MANYLION.
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Bangor,
- Pwnc: Heb ei ddarparu
- Oriau: Llawn amser
- Cytundeb: Parhaol
- Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
- Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
- Math o gyflog: Per annum
- Cyflog: £30,575 - £32,622 y flwyddyn, yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad
- Iaith: Unrhyw
- Dyddiad Cau: 03 Awst, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: £30,575 - £32,622 y flwyddyn, yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad
Pwrpas y swydd -Mae Adran Lletygarwch ac Arlwyo Coleg Menai yn adran flaengar sy'n cynnig cyrsiau o Lefel 1 - 3. Mae addysgu a dysgu yn digwydd gyda mynediad i offer safonol y diwydiant ac o fewn cyfleusterau modern.
Rydym yn chwilio am aelod staff parhaol i ymuno ag Adran Lletygarwch ac Arlwyo'r Coleg ac yn edrych i gyflogi unigolyn brwdfrydig ac ymroddedig sydd â phrofiad yn y diwydiant.
Rydym yn chwilio am unigolyn sydd â sgiliau gweithio ym myd gwaith i helpu i gefnogi rhedeg a gweithredu'r Cymwysterau Gwasanaeth Bwyd a Diod sy'n rhedeg ochr yn ochr â'r cyrsiau Coginio.
Bydd rôl y goruchwyliwr sgiliau ymarferol yn cynnwys gweithio dan arweiniad darlithwyr wrth ddarparu addysg ddwyieithog o ansawdd uchel i ddysgwyr ar draws ystod o gymwysterau a lefelau ar raglenni llawn amser. Bydd y rôl yn cynnwys cynllunio a chyflwyno sesiynau ymarferol mewn amgylchedd gwaith realistig a darparu cefnogaeth barhaus i sicrhau bod pob dysgwr yn cael y cyfle gorau i lwyddo.
Disgwylir rôl ragweithiol hefyd wrth gefnogi'r tîm i ddatblygu'r cyrsiau a'r ddarpariaeth, gan sicrhau bod dysgwyr wrth wraidd popeth a wnawn.
Disgwylir i'r ymgeisydd llwyddiannus gyflwyno safonau uchel o addysgu a ddysgu mewn amgylchedd gwaith realistig a chefnogi Arweinydd y Rhaglen i ddarparu cefnogaeth, cyngor ac arweiniad parhaus sy'n hyrwyddo llwyddiant dysgwyr. Hoffem weithio gyda chi i ddatblygu eich sgiliau proffesiynol er mwyn cynnig y profiad gorau posibl i ddysgwyr ac i helpu i symud yr adran ymlaen.
Disgwyliadau allweddol y rôl:
1. Addysgu sesiynau ymarferol i safon uchel er mwyn creu cyfleoedd dysgu effeithiol a galluogi pob dysgwr i gyflawni hyd eithaf eu gallu.
2. Sicrhau amgylchedd proffesiynol a diogel yn yr amgylchedd gwaith realistig sy'n adlewyrchu'r hyn a ddisgwylir mewn sefydliad.
3. Cynnal safonau uchel o ran y ddarpariaeth a'r gefnogaeth a roddir i ddysgwyr.
4. Sicrhau bod polisïau a gweithdrefnau'r Grŵp yn cael eu dilyn.
5. Cefnogi dysgwyr i lwyddo er mwyn cyflawni neu ragori ar eu targedau, drwy herio ac ymestyn dysgwyr yn briodol.
Manylion Swydd
Cyfeirnod y Swydd
CL/296/26
Cyflog
£30,575 - £32,622 y flwyddyn, yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad
Lleoliad Gwaith
- Bangor
Hawl gwyliau
Bydd hawl i wyliau â thâl pro rata ym mhob blwyddyn academaidd (1 Medi i 31 Awst), sy'n cynnwys hawl pro-rata i 8 Gŵyl Banc a Gwyliau Cyhoeddus a welir fel arfer yng Nghymru a hawl pro-rata o hyd at 5 o wyliau effeithlonrwydd (sylwer y gall hyn newid yn flynyddol). Mae gwyliau blynyddol yn deillio o hawl pro rata cyfwerth ag amser llawn o 28 diwrnod (yn codi i 32 diwrnod ar ôl pum mlynedd lawn o wasanaeth di-dor) sydd wedi'i gynnwys yn y gyfradd fesul awr a delir.
Patrwm gweithio
37 awr yr wythnos, Dydd Llun i Ddydd Gwener
Hawliau Pensiwn
Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol
Math o gytundeb
Llawn Amser Parhaol
Dyddiad cau
03 Awst 2026
12:00 YH(Ganol dydd)