiliau cyfathrebu clir
Gallu cydweithio fel aelod o dîm
Gallu i weithio'n hyblyg ac annibynnol
Brwdfrydedd dros weithio hefo plant a phobl ifanc
Hyder i roi cyngor I Ysgolion mewn rôl ymgynghorol
Dealltwriaeth drylwyr o brosesau diogelwch o ran plant a phobl ifanc
Trwydded yrru llawn a mynediad at drafnidiaeth .
DYMUNOL
-
CYMWYSTERAU A HYFFORDDIANT PERTHNASOL
HANFODOL
Statws Athro/awes Cymwysedig (SAC)
Cymhwyster QTVI - Cynhwyster Mandadol neu NEU ymrwymiad i ddilyn cwrs
Cynhwyster Mandadol / Gradd ôl-raddedig neu gymhwyster proffesiynol.
DYMUNOL
Dealltwriaeth gadarn o'r saith côd Braille
Dealltwriaeth cadarn o'r Codau Braille perthnasol yn Gymraeg
Sgiliau TGCh cadarn
Tystysgrif neu ddiploma mewn 'Rehabilitation' a Symudedd (Nam Golwg).
PROFIAD PERTHNASOL
HANFODOL
Profiad o:
Addysgu a paratoi ar gyfer disgyblion nam synhwyraidd neu ymrwymiad I addysgu a pharatoi ar gyfer disgyblion nam synhwyraidd
Rheoli Staff.
DYMUNOL
Profiad o:
Hyfforddi a rhoi arweiniad I gymorthyddion a/neu athrawon
Dulliau Canolbwyntio ar yr Unigolyn
Cynlluniau Datblygu Unigol
Gosod argymhellion i athrawon Dosbarth
Cydweithio gydag asiantaethau megis RNIB
Cydweithio gydag asiantaethau iechyd megis ffisio, therapydd galwedigaethol, nyrsys arbenigol
Cydweithio efo Asesydd Risg Symud a thrin.
SGILIAU A GWYBODAETH ARBENIGOL
HANFODOL
Ymwybodol o Strategaeth ADYaCh Gwynedd
Dealltwriaeth o'r ddeddfwriaeth ADYaCh a'r Cod Ymarfer
Dealltwriaeth o Ddulliau Canolbwyntio ar yr Unigolyn
Dealltwriaeth o Gynlluniau Datblygu Unigol
Y gallu i gyflwyno gwybodaeth mewn ffordd effeithiol i drawstoriad o gynulleidfaoedd
Sgiliau cynnal basdata/cyfrifiadurol cryf
DYMUNOL
-
ANGHENION IEITHYDDOL
Gwrando a Siarad - Lefel Uwch
Gallu dilyn sgwrs neu drafodaeth drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg ar lefel broffesiynol a thrafod pynciau cyffredinol bob dydd yn y maes er mwyn cyflwyno gwybodaeth a mynegi barn. Gallu darparu cyflwyniad wedi'i baratoi o flaen llaw ac ymateb i unrhyw sylwadau a chwestiynau arno drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg.
Darllen a Deall - Lefel Uwch
Gallu deall Cymraeg a Saesneg ysgrifenedig safonol, ffurfiol ac anffurfiol. Medru casglu gwybodaeth o amrywiol ffynonellau megis llythyrau, adroddiadau, erthyglau, drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg er mwyn cyflawni'r swydd.
Ysgrifennu - Lefel Uwch
Cyflwyno gwybodaeth ysgrifenedig gyda hyder ar ffurf llythyr, adroddiad mwy manwl a thechnegol ac ymateb i geisiadau ysgrifenedig gan gyfleu gwybodaeth, syniadau a barn drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg. (Mae'n bosib cael cymorth i wirio'r iaith).
Swydd Ddisgrifiad
Pwrpas y Swydd.
- Sicrhau bod plant a phobl Gwynedd ac Ynys Môn yn ganolog i bopeth yr ydan ni yn ei wneud.
- Sicrhau gwasanaeth arbenigol o safon uchel ar gyfer ysgolion a chanolfannau arbenigol i gefnogi disgyblion ystod oedran 3 - 16 oed sydd ag anawsterau Nam Golwg.
- Sicrhau gweithrediad yn y maes Nam Golwg drwy'r defnydd o weithdrefnau a phrosesau effeithiol ar sail tystiolaeth.
- Byddent yn cyflawni hyn drwy:
- Treulio cyfnodau yn asesu, monitro a darparu cwricwlwm arbenigol nam golwg gyda chefnogaeth Cymorthyddion Nam Golwg.
- dreulio cyfnodau ar lawr dosbarth yn arsylwi, modelu a monitro
- cyd weithio gyda tîm bach o Gymorthyddion Arbenigol Nam Golwg a chymorthyddion.
- cefnogi ysgolion ar ffurf hyfforddiant ac adnoddau parod
- Gweithredu yn unol â chanllawiau diogelu cadarn.
