MANYLION.
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Conwy,
- Pwnc: Heb ei ddarparu
- Oriau: Heb ei ddarparu
- Cytundeb: Parhaol
- Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
- Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
- Math o gyflog: Per annum
- Cyflog: £33,731 - £51,942 y flwyddyn Graddfa Cyflog Athrawon yn cynnwys lwfans ADY
- Iaith: Unrhyw
- Dyddiad Cau: 29 Gorffennaf, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: £33,731 - £51,942 y flwyddyn Graddfa Cyflog Athrawon yn cynnwys lwfans ADY
Lleoliad gwaith: Canolfan Addysg ConwyRydym yn awyddus i benodi Athro/Athrawes brwdfrydig i weithio o fewn y Gwasanaeth Cynhwysiant Cymdeithasol yng Nghanolfan Addysg Conwy.
Mae'r gwasanaeth UCD wedi ymrwymo i ddarparu addysg a chefnogaeth o ansawdd uchel i ddisgyblion ag ystod o anawsterau cymdeithasol, emosiynol ac ymddygiadol.
Rydym angen unigolyn uchel ei gymhelliant, sy'n gallu dangos ymrwymiad cryf i amcanion, gwerthoedd ac ethos cynhwysiad, gyda phrofiad o sicrhau canlyniadau rhagorol i ddisgyblion ag anghenion unigol sylweddol.
Bydd angen Athro/Athrawes ymroddedig, lle mae'r Gymraeg yn hanfodol, arnom i gyflwyno'r Gymraeg (Lefel Mynediad) a Saesneg ar lefel TGAU a chynorthwyo gyda phynciau eraill ar draws y gwasanaeth. Mae'r rôl hanfodol hon yn gofyn am weithiwr proffesiynol hynod wydn ac empathig, sy'n ddelfrydol ar gyfer grymuso dysgwyr agored i niwed mewn amgylchedd arbenigol meithringar a chefnogol.
Mae cydweithio yn rhan hanfodol o'r swydd hon a disgwylir i'r ymgeisydd llwyddiannus ddatblygu perthnasoedd gweithio mewnol effeithiol gyda disgyblion a staff, yn ogystal â phartneriaethau allanol gyda rhieni, ysgolion, ac ystod eang o weithwyr proffesiynol.
Oherwydd natur y swydd bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cael archwiliad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Mae'n ofynnol bod yr ymgeisydd llwyddiannus yn cofrestru gyda Cyngor y Gweithlu Addysg cyn cychwyn gweithio yn y swydd hon.
Manylion y rheolwr ar gyfer trafodaeth anffurfiol:
Roger Beech, Pennaeth Dros Dro
(roger.beech@csis.conwy.sch.uk / 01492 514925 )
Gofynion y Gymraeg: Mae'r gallu i gyfarthrebu yn y Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon. Rydym ni wedi ymrwymo i'r Gymraeg ac yn falch iawn o'n diwylliant Cymreig. Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg a'r Saesneg fel ei gilydd ac ni fydd ffurflenni cais a dderbynnir yn y naill iaith na'r llall yn cael eu trin yn llai ffafriol na'i gilydd. Rydym yn frwdfrydig dros eich cefnogi a'ch annog i ddefnyddio'ch Cymraeg, beth bynnag eich lefel; ac mae gennym ni ddosbarthiadau am ddim ar gyfer pob lefel, wyneb yn wyneb ac ar-lein, i'ch cefnogi chi ymhellach.
Mae Conwy wedi ymrwymo i ddiogelu. Bydd cymwysterau a geirdaon yn cael eu dilysu.
Cliciwch yma i ddysgu am y manteision o ymuno â Thîm Conwy.
Dysgwch fwy am ein proses recriwtio drwy fynd i'n Tudalen Proses Recriwtio.
Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu gweithlu amrywiol a thimoedd cynhwysol sy'n croesawu ystod eang o leisiau, profiadau, safbwyntiau a chefndiroedd. Mae creu gweithle sy'n groesawgar a lle mae pawb yn teimlo eu bod yn perthyn yn sicrhau y gallwn ddarparu gwasanaethau rhagorol.
Croesawn ac anogwn ymgeiswyr o bob cefndir a phrofiadau.
Rydym yn Gyflogwr Hyderus o ran Anabledd. Os oes gennych anabledd wedi'i ddatgan yn eich cais, gallwn sicrhau cyfweliad os ydych yn profi eich bod yn bodloni meini prawf hanfodol y swydd yn eich cais (gofynion a nodir gyda 'H' ar y Manylion am yr Unigolyn). Angen rhywfaint o gymorth gyda'ch cais? Mae gennym awgrymiadau, canllawiau a gwasanaethau cymorth i'ch helpu chi drwyddo.
Rydym yn fodlon darparu addasiadau rhesymol trwy gydol y broses recriwtio (ac mewn cyflogaeth) lle bynnag bosibl. Anogwn i chi wneud cais am addasiadau. Er mwyn gwneud hyn, cysylltwch â'r rheolwr a enwir uchod er mwyn trafod eich anghenion a chymorth posibl. Mae dewisiadau i wneud cais trwy ffurfiau gwahanol, cysylltwch â'r Tîm AD ar 01492 576129 er mwyn trafod sut y gallwn eich cefnogi chi. Ni fydd y ceisiadau hyn yn eich rhoi dan unrhyw anfantais.
This form is also available in English.