MANYLION.
  • Lleoliad: Heb ei ddarparu
  • Pwnc: Heb ei ddarparu
  • Oriau: Rhan amser
  • Cytundeb: Cyfnod penodol
  • Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
  • Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
  • Math o gyflog: Per annum
  • Cyflog: Gradd 4 - £25,989 - £26,403 pro rata
  • Iaith: Unrhyw
  • Dyddiad Cau: 13 Gorffennaf, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Cynorthwyydd Addysgu (Lefel 2) - Ysgol Gymunedol Doc Penfro

Cyngor Sir Benfro

Cyflog: Gradd 4 - £25,989 - £26,403 pro rata

Grade 4 - £25989 for 28.45 hours per week for 45.8 weeks per annum equating to £17,533.53 pro rata.

Mae'r corff llywodraethu am benodi Cynorthwyydd Cymorth Dysgu medrus a llawn cymhelliant i weithio yn ein Canolfan Adnoddau Dysgu yn Ysgol Gymunedol Doc Penfro.

Bydd yn rhaid i'r ymgeisydd llwyddiannus fodloni'r gofynion canlynol:

  • Bod yn frwd dros ddysgu plant ac arwain trwy esiampl
  • Bod â disgwyliadau uchel o ran y disgyblion
  • Dangos ymroddiad i hyrwyddo tegwch ac ethos cynhwysol i sicrhau'r safonau uchaf posibl ar gyfer pob disgybl
  • Arddangos sgiliau rhyngbersonol rhagorol, brwdfrydedd, hyblygrwydd ac egni
  • Bod yn gadarn ac yn ddibynadwy
  • Mwynhau'r heriau a'r llwyddiannau y mae bywyd ysgol yn eu cyflwyno

Gallwn gynnig y canlynol i chi:

  • Cymuned ysgol gynnes a chefnogol, ag ethos teuluol cryf yn sail iddi
  • Cefnogaeth tîm gweithgar ac ymrwymedig o staff a llywodraethwyr
  • Plant hapus sy'n awyddus i ddysgu
  • Amgylchedd dysgu sydd â llawer o adnoddau
  • Wythnos waith anghymesur gydag amser penodol ar gyfer datblygiad proffesiynol, yn ogystal ag amser llesiant i gynnal y cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith

Mae'r swydd hon am 28 awr 45 munud yr wythnos, yn ystod y tymor yn unig, tan 31 Mawrth 2027 yn y lle cyntaf. Os hoffech ymweld â'r ysgol yn ystod y broses ymgeisio, neu os oes arnoch angen unrhyw wybodaeth ychwanegol, cysylltwch â'r ysgol drwy ffonio 01646 684872.

Bydd y rhestr fer yn cael ei thynnu yn yr wythnos sy'n cychwyn ar 13 Gorffennaf 2026, gyda chyfweliadau yn cael eu cynnal yn ystod yr wythnos yn cychwyn ar 3 Awst 2026.

Buddion i Weithwyr

Mae ein buddion i weithwyr wedi'u cynllunio i helpu i fuddsoddi yn eich dyfodol ac maent yn ychwanegol at fyw a gweithio yn Sir Benfro, un o'r siroedd mwyaf prydferth a dymunol yn y DU.

Mae gwefan Ymweld â Sir Benfro https://www.visitpembrokeshire.com/cy-gb yn ffynhonnell wybodaeth ardderchog, ac mae'n arddangos yr amrywiaeth eang o weithgareddau, amwynderau ac anturiaethau sy'n aros amdanoch.

Cyfeiriwch at y disgrifiad swydd uchod am ragor o fanylion am y swydd wag hon a manyleb y person.

Gwiriadau Cyflogaeth

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i wiriad datgelu gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Caiff yr wybodaeth bersonol rydym wedi'i chasglu gennych ei rhannu â Cifas pan fydd yn briodol ar gyfer eich rôl a'ch cyfrifoldeb, a bydd Cifas yn ei defnyddio i atal twyll, ymddygiad anghyfreithlon neu anonest arall, camymddwyn, ac ymddygiad arall sy'n ddifrifol amhriodol. Os caiff unrhyw un o'r rhain eu canfod, gellir gwrthod darparu rhai gwasanaethau neu gyflogaeth i chi. Bydd eich gwybodaeth bersonol hefyd yn cael ei defnyddio i wirio pwy ydych chi. Gallwch weld rhagor o fanylion am sut y caiff eich gwybodaeth ei defnyddio gennym ni a Cifas, a'ch hawliau diogelu data, yma: https://www.cifas.org.uk/fpn.


