MANYLION.
  • Lleoliad: Llyfrgell Llangefni Library,
  • Pwnc: Heb ei ddarparu
  • Oriau: Rhan amser
  • Cytundeb: Parhaol
  • Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
  • Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
  • Math o gyflog: Per annum
  • Cyflog: 17016.00 - 17285.00 GBP per Year
  • Iaith: Unrhyw
  • Dyddiad Cau: 15 Mehefin , 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Cynorthwy-ydd Llyfrgell

Cyngor Sir Ynys Mon

Cyflog: 17016.00 - 17285.00 GBP per Year

Gweithio i Gyngor Sir Ynys Môn
Mae Ynys Môn yn lle braf i fyw ac i weithio. Mae'n ymwneud â gwella bywydau'r bobl sy'n byw ac yn gweithio ar yr ynys. Er mwyn ein cynorthwyo i gyflawni ein blaenoriaethau rydym angen gweithwyr sydd yr un mor uchelgeisiol â ninnau, sy'n cymryd balchder yn eu gwaith, sydd â meddylfryd byd busnes, sy'n barod i weithio mewn partneriaeth ac sydd bob amser yn darparu'r safonau uchaf posibl. Ein nod yw creu Ynys Môn sy'n iach a llewyrchus, lle gall teuluoedd ffynnu.

Mae ein llwyddiant yn dibynnu ar y bobl rydyn ni'n eu cyflogi, ac rydym wedi ymrwymo i werthfawrogi ein tîm. Rydym yn cynnig mwