MANYLION.
  • Lleoliad: Ygg Tyle'R Ynn,
  • Pwnc: Heb ei ddarparu
  • Oriau: Llawn amser
  • Cytundeb: Dros dro
  • Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
  • Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
  • Math o gyflog: Per annum
  • Cyflog: Cyflog: Gradd 5 (SCP 10-17) -£19,400 - £21,731 y flwyddyn ychwanegol £1675.4 am ddyletswydd amser cinio.
  • Iaith: Saesneg
  • Dyddiad Cau: 22 Mehefin , 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Teaching Assistant Level 3 (Welsh Speaking)

Cyngor Castell-nedd Port Talbot

Cyflog: Cyflog: Gradd 5 (SCP 10-17) -£19,400 - £21,731 y flwyddyn ychwanegol £1675.4 am ddyletswydd amser cinio.

SWYDD CYNORTHWYYDD ADDYSGU LEFEL 3

Dros Dro am Flwyddyn

30 awr yr wythnos (39 wythnos y flwyddyn)

I ddechrau: 01/09/2026 - 31/08/2027 Dros Dro 30 Awr yr wythnos ynghyd â dyletswydd amser cinio

Mae'r Corff Llywodraethu yn awyddus i benodi unigolyn brwdfrydig a dibynadwy i ymuno â'r ysgol hapus a llwyddiannus hon. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio o dan gyfarwyddyd ac arweiniad y staff addysgu i ymgymryd â rhaglenni gwaith, gofal a chynnig cefnogaeth gyffredinol i'r staff a disgyblion. Bydd gofyn i'r ymgeisydd llwyddiannus i weithio gyda disgyblion blynyddoedd 4-6 yn bennaf. Rydym yn chwilio am rywun sydd â sgiliau trefnu a rheoli effeithiol, a'r gallu i ysbrydoli ac ymgysylltu â phlant o bob oedran ar draws yr Ysgol gynradd.

Bydd disgwyl i'r ymgeisydd llwyddiannus cefnogi ethos cefnogol yr ysgol.

Mae'r swydd hon yn amodol ar Ddatgeliad Manwl y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (Plant).

Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn gwbl ymroddedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc, ac mae'n disgwyl i'r holl staff a gwirfoddolwyr rannu'r ymroddiad hwn. Mae gan ein hysgolion yr un ymroddiad i sicrhau bod ein holl blant a phobl ifanc yn cael eu diogelu a'u hamddiffyn a byddant yn gweithredu i ddiogelu eu lles. Wrth wraidd y broses recriwtio ar gyfer y swydd hon bydd asesiad recriwtio mwy diogel trylwyr i sicrhau bod plant a phobl ifanc yn cael eu hamddiffyn.

Dyddiad Cau ar gyfer llythyr cais canol dydd 22 Mehefin 2026

The above post is for a Teaching Assistant at YGG Tyle'r Ynn for which the ability to speak Welsh is essential