MANYLION.
  • Lleoliad: Ysgol Friars, Bangor,
  • Pwnc: Heb ei ddarparu
  • Oriau: Heb ei ddarparu
  • Cytundeb: Parhaol
  • Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
  • Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
  • Math o gyflog: Heb ei Gyflenwi
  • Cyflog: Gweler Hysbyseb Swydd
  • Iaith: Unrhyw
  • Dyddiad Cau: 07 Awst, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Cymhorthydd Cefnogaeth Dysgu Lefel 2 - Ysgol Friars

Cyngor Gwynedd

Cyflog: Gweler Hysbyseb Swydd

Manylion
Hysbyseb Swydd

ADDYSG

YSGOL FRIARS, BANGOR

(Cyfun 11 - 18: 1263 o ddisgyblion)

Yn eisiau ar gyfer : 1 Medi 2026

CYMHORTHYDD CEFNOGAETH DYSGU LEFEL 2

SWYDD BARHAOL

Oriau gwaith: 32.5 awr.

(39 wythnos y flwyddyn, sef tymor ysgol ynghyd a 5 diwrnod Hyfforddiant Mewn Swydd)

Gwahoddir ceisiadau oddi wrth unigolion brwdfrydig i weithio gyda thîm ymroddgar ac egnïol.

Graddfa Gyflog: Telir cyflog yn unol ag Amodau Gwaith ar gyfer Gweithwyr Llywodraeth Leol, Graddfa GS3 pwyntiau 5-6 (£19,346 - £19,918) yn ôl profiad a chymhwyster.

Bydd angen i'r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy'n cael ei nodi yn y Manylion Person.

Gwahoddir unrhyw un sydd â diddordeb neu sydd angen mwy o wybodaeth i gysylltu i drafod yn anffurfiol hefo'r Pennaeth, Mrs Margaret Davies. Rhif ffôn: 01248 364905

Gellir cyflwyno cais am y swydd yma ar-lein ar wefan Cyngor Gwynedd neu mae pecyn cais i'w cael gan y Arweinydd Prosiect, Miss Bethan Roberts, Ysgol Friars, Lon y Bryn, Bangor, Gwynedd, LL57 2LN. Rhif ffôn: 01248 364905.

e-bost: pennaeth@friars.ysgoliongwynedd.cymru Os dymunir ddychwelyd y cais drwy'r post, dylid ei ddychwelyd i'r cyfeiriad uchod erbyn y dyddiad cau.

Bydd y Cyngor yn gofyn am gopi o'r dadleniad gan Wasanaeth Datgelu a Gwahardd ynghyd a chadarnhad o gofrestriad gyda'r Cyngor Gweithlu Addysg gan yr ymgeisydd llwyddiannus cyn y gallent gychwyn yn y swydd yma.

DYDDIAD CAU: 10.00y.b DYDD GWENER, 7 AWST, 2026.

Disgwylir i'r cyfweliadau gael eu cynnal ar 13 Awst 2026.

Mae Ysgol Friars wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc ac mae'n disgwyl y bydd pob un o'i staff a'i wirfoddolwr yn rhannu'r ymrwymiad hwn.

Manylion Person

.

Swydd Ddisgrifiad

Pwrpas y Swydd.
  • Sicrhau bod plant a phobl ifanc Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.
  • Gweithio dan gyfarwyddyd ac arweiniad athrawon ac/neu aelodau o dîm rheoli'r ysgol.
  • Cefnogi unigolion a grwpiau o ddisgyblion gyda anghenion dysgu ychwanegol i alluogi mynediad i ddysgu.
  • Mae'r ysgol wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant ac mae'n disgwyl i'r holl staff a gwirfoddolwyr rannu'r ymrwymiad hwn.

