MANYLION.
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Swyddfeydd y Cyngor,
- Pwnc: Heb ei ddarparu
- Oriau: Llawn amser
- Cytundeb: Dros dro
- Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
- Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
- Math o gyflog: Per annum
- Cyflog: 36363.00 - 39862.00 GBP Fesul Blwyddyn
- Iaith: Unrhyw
- Dyddiad Cau: 13 Gorffennaf, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Ymgynghorydd Lles Dysgwyr, Diogelu ac Ansawdd (Grant Datblygu Disgyblion)
Cyngor Sir Ynys Mon
Cyflog: 36363.00 - 39862.00 GBP Fesul Blwyddyn
Gweithio i Gyngor Sir Ynys MônMae Ynys Môn yn lle braf i fyw ac i weithio. Mae'n ymwneud â gwella bywydau'r bobl sy'n byw ac yn gweithio ar yr ynys. Er mwyn ein cynorthwyo i gyflawni ein blaenoriaethau rydym angen gweithwyr sydd yr un mor uchelgeisiol â ninnau, sy'n cymryd balchder yn eu gwaith, sydd â meddylfryd byd busnes, sy'n barod i weithio mewn partneriaeth ac sydd bob amser yn darparu'r safonau uchaf posibl. Ein nod yw creu Ynys Môn sy'n iach a llewyrchus, lle gall teuluoedd ffynnu.
Mae ein llwyddiant yn dibynnu ar y bobl rydyn ni'n eu cyflogi, ac rydym wedi ymrwymo i werthfawrogi ein tîm. Rydym yn cynnig mwy na chyflog yn unig, felly edrychwch ar rai o'r buddion y gallwn eu cynnig i'n staff: Buddion o weithio i Gyngor Sir Ynys Môn
Pwrpas cyffredinol y swydd
Dylai'r s wyddog ddarparu her gadarn, adeiladol a chefnogaeth o ansawdd uchel i alluogi arweinwyr ysgolion a lleoliadau, yn ogystal â chyrff llywodraethu, i wella deilliannau a t h egwch mewn addysg i blant a phobl ifanc difreintiedig/bregus. Disgwylir i'r s wyddog roi'r cymorth angenrheidiol i ysgolion a lleoliadau i ddefnyddio'r Grant Datblygu Disgyblion (GDD) yn y ffordd fwyaf effeithiol, gan ganolbwyntio ar ymyriadau sy'n cael eu llywio gan dystiolaeth, ac yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru i'r GDD.
Mwy o wybodaeth
Penodiad yn ddibynnol ar wiriad GDG (DBS) lefel uwch boddhaol.
Gwelwch y swydd disgrifiad am mwy o gwybodaeth a gofynion sgiliau iaith Gymraeg ar gyfer y swydd hon.
Mae croeso i chi gyflwyno cais yn eich dewis iaith. Bydd ceisiadau a gyflwynir yn Gymraeg neu'n Saesneg bob amser yn cael eu trin yn gyfartal.
Atodir isod y disgrifiad swydd/manyleb person.
Rydym yn eich cynghori i arbed y swydd ddisgrifiad a'r fanyleb person i'ch cyfrifiadur neu ar gof bach gan y bydd y dogfennau yn diflannu unwaith y bydd y swydd yn cau.
Manylion cyswllt
Enw: Gerallt Roberts
Rhif ffôn: 01248752908
Cyfeiriad e-bost: geralltroberts@ynysmon.llyw.cymru