MANYLION.
  • Lleoliad: Ysgol Friars, Bangor,
  • Pwnc: Heb ei ddarparu
  • Oriau: Heb ei ddarparu
  • Cytundeb: Parhaol
  • Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
  • Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
  • Math o gyflog: Heb ei Gyflenwi
  • Cyflog: Gweler Hysbyseb Swydd
  • Iaith: Unrhyw
  • Dyddiad Cau: 07 Awst, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Cynorthwy-ydd Cymorth Gweinyddol Cyffredinol a Chwricwlaidd - Ysgol Friars

Cyngor Gwynedd

Cyflog: Gweler Hysbyseb Swydd

Manylion
Hysbyseb Swydd

ADDYSG

YSGOL FRIARS, BANGOR

(Cyfun 11 - 18: 1263 o ddisgyblion)

Yn eisiau ar gyfer : 1 Medi 2026

CYNORTHWY-YDD CYMORTH GWEINYDDOL CYFFREDINOL A CHWRICWLAIDD

SWYDD BARHAOL

Oriau gwaith: 37awr.

(39 wythnos y flwyddyn, sef tymor ysgol ynghyd â 5 diwrnod Hyfforddiant Mewn Swydd)

Gwahoddir ceisiadau oddi wrth unigolion brwdfrydig i weithio gyda thîm ymroddgar ac egnïol.

Graddfa Gyflog: Telir cyflog yn unol ag Amodau Gwaith ar gyfer Gweithwyr Llywodraeth Leol, Graddfa GS2 pwynt 4 (£21,682 - £21,974) yn ôl profiad a chymhwyster.

Bydd angen i'r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy'n cael ei nodi yn y Manylion Person.

Gwahoddir unrhyw un sydd â diddordeb neu sydd angen mwy o wybodaeth i gysylltu i drafod yn anffurfiol gyda Clare Houston, Rheolwr Swyddfa. Rhif ffôn: 01248 364905

Gellir cyflwyno cais am y swydd yma ar-lein ar wefan Cyngor Gwynedd neu mae pecyn cais i'w cael gan y Arweinydd Prosiect, Miss Bethan Roberts, Ysgol Friars, Lon y Bryn, Bangor, Gwynedd, LL57 2LN. Rhif ffôn: 01248 364905.

e-bost: pennaeth@friars.ysgoliongwynedd.cymru

Bydd y Cyngor yn gofyn am gopi o'r dadleniad gan Wasanaeth Datgelu a Gwahardd gan yr ymgeisydd llwyddiannus cyn y gallent gychwyn yn y swydd yma.

DYDDIAD CAU: 10.00y.b DYDD GWENER, 7 AWST, 2026.

Disgwylir i'r cyfweliadau gael eu cynnal ar 13 Awst 2026.

Mae Ysgol Friars wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc ac mae'n disgwyl y bydd pob un o'i staff a'i wirfoddolwr yn rhannu'r ymrwymiad hwn.

Manylion Person

Cymwysterau

Hanfodol:
  • Addysgwyd i lefel TGAU gydag o leiaf gradd C (neu gyfwerth) naill ai Cymraeg (iaith gyntaf) neu Saesneg (F)

Dymunol:
  • Cymwysterau galwedigaethol sy'n ymwneud â defnyddio meddalwedd (F)
  • Tystiolaeth o ddatblygiad proffesiynol parhaus (F)
  • Cymhwyster addysg bellach ffurfiol a/neu radd mewn disgyblaeth berthnasol (dymunol)

Profiad

Hanfodol:
  • Gwybodaeth weithredol o raglenni Microsoft Office (F/C)
  • Casglu a dadansoddi gwybodaeth (F/C/T)
  • Ymwybyddiaeth o'r egwyddorion y tu ôl i Ddiogelu Data a GDPR (F/C)

Dymunol:

  • Gweithio mewn amgylchedd addysgol (F/I)
  • Profiad o feddalwedd SIMS (F / C / T)
  • Profiad o ddefnyddio VLE (F / C / T)
  • Profiad o weithio ym maes rheoli data (F/C)
  • Profiad o waith swyddfa a gweinyddol cyffredinol (F/C/T)
  • Profiad sefydliadau addysg uwch (F/C)

Sgiliau

Hanfodol:
  • Sgiliau TGCh da - Microsoft Office. (F / C / T)
  • Y gallu i ganolbwyntio ar fanylion a chywirdeb. (F/C)
  • Sgiliau cyfathrebu rhagorol (F/C/T)
  • Sgiliau trefnu a chynllunio rhagorol gan gynnwys y gallu i fod yn hyblyg er mwyn cyflawni targedau. (C)
  • Y gallu i weithio i ffinau amser. (C/T)
  • Y gallu i ffurfio perthynas waith dda gyda chydweithwyr a chyrff allanol. (C/T)
  • Brwdfrydig, arloesol a blaengar. (F/C)

Dymunol:
  • Y gallu i weithio gyda thîm amrywiol o staff. (F/I)
  • Y gallu i weithio i safonau proffesiynol, i gynnal cyfrinachedd, i ddatblygu perthnasoedd gwaith effeithiol, meddwl yn annibynnol a gwneud penderfyniad ac i ddylanwadu ar eraill trwy berswâd/trafodaeth (C)
  • Y gallu i weithio fel rhan o dîm, i gymryd cyfeiriad ac i ddefnyddio menter i flaenoriaethu gwaith (C/T)
  • Meddu ar sgiliau cyfathrebu llafar ac ysgrifenedig da wrth ddelio â chydweithwyr, disgyblion, rhieni neu asiantaethau allanol (F/C)
  • Y gallu i ddatblygu sgiliau newydd a defnyddio rhaglenni meddalwedd anghyfarwydd (C/T)
  • Y gallu i gyfathrebu'n effeithiol drwy gyfrwng y Gymraeg (F/C/T).