Cyfrifoldeb am Adnoddau. e.e. staff, cyllid, offer

-

Prif Ddyletswyddau.
  • Goruchwylio a darparu cefnogaeth ar gyfer disgyblion unigol a grwpiau o ddisgyblion, gydag anghenion dysgu ychwanegol, gan sicrhau eu diogelwch a'u mynediad i weithgareddau dysgu.
  • Gweithredu Cynlluniau Addysg/Ymddygiad Unigol a rhaglenni Gofal Personol.
  • Yn dilyn hyfforddiant, gweinyddu meddyginiaeth yn unol â'r gweithdrefnau a pholisïau ar gyfer yr AALL ac ysgolion.
  • Cynorthwyo gyda goruchwylio disgyblion y tu allan i amser gwersi, yn cynnwys cyn ac ar ôl ysgol ac amserau cinio.
  • Mynd gyda staff addysgu a disgyblion ar ymweliadau, teithiau a gweithgareddau y tu allan i'r ysgol ar gais a chymryd cyfrifoldeb am grŵp o dan oruchwyliaeth yr athro/athrawes.
  • Sefydlu perthynas dda gyda'r disgyblion, gan weithredu fel model rôl a bod yn ymwybodol o anghenion unigol ac ymateb yn briodol iddynt.
  • Annog disgyblion i ryngweithio gydag eraill ac i ymuno mewn gweithgareddau o dan arweiniad yr athro/athrawes.
  • Gosod disgwyliadau uchel a hybu hunan-barch ac annibyniaeth.
  • Hwyluso cynnwys a derbyn pob disgybl o fewn y dosbarth, gan hybu annibyniaeth.
  • Dan arweiniad yr athro/athrawes, darparu adborth i ddisgyblion.
  • Cydweithio gyda'r athro/athrawes i greu amgylchedd dysgu pwrpasol.
  • Sicrhau adborth rheolaidd ac effeithlon i'r athro/athrawes, gan adrodd ar ymatebion y disgyblion i weithgareddau dysgu, cynnydd, a lles disgyblion.
  • Hybu ymddygiad disgyblion ac agweddau cadarnhaol tuag at ddysgu.
  • Cefnogi strategaethau dysgu amrywiol dan arweiniad athro/athrawes.
  • Cefnogi'r defnydd o TGaCh mewn gweithgareddau dysgu.
  • Paratoi, cynnal a defnyddio offer/adnoddau sy'n ofynnol i gwrdd â'r cynlluniau gwersi/gweithgaredd dysgu perthnasol a chynorthwyo'r disgyblion i'w defnyddio.
  • Cysylltu'n broffesiynol â rhieni, gofalwyr dan arweiniad yr athro/athrawes.
  • Cyfranogi mewn cyfarfodydd gyda'r rhieni a chyfrannu at arolygon blynyddol yn unol ag arfer ysgol.
  • Bod yn ymwybodol o bolisïau a gweithdrefnau sy'n berthynol i gynhwysiad, amddiffyn plant, iechyd a diogelwch, cyfrinachedd a diogelu data, a chydymffurfio â hwynt, gan adrodd am bob pryder.
  • Cyfrannu at ethos/gwaith/amcanion cyffredinol yr ysgol.
  • Mynychu cyfarfodydd perthnasol.
  • Cymryd rhan mewn hyfforddiant a gweithgareddau dysgu eraill ac arolygon proffesiynol ar gais.

Cyffredinol
  • Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad yn unol ar Safonau Proffesiynol ar gyfer Cynorthwyo Addysgu.
  • Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd ychwanegol sy'n berthnasol i'r swydd yn unol â chais y Rheolwr.
  • Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â'r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
  • Gweithredu o fewn polisïau'r Cyngor/Ysgol yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
  • Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau GDPR. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
  • Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon yr ysgol/ Cyngor yn unol â'r Cynllun Rheoli Carbon ac i annog eraill i weithredu'n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon yr ysgol/ Cyngor.
  • Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy'n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
  • Cyfrifoldeb i adrodd ar bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gam-drin.

Amgylchiadau Arbennig. e.e. angen i weithio oriau anghymdeithasol, trefniadau gwaith arbennig, a.y.y.b.

