MANYLION.
  • Lleoliad: Swyddfeydd y Cyngor,
  • Pwnc: Heb ei ddarparu
  • Oriau: Llawn amser
  • Cytundeb: Parhaol
  • Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
  • Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
  • Math o gyflog: Per annum
  • Cyflog: 25989.00 - 27254.00 GBP Fesul Blwyddyn
  • Iaith: Unrhyw
  • Dyddiad Cau: 13 Gorffennaf, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Swyddog Gweinyddol ADY, Cynhwysiad ac Ymgysylltu

Cyngor Sir Ynys Mon

Cyflog: 25989.00 - 27254.00 GBP Fesul Blwyddyn

Gweithio i Gyngor Sir Ynys Môn
Mae Ynys Môn yn lle braf i fyw ac i weithio. Mae'n ymwneud â gwella bywydau'r bobl sy'n byw ac yn gweithio ar yr ynys. Er mwyn ein cynorthwyo i gyflawni ein blaenoriaethau rydym angen gweithwyr sydd yr un mor uchelgeisiol â ninnau, sy'n cymryd balchder yn eu gwaith, sydd â meddylfryd byd busnes, sy'n barod i weithio mewn partneriaeth ac sydd bob amser yn darparu'r safonau uchaf posibl. Ein nod yw creu Ynys Môn sy'n iach a llewyrchus, lle gall teuluoedd ffynnu.

Mae ein llwyddiant yn dibynnu ar y bobl rydyn ni'n eu cyflogi, ac rydym wedi ymrwymo i werthfawrogi ein tîm. Rydym yn cynnig mwy na chyflog yn unig, felly edrychwch ar rai o'r buddion y gallwn eu cynnig i'n staff: Buddion o weithio i Gyngor Sir Ynys Môn

Pwrpas cyffredinol y swydd
Darparu cymorth gweinyddol ac ysgrifenyddol effeithiol, prydlon i'r Gwasanaeth ADY a Chynhwysiad, gan sicrhau darpariaeth gwasanaeth o ansawdd uchel a chydymffurfiol. Cydlynu a gwasanaethu cyfarfodydd, paneli a hyfforddiant - gan reoli agendâu, cofnodion, lleoliadau a chamau gweithredu dilynol - a gweithredu fel pwynt cyswllt cyntaf cwrtais ar gyfer ymholiadau sensitif. Cynnal cofnodion a data cywir (e.e. Cynlluniau Datblygu Unigol a setiau data cynhwysiad allweddol) ledled systemau'r Cyngor, gan gefnogi prosesau llywodraethu gwybodaeth gadarn. Cydweithio gydag ysgolion, teuluoedd ac asiantaethau partner i fwrw iddi gyda chamau gweithredu y cytunwyd arnyn nhw, cynnal cyfrifoldebau diogelu a statudol, a sicrhau ymarfer effeithlon, sy'n canolbwyntio ar y dysgwr.

Mwy o wybodaeth
Penodiad yn ddibynnol ar wiriad GDG (DBS) sylfaenol boddhaol.

Gwelwch y swydd disgrifiad am mwy o gwybodaeth a gofynion sgiliau iaith Gymraeg ar gyfer y swydd hon.

Mae croeso i chi gyflwyno cais yn eich dewis iaith. Bydd ceisiadau a gyflwynir yn Gymraeg neu'n Saesneg bob amser yn cael eu trin yn gyfartal.

Atodir isod y disgrifiad swydd/manyleb person.

Rydym yn eich cynghori i arbed y swydd ddisgrifiad a'r fanyleb person i'ch cyfrifiadur neu ar gof bach gan y bydd y dogfennau yn diflannu unwaith y bydd y swydd yn cau.

Manylion cyswllt
Enw: Aaron Evans

Rhif ffôn: 07748622194

Cyfeiriad e-bost: aaronevans@ynysmon.llyw.cymru