MANYLION.
  • Lleoliad: Swyddfeydd y Cyngor,
  • Pwnc: Heb ei ddarparu
  • Oriau: Llawn amser
  • Cytundeb: Parhaol
  • Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
  • Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
  • Math o gyflog: Per annum
  • Cyflog: 69598.00 - 73609.00 GBP Fesul Blwyddyn
  • Iaith: Unrhyw
  • Dyddiad Cau: 13 Gorffennaf, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Uwch Reolwr - Sector Uwchradd, Cefnogi Gwelliant Ysgolion

Cyngor Sir Ynys Mon

Cyflog: 69598.00 - 73609.00 GBP Fesul Blwyddyn

Gweithio i Gyngor Sir Ynys Môn
Mae Ynys Môn yn lle braf i fyw ac i weithio. Mae'n ymwneud â gwella bywydau'r bobl sy'n byw ac yn gweithio ar yr ynys. Er mwyn ein cynorthwyo i gyflawni ein blaenoriaethau rydym angen gweithwyr sydd yr un mor uchelgeisiol â ninnau, sy'n cymryd balchder yn eu gwaith, sydd â meddylfryd byd busnes, sy'n barod i weithio mewn partneriaeth ac sydd bob amser yn darparu'r safonau uchaf posibl. Ein nod yw creu Ynys Môn sy'n iach a llewyrchus, lle gall teuluoedd ffynnu.

Mae ein llwyddiant yn dibynnu ar y bobl rydyn ni'n eu cyflogi, ac rydym wedi ymrwymo i werthfawrogi ein tîm. Rydym yn cynnig mwy na chyflog yn unig, felly edrychwch ar rai o'r buddion y gallwn eu cynnig i'n staff: Buddion o weithio i Gyngor Sir Ynys Môn

Pwrpas cyffredinol y swydd
Aelod o Uwch D î m A r weinyddol y Gwasanaeth Dysgu .

Arwain ar gefnogi gwelliant yn y meysydd TGAU, Safonau Uwchradd ESTYN , Arolygiadau a Grant GAD gan sicrhau cydlyn ia d gyda gwasanaethau eraill y Cyngor er mwyn darparu'r gefnogaeth fwyaf effeithiol ac effeithlon i blant a phobl ifanc .

Cydweithio mewn modd integredig gyda gwasanaethau a p h artneriaethau eraill . Rheol i ac arwain staff . Darparu arweiniad, cefnogaeth a her i'n h ysgolion er mwyn sicrhau eu bod yn gweithredu mor effeithiol ac effeithlon â ph osibl, a thrwy hynny , sicrhau'r profiadau a 'r deilliannau gorau posibl i ddisgyblion y sir.

Mwy o wybodaeth
Penodiad yn ddibynnol ar wiriad GDG (DBS) lefel uwch boddhaol.

Ystyrir ceisiadau am secondiad.

Ystyrir ceisiadau am gontractau Rhan-Amser.

Cynhelir cyfweliadau ar gyfer ymgeiswyr llwyddiannus ar 16 Gorffennaf 2026.

Am fanylion ynghylch trefniadau'r cyngor ar gyfer pennu tâl Swyddogion Soulbury wrth benodi cysylltwch gyda Euros Davies.

Gwelwch y swydd disgrifiad am mwy o gwybodaeth a gofynion sgiliau iaith Gymraeg ar gyfer y swydd hon.

Mae croeso i chi gyflwyno cais yn eich dewis iaith. Bydd ceisiadau a gyflwynir yn Gymraeg neu'n Saesneg bob amser yn cael eu trin yn gyfartal.

Atodir isod y disgrifiad swydd/manyleb person.

Rydym yn eich cynghori i arbed y swydd ddisgrifiad a'r fanyleb person i'ch cyfrifiadur neu ar gof bach gan y bydd y dogfennau yn diflannu unwaith y bydd y swydd yn cau.

Manylion cyswllt
Enw: Euros Davies

Rhif ffôn: 07971598912

Cyfeiriad e-bost: eurosdavies@ynysmon.llyw.cymru