-

Y pum Safon Broffesiynol ar gyfer cynorthwyo addysgu

ADDYSGEG

MIREINIO ADDYSGU:
  • Rheoli'r amgylchedd dysgu
  • Help gydag asesu
  • Helpu i ddarparu adnoddau priodol
  • Cynnwys teuluoedd yn y broses ddysgu.

HYRWYDDO DYSGU:
  • Pedwar diben i ddysgwyr
  • Cyd-destunau bywyd go iawn
  • Cysylltu pynciau â themâu
  • Helpu dysgwyr i wneud cynnydd.

DYLANWADU AR DDYSGWYR:
  • Arsylwi ar ddysgwyr
  • Gwrando ar ddysgwyr
  • Dysgwyr yn arwain dysgu
  • Helpu dysgwyr i wneud ymdrech
  • Deilliannau dysgu a lles.

CYDWEITHREDU
  • Ceisio cyngor a chymorth
  • Gweithio gyda chydweithwyr yn yr ysgol
  • Cefnogi a datblygu eraill.

DYSGU PROFFESIYNOL
  • Darllen ac ystyried casgliadau ymchwil
  • Rhwydweithiau a chymunedau proffesiynol
  • Iaith a diwylliant Cymru.

ARLOESI
  • Datblygu arbenigedd y tîm
  • Gwerthuso effaith newidiadau i addysgeg.

ARWEINYDDIAETH
  • Cymryd cyfrifoldeb personol
  • Arfer cyfrifoldeb corfforaethol
  • Arwain cyd-weithwyr, prosiectau a rhaglenni
  • Arwain digwyddiadau sy'n gysylltiedig â dysgu.

Mae disgwyl bydd pob cymhorthydd yn ymrwymo i'r Safonau Proffesiynol a'u datblygu.

Gwerthoedd ac Ymagweddau Cyffredin
  • Iaith a Diwylliant Cymru

Mae'r cynorthwyydd addysgu yn pwysleisio pwysigrwydd canolog hyrwyddo iaith a diwylliant Cymru yn gyson. Bydd dysgwyr yn cael eu cefnogi i feithrin sgiliau ar draws pob maes dysgu a chymerir pob cyfle i ehangu sgiliau a chymhwysedd dysgwyr.
  • Hawliau Dysgwyr

Bydd anghenion a hawliau dysgwyr yn ganolog ac yn cael blaenoriaeth yn null y cynorthwyydd addysgu
o wneud ei swydd. Mae'r cynorthwyydd addysgu yn arddangos disgwyliadau uchel ac ymrwymiad i gyflawniad pob dysgwr.
  • Llythrennedd, Rhifedd a Chymhwysedd Digidol

Mae'r cynorthwyydd addysgu yn pwysleisio pwysigrwydd canolog llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol yn gyson. Bydd dysgwyr yn cael eu cefnogi i feithrin sgiliau ar draws pob maes dysgu a chymerir pob cyfle i ehangu sgiliau a chymhwysedd dysgwyr.
  • Dysgwyr Proffesiynol

Mae'r cynorthwyydd addysgu yn ddysgwr proffesiynol ac mae'n ymrwymo i ymgysylltu parhaus mewn datblygu, cydweithio ac arloesi gydol gyrfa.
  • Rôl yn y System

Mae'r cynorthwyydd addysgu wedi ymrwymo i ddysgwyr ym mhob
man ac mae'n rhan ddylanwadol o ddatblygu diwylliant addysg cydlynol yng Nghymru.
  • Hawl Broffesiynol

Mae gan y cynorthwyydd addysgu hawl broffesiynol i fod yn rhan o ysgol sy'n ystyried ei hun fel sefydliad sy'n dysgu. Mae gan y cynorthwyydd addysgu ymreolaeth i fod yn rhan weithredol o broffesiwn lleol, cenedlaethol a byd-eang ac mae ganddo'r hawl i annog a chefnogi gwelliant i'r ysgol er budd y dysgwyr.

  • Ceisio ar lein - Sut?
  • Rhestr Swyddi