MANYLION.
  • Lleoliad: Cyfreithiol,
  • Pwnc: Heb ei ddarparu
  • Oriau: Heb ei ddarparu
  • Cytundeb: Heb ei ddarparu
  • Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
  • Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
  • Math o gyflog: Per annum
  • Cyflog: £36,981 - £39,442
  • Iaith: Unrhyw
  • Dyddiad Cau: 27 Gorffennaf, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Cydlynydd Llyfrgell a Sgiliau Academaidd CC/3153

Coleg Cambria

Cyflog: £36,981 - £39,442

Disgrifiad Swydd a Manyleb Person

Coleg Cambria: Cyflwyniad

Yng Ngholeg Cambria, ein nod yw bod yn sefydliad addysg eithriadol.

Rydym yn rhoi croeso cynnes i holl fyfyrwyr a staff i wneud Coleg Cambria yn lle rydych chi eisiau bod yn rhan ohono. Er mwyn sicrhau bod ein myfyrwyr yn cael y profiad a'r canlyniadau gorau y gallant eu cael, rydym yn sicrhau fod y bobl rydym yn eu cyflogi yn hapus. Rydym yn meithrin amgylchedd gwaith cadarnhaol, gweithlu sy'n ehangu ac yn gwella'n gyson, ac yn cynnig y cyfle i chi herio'ch hun. Yn ogystal â hynny, mae gennym ystod eang o fudd-daliadau i sicrhau fod ein gweithwyr yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, gan gynnwys gwyliau blynyddol hael, pecyn pensiwn gwych, ac aelodaeth â disgownt i'n campfeydd, ein salonau a'n bwytai hyfforddi proffesiynol.

Mae ein 5 safle, sydd wedi'u lleoli mewn ardal odidog yng Ngogledd Cymru, yn ehangu ac yn datblygu'n gyson. Gyda pherthnasoedd cryf gyda nifer o gwmnïau yn yr ardal, rydym yn helpu rhoi'r dechrau gorau i'n myfyrwyr i'w gyrfaoedd ac yn helpu'r economi leol i ffynnu. Mae gan Gymru ddiwylliant cadarn a balch, ac rydym yn parhau i ddatblygu'r gwerthoedd pwysig hynny trwy ymrwymo i hyrwyddo'r Gymraeg. Rydym yn falch iawn o'r hyn rydym wedi'i adeiladu yma ac rydym bellach yn chwilio am rywun i wella ein gweithlu sydd eisoes yn eithriadol.

Crynodeb o'r Swydd

Rhagori ar ddisgwyliadau drwy addysg, arloesedd ac ysbrydoliaeth...

Teitl yswyd: Cydlynydd Llyfrgell a Sgiliau Academaidd

Lleoliad: Glannau Dyfrdwy a Chweched Glannau Dyfrdwy

Math o Gontract: Parhaol, Llawn Amser

Cyflog: £36,981 - £39,442

Mae Coleg Cambria yn chwilio am Gydlynydd Llyfrgell a Sgiliau Academaidd i ymuno â'n tîm sydd wedi'i leoli yng Nglannau Dyfrdwy.

Mae hwn yn gyfle cyffrous i ymuno â Choleg Cambria fel rhan o'r tîm llyfrgell a sgiliau academaidd. Byddwch chi'n gweithio mewn amgylchedd llyfrgell prysur ac yn arwain tîm ymroddedig i ddarparu cymorth grŵp ac 1:1 i ystod amrywiol o ddysgwyr. Eich prif ffocws fydd galluogi dysgwyr i lwyddo trwy ddatblygu sgiliau academaidd. Bydd gennych chi gefndir a phrofiad cadarn o gynllunio a hwyluso cymorth mewn cyd-destun addysgol. O ganlyniad i hyn byddwch chi'n cydweithio'n agos â Chydlynwyr Anogwyr Cynnydd, Anogwyr Cynnydd a staff cwricwlwm i hyrwyddo, nodi a datblygu strategaethau ymyrraeth sy'n arwain at ganlyniadau cadarnhaol. Trwy gydweithio'n agos ag adrannau AU allweddol, byddwch chi'n datblygu ac yn cyflwyno dull strategol o roi arweiniad ar sgiliau astudio academaidd i'n grwpiau myfyrwyr AU er mwyn gwella eu profiad prifysgol a'u cynorthwyo i lwyddo.

Drwy gaffael, hyrwyddo a defnyddio cynnwys dysgu digidol a thechnoleg sy'n canolbwyntio ar addysg, byddwch chi'n darparu cynnwys cyfoes a pherthnasol ar draws ystod eang o feysydd cwricwlwm. Bydd cael dealltwriaeth o brosesau ariannol fel monitro cyllideb a phrynu yn rhan o'ch cyfrifoldebau fel rheolwr atebol. Bydd meithrin perthnasoedd rhagorol gyda staff a myfyrwyr yn hanfodol er mwyn gweithredu amcanion y gwasanaeth. Mae profiad profedig o sgiliau arwain tîm cadarn yn hanfodol ar gyfer y swydd. Bydd ysgogi a datblygu eich tîm trwy fod yn rheolwr atebol effeithiol yn rhan allweddol o roi profiad coleg rhagorol i fyfyrwyr, gan sicrhau effaith a chanlyniadau llwyddiannus.

Os ydych chi'n angerddol am drawsnewid bywydau pobl ifanc a'r rhai sy'n dychwelyd i addysg, yna rydyn ni eisiau clywed gennych chi.