Dylai ymgeiswyr sicrhau bod ganddynt yr hawl i weithio yn y Deyrnas Unedig cyn gwneud cais am swydd wag.

Sylwch nad yw Cyngor Sir Penfro ar hyn o bryd yn derbyn ymgeiswyr sydd angen fisa Gweithiwr Medrus fel rhagofyniad i hawl i weithio yn y DU. Dylai ymgeiswyr sicrhau bod ganddynt yr hawl i weithio yn y DU cyn gwneud cais am swydd wag.

Nodyn Canllaw: Defnyddio Deallusrwydd Artiffisial a Chywirdeb Gwybodaeth:
  • Rydym yn deall y gall ymgeiswyr ddewis defnyddio offer fel Deallusrwydd Artiffisial cynhyrchiol i gefnogi paratoi eu cais. Er bod defnyddio offer o'r fath yn cael ei ganiatáu, mae'n parhau i fod yn gyfrifoldeb llawn yr ymgeisydd i sicrhau bod yr holl wybodaeth a gyflwynir yn ffeithiol gywir, yn wir, ac yn gynrychioliadol o'u sgiliau, profiadau a chymwysterau eu hunain.
  • Gall darparu gwybodaeth sy'n ffug, yn gamarweiniol, neu'n orliwiedig, p'un a gafodd ei chynhyrchu gan Deallusrwydd Artiffisial ai peidio, arwain at anghymhwyso o'r broses recriwtio neu ddiswyddo os caiff ei ddarganfod ar ôl penodi.
  • Drwy gyflwyno'r cais hwn, rydych yn cadarnhau bod yr holl gynnwys a ddarperir yn gywir ac wedi'i gyflwyno'n ddidwyll.
Mae'r Rhaglen Cyflogaeth â Chymorth yn grŵp o fentrau sy'n seiliedig ar awdurdodau lleol sy'n cyflogi dros 75 o bobl ag anabledd neu gyflwr iechyd sy'n cyfyngu ar eu gallu i weithio, ewch i'r ddolen isod am ragor o wybodaeth: Rhaglen Cyflogaeth a Chymorth - Cyngor Sir Benfro

Diogelu

Mae diogelu ac amddiffyn plant ac oedolion mewn perygl yn flaenoriaeth uchel i Gyngor Sir Penfro. Ein nod yw cefnogi plant sy'n agored i niwed ac oedolion mewn perygl er mwyn sicrhau eu bod mor ddiogel â phosibl. Rydym yn ymrwymedig i sicrhau eu diogelwch a byddwn yn gweithredu i ddiogelu eu llesiant. Mae Polisi Diogelu Corfforaethol y Cyngor yn darparu fframwaith i bob aelod o staff a gwasanaeth yn y Cyngor, gan amlinellu cyfrifoldebau mewn perthynas â diogelu ac amddiffyn plant ac oedolion mewn perygl yn ogystal â'r dulliau a ddefnyddir gan y Cyngor i sicrhau ei fod yn cyflawni ei ddyletswyddau.

Mae'r polisi hwn yn berthnasol i holl weithwyr a gweithlu'r Cyngor, yn ogystal â chynghorwyr, gwirfoddolwyr a darparwyr gwasanaethau a gomisiynir gan y Cyngor. Busnes pawb yw diogelu, p'un a ydynt yn gweithio i'r Cyngor neu'n gweithio ar ran y Cyngor.


Cymorth a Gwybodaeth Ychwanegol


  • Cysylltwch â'r Tîm Systemau AD cyn gynted â phosibl os na allwch wneud cais ar-lein drwy anfon e-bost at hrsystemsteam@pembrokeshire.gov.uk .
  • Cysylltwch â'r Tîm Recriwtio os oes gennych unrhyw ymholiadau yn ymwneud â'r swydd wag hon drwy anfon e-bost at recriwtio@sir-benfro.gov.uk
  • Mae gweithwyr llywodraeth leol ar delerau'r Cyd-gyngor Cenedlaethol yn destun bargeinio cyflog cenedlaethol; mae'r holl gyflogau a nodir yn ein hysbysebion ar hyn o bryd ar sail cyflogau 1/4/2025.
Sylwch, mae gennym rwymedigaeth gyfreithiol i ystyried gweithwyr ar gyfer cyflogaeth amgen addas os yw eu swyddi mewn perygl, felly rhoddir ystyriaeth ymlaen llaw i weithwyr presennol sy'n bodloni manyleb y person ac sydd wedi'u cofrestru ar ein cronfa adleoli.

Mae sgiliau Cymraeg yn ddymunol. Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg ac ni chânt eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynir yn Saesneg.