Tystiolaeth a aseswyd o: Ffurflen Gais (F): Cyfweliad (C): Tystlythyrau (T)

Swydd Ddisgrifiad

PWRPAS:

Darparu cymorth a chefnogaeth i dîm gweinyddol yr ysgol ar gyfer grwpiau dysgwyr a grwpiau blwyddyn academaidd.

CYFRIFOL I: Dan arweiniad yr Uwch Dîm Arwain ac yn atebol i Reolwr Busnes a Rheowr Swyddfa yr Ysgol.

LEFEL DATGELU: Uwch

PRIF DDYLETSWYDDAU A CHYFRIFOLDEBAU:
  • Darparu cymorth a chefnogaeth i drefnu grwpiau blwyddyn academaidd a thasgau gweinyddol cysylltiedig yn effeithlon ac effeithiol o ddydd i ddydd
  • Cynorthwyo gyda threfnu a pharatoi deunyddiau ar gyfer digwyddiadau megis Nosweithiau Rhieni, Nosweithiau Agored a Diwrnodau Blasu, gan gynnwys cysylltu â'r Rheolwr TG a'i gynorthwyydd ar gyfer sesiynau rhithwir ar-lein
  • Cynhyrchu ffigurau presenoldeb a logiau ymddygiad yn ôl yr angen ar gyfer y Pennaeth Blwyddyn ac anfon llythyrau a chynnal taenlen presenoldeb gyda'r camau a gymerwyd
  • Cynorthwyo gyda'r trefniadau derbyn i'r ysgol
  • Cynhyrchu a thrin data ac adroddiadau yn ôl yr angen
  • O dan gyfarwyddyd, cysylltu'n effeithiol i sicrhau bod gwybodaeth yn cael ei rhannu'n briodol.

Ar gyfer cefnogaeth y Gyfadran:
  • Defnyddio rhaglenni Systemau Rheoli Gwybodaeth a Microsoft Office megis Word, Excel, PowerPoint ac ati i baratoi dogfennau a chyflwyniadau ac i ddatblygu a chynnal cronfeydd data
  • Cynorthwyo i ddatblygu ac atgynhyrchu deunyddiau ar gyfer cyfadran o dan gyfarwyddyd y Pennaeth y Gyfadran yn ogystal ag aelodau o Dîm Rheoli'r Gyfadran pan fo angen
  • Cynorthwyo â llungopïo, styffylu, lamineiddio a rhwymo deunyddiau
  • Helpu i gadw hysbysfyrddau yn gyfredol
  • Cynnal cofnodion
  • Cymryd nodiadau a chynhyrchu cofnodion cyfarfodydd
  • Ymateb yn briodol i negeseuon ffôn ac electronig
  • Cefnogi a chynorthwyo gyda pharatoi, atgynhyrchu, coladu a ffeilio dogfennau ar wahân
  • Cynorthwyo i gysylltu a meithrin cysylltiadau ag asiantaethau allanol ac amrywiol feysydd cwricwlaidd yr Ysgol
  • Cymorth Gweinyddol mewn perthynas â theithiau ysgol.

Cyfrifoldebau eraill
  • Cymryd rhan yng nghynllun gwerthuso'r ysgol gan sicrhau bod safonau a thargedau perfformiad yn cael eu gosod a'u bodloni o fewn yr amserlen gytunedig
  • Cydgysylltu a chwblhau gwaith i staff yr ysgol
  • Dyletswyddau swyddfa cyffredinol i gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i ateb galwadau ffôn ac ymholiadau, e-byst, argraffu, cefnogi ymwelwyr ar y safle, delio â disgyblion a rhieni/gofalwyr.
  • Ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill yn ôl y cyfarwyddyd.

Cyffredinol
  • Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad.
  • Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â'r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch yr ysgol.
  • Gweithredu o fewn polisïau'r ysgol yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
  • Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau'r ysgol. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin yn unol â deddfwriaeth Diogelu Data.
  • Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy'n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
  • Cyfrifoldeb i adrodd ar bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gam-drin.

Nid yw'r rhestr o gyfrifoldebau uchod yn holl gynhwysfawr, efallai y gofynnir i staff gweinyddol gyflawni'r holl ddyletswyddau ychwanegol rhesymol yn unol â chyfarwyddyd yr UDA neu eu rheolwr llinell.

Gellir diwygio'r disgrifiad swydd a'r dyraniad o gyfrifoldebau penodol o bryd i'w gilydd drwy gytundeb.

  • Ceisio ar lein - Sut?
  • Rhestr Swyddi