Gofynion Hanfodol
  • Addysg hyd at Lefel Gradd
  • Profiad o reoli, arwain, datblygu a chymell tîm
  • Profiad profedig o gefnogi dysgwyr mewn cyd-destun addysgol
  • Profiad o gyflwyno hyfforddiant a sesiynau cymorth sy'n ymgysylltu â dysgwyr
  • Gwybodaeth am strategaethau dysgu a gwahaniaethu i gefnogi cynnydd dysgwyr unigol
  • Gallu cyfathrebu'n dda er mwyn meithrin perthnasoedd proffesiynol cadarnhaol gydag amrywiaeth o randdeiliaid
  • Gallu gwneud defnydd effeithiol o dechnolegau i gefnogi dysgu gan gynnwys MS Office neu Google a defnydd arloesol o gymwysiadau Addysg a Thechnoleg eraill
  • Lefel dda o sgiliau llythrennedd, llythrennedd digidol a rhifedd
  • Ymarferydd profiadol gyda sgiliau a galluoedd personol rhagorol gan gynnwys gwydnwch a sgiliau trefnu
  • Egni a brwdfrydedd i ysgogi tîm i ddarparu profiad dysgu rhagorol a fydd yn grymuso ein myfyrwyr i gyflawni eu potensial fel rhan o amcanion ehangach y gwasanaeth

Dymunol ydy sgiliau'r Gymraeg ar gyfer y swydd hon. Rydym yn chwilio am ymgeiswyr sy'n gallu ein helpu ni i ehangu ein darpariaeth a'n gwasanaethau dwyieithog.

Nod Coleg Cambria ydy hyrwyddo ac ymgorffori'r Gymraeg a diwylliant Cymru yn rhagweithiol. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu cyfleoedd a chefnogi ein cydweithwyr i ddatblygu eu sgiliau Cymraeg mewn lleoliadau ffurfiol ac anffurfiol. Mae hyn yn cynnwys gallu dilyn cynlluniau hyfforddiant Cymraeg yn ogystal â thaliadau anogaeth ar gyfer darpariaeth a gwasanaethau dwyieithog.

Rydym yn annog ceisiadau yn y Gymraeg yn fawr. Ni fydd ceisiadau a gyflwynwyd yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynwyd yn Saesneg.

Bydd ffurflenni cais, deunydd esboniadol, gwybodaeth am y broses gyfweld a dulliau asesu a disgrifiadau swydd i gyd ar gael yn Gymraeg.

Mae Coleg Cambria yn gyflogwr 'Hyderus o ran Anableddau'.

Rydyn ni'n adeiladu coleg sy'n adlewyrchu'r gymuned fywiog ac amrywiol rydyn ni'n ei gwasanaethu. Rydyn ni'n croesawu ac yn annog ceisiadau gan unigolion o bob cefndir, yn enwedig y rhai o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol.

Mae Coleg Cambria wedi ymrwymo i ddiogelu pob dysgwr, ac rydym yn disgwyl i bob aelod o staff rannu'r ymrwymiad hwn.

Mae'r rôl hon wedi'i chynnwys o dan Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) ac wedi'i dosbarthu fel gweithgaredd rheoleiddiedig.

Mae'n ofynnol felly cael gwiriad DBS Uwch gyda Rhestr Waharddedig, ac mae'n rhaid i ymgeiswyr ddatgelu pob rhybudd a chollfarn yn cynnwys unrhyw rai sydd wedi darfod. Mae'n drosedd gwneud cais os ydych wedi'ch gwahardd rhag gweithio gyda phlant. Ni fydd datgelu yn atal cyflogaeth yn awtomatig; cynhelir asesiad risg ond efallai y byddwn yn ystyried bod rhai euogfarnau / rhybuddion yn golygu eu bod nhw'n anaddas i weithio gyda phlant.

Yn dibynnu ar y swydd, efallai y bydd angen i ymgeiswyr llwyddiannus gofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg hefyd.

Fel arfer mae swyddi'n cael eu hysbysebu gydag ystod cyflog. Os cewch gynnig swydd yn y coleg, bydd profiad perthnasol yn cael ei ystyried er mwyn pennu eich cyflog cychwynnol.

Sylwer fod Coleg Cambria yn cadw'r hawl i gau'r rhestr ymgeiswyr yn gynnar ar gyfer unrhyw swydd pe byddwn yn derbyn nifer fawr o geisiadau. Byddwn yn argymell eich bod yn cwblhau eich cais cyn gynted â phosibl os hoffech gael eich ystyried ar gyfer y swydd hon.

Buddion

Cynllun(iau) pensiwn ardderchog

Hawl gwyliau blynyddol hael

Darpariaeth feithrin ar ein safle yng Nglannau Dyfrdwy

Gostyngiadau ar ystod o gyrsiau gyda'r nos y coleg

Mynediad i ystod eang o gyrsiau e-ddysgu a datblygiad proffesiynol

Disgownt ar aelodaeth ystafell ffitrwydd

Cyfleusterau chwaraeon a ffitrwydd ardderchog

Parcio am ddim ar bob safle

Cynllun Beicio

Cyfraddau gostyngol ar gyfer trin gwallt a thriniaethau harddwch

Cyfraddau gostyngol yn ein bwytai

Absenoldeb mamolaeth, mabwysiadu a thadolaeth estynedig