Cyfrifoldeb am Adnoddau. e.e. staff, cyllid, offer
- Cynorthwyo'r Uwch Reolwr ADY wrth gyd weithio efo'r cymorthyddion arbenigol
- Cyd weithio efo'r Uwch Seicolegydd Addysgol i gynnal hyfforddiant a chreu adnoddau ar gyfer ysgolion, canolfannau a rhien
- Cyfrifoldeb am offer arbenigol nam golwg
- Cyd weithio gyda tîm bach o Gymorthyddion Arbenigol Nam Golwg a chymorthyddion
- Gliniadur a ffôn symudol.
Prif Ddyletswyddau.
Mae'r swydd ddisgrifiad hwn i'w gyflawni yn unol â darpariaethau Dogfen Cyflogau ac Amodau Athrawon ysgol ac o fewn amred dyletswyddau athrawon fel y'u nodir yn y ddogfen honno cyn belled ag y bo hynny'n berthnasol i deitl y swydd a graddfa cyflog y sawl sydd yn y swydd. Mae'r swydd hefyd yn ddarostyngedig i Amodau Gwaith Athrawon Ysgol yng Nghymru a Lloegr (Y Llyfr Bwrgwyn) ac i unrhyw amodau perthnasol a gytunwyd yn lleol.
- Sicrhau gwasanaeth cefnogi a chynghori ar gyfer ysgolion a sefydliadau addysgol eraill drwy ddarparu arweiniad a chefnogaeth o ansawdd uchel.
- Cyfrannu at gynlluniau strategol ysgolion unigol ym maes nam synhwyraidd, ac ADY yn gyffredinol.
- Cyflenwi gwaith proffesiynol drwy gymryd a gweithredu strategaethau a gweithgareddau dysgu ar gyfer disgyblion gydag Anghenion Dysgu Ychwanegol; yn enwedig anhwylderau nam golwg ar lefel ysgol.
- Cyfrannu at fonitro cynnydd disgyblion drwy asesu, cofnodi ac adrodd ar lwyddiannau.
- Cydweithio gydag ysgolion ar gyfer datblygu'r awyrgylch gynhwysol o fewn yr ysgol.
- Cyfrannu at drafodaeth a phenderfyniadau'r Fforwm Ardal ADYaCh.
- Gweithredu ac addasu pecynnau gwaith penodol, i sicrhau adnoddau arbenigol ar gyfer ysgolion a rhieni yn y maes anghenion Nam Synhwyraidd.
- Cyd ddatblygu rhaglen hyfforddiant penodol arbenigol i gynorthwyo ysgolion a rhieni i gael gwell dealltwriaeth o nam golwg a'i effeithiau.
- Cyd weithio'n agos â'r Uwch Seicolegydd Addysgol Nam Synhwyraidd i ymgynghori ynglŷn â llwyth gwaith, weithredu strategaethau cytunedig ar lefel ysgol a chanolfannau arbenigol. Bydd hyn yn cynnwys gweithredu rhaglenni hyfforddiant, strategaethau ar gyfer unigolion o fewn ysgolion ac o fewn ysgolion arbennig ble'n briodol.
- Ymgynghori rheolaidd gyda'r Swyddogion Ansawdd ADYaCh er mwyn sicrhau fod gwybodaeth gyfredol ynglŷn â chynnydd plant ac anghenion yr ardal o ran ansawdd y ddarpariaeth yn cael ei gyfathrebu.
- Sicrhau arweiniad gweithredol clir i staff ysgolion.
- Cyd weithio gyda'r holl dîm Integredig o fewn y Gwasanaeth ADYaCh.
- Cyfrannu i HMS a datblygiadau staff o fewn y gwasanaeth ac o fewn ein hysgolion.
- Paratoi adroddiadau ar gynnydd yn erbyn meini prawf cytunedig.
- Sicrhau fod y Meini Prawf yn wybyddus i bawb ac yn cael eu gweithredu'n gyson yn ein hysgolion.
- Sicrhau fod y bas data o'r disgyblion sydd yn derbyn cefnogaeth y Gwasanaeth yn gyfredol.
- Sicrhau fod gwasanaeth Adleoliad a Symudedd ar gael ble yn briodol.
- Sicrhau gweithrediad yn unol ag argymhellion y Fforwm Ardal ADYaCh.
- Cymryd rhan, yn ôl yr angen, mewn prosesau sy'n adolygu, monitro a datblygu'r Gwasanaeth Nam Synhwyraidd
Cyffredinol
- Ymateb i unrhyw gais rhesymol arall ar gais y Pennaeth Gwasanaeth Addysg.
- Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad
- Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â'r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
- Gweithredu o fewn polisïau'r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
- Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
- Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â'r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithredu'n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
- Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy'n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
- Cyfrifoldeb i adrodd am bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin.
Amgylchiadau Arbennig. e.e. angen i weithio oriau anghymdeithasol, trefniadau gwaith arbennig, a.y.y.b.
-
- Ceisio ar lein - Sut?
- Rhestr Swyddi