MANYLION.
  • Lleoliad: Glynllifon,
  • Pwnc: Heb ei ddarparu
  • Oriau: Rhan amser
  • Cytundeb: Parhaol
  • Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
  • Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
  • Math o gyflog: Per annum
  • Cyflog: £16,797 - £25,965 y flwyddyn, yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad
  • Iaith: Unrhyw
  • Dyddiad Cau: 17 Gorffennaf, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Darlithydd Diwydiannau’r Tir 0.5

Grwp Llandrillo Menai

Cyflog: £16,797 - £25,965 y flwyddyn, yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad

Mae'r adran Amaeth wedi ei leoli ar safle Glynllifon. Mae myfyrwyr yn astudio cyrsiau llawn amser lefel 2 a 3 gyda'r posibilrwydd i gwblhau prentisiaeth ar gael gyda chyflogwyr addas, hefyd mae grwpiau 14-16 yn cwblhau cyrsiau lefel 2 Amaeth trwy y consortiwm 14-19. Bydd myfyrwyr yn mynd ymlaen i'r byd gwaith trwy weithio i gyflogwyr sydd yn cynhyrchu bwyd yn y diwydiant amaethyddol, darparu a gwerthu offer neu gynnig gwasanaethau i wneud a'r diwydiant amaeth. Mae canran uchel o'r myfyrwyr yn dod o gefndir amaethyddol ac yn aml mynd ymlaen i weithio ar ffermydd teuluol. Bydd nifer o'r myfyrwyr yn mynd ymlaen i brifysgol i astudio ar lefel uwch trwy gwblhau gradd.

Bydd Darlithydd Diwydiannau'r Tir yn arweinydd cwrs gyda chyfrifoldeb bugeiliol myfyrwyr a sicrhau fod safonau perthnasol yn cael eu cyrraedd fel gofynnir gan y bwrdd arholi.

Mae'r cwricwlwm yn cael ei osod gan y bwrdd arholi. Fe fydd gofyn i'r darlithydd ddatblygu sesiynau perthnasol i sicrhau fod myfyrwyr yn cael profiad da o ddysgu a bod amcanion yr unedau yn cael eu trosglwyddo yn effeithiol. Bydd y myfyrwyr yn cael gweithgareddau ymarferol yn ystod y cwrs ac fe fydd gofyn cydlynu'r rhain gyda'r hyfforddwyr perthnasol i ad gyfnerthu dealltwriaeth o'r sesiynau dosbarth.

Mae'r diwydiant amaethyddol yn ddalgylch y coleg yn tueddu i fod yn eithaf cymysg. Mae'r adran felly yn hyfforddi myfyrwyr mewn agweddau gwahanol i wneud a'r diwydiant amaethyddol yn cynnwys buches odro, defaid, gwartheg cig eidion, moch a rheoli tir. Bydd disgwyl i'r ymgeisydd llwyddiannus fedru cyfrannu i ddarpariaeth adrannau eraill o'r cwricwlwm, yn bennaf Peirianneg Amaethyddol.

Yn fras mae gofyn i Ddarlithydd Diwydiannau'r Tir ddarparu dysgu o ansawdd uchel, creu cyfleoedd effeithiol ar gyfer dysgu a galluogi pob myfyriwr i gyflawni hyd eithaf ei allu.

Manylion Swydd
Cyfeirnod y Swydd
BD/273/26

Cyflog
£16,797 - £25,965 y flwyddyn, yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad

Lleoliad Gwaith
  • Glynllifon

Hawl gwyliau
• 46 diwrnod o wyliau yn flynyddol.

• Pob gwyliau cyhoeddus a arsylwir fel arfer, yn cael eu pennu'n flynyddol.

• Hyd at 5 diwrnod o ddiwrnodau cau effeithlonrwydd y flwyddyn, a bennir yn flynyddol.

• Bydd contractau rhan amser yn derbyn hawl pro rata i'r uchod.

Patrwm gweithio
18.5 awr yr wythnos

417.5 awr o amser addysgu blynyddol - 12 i 13 awr yr wythnos.

Hyd at 2.5 awr yr wythnos o weithio o'r safle gyda chytundeb y rheolwr.

Hawliau Pensiwn
Cynllun Pensiwn Athrawon

Math o gytundeb
Rhan Amser Parhaol

Dyddiad cau
17 Gorff 2026
12:00 YH(Ganol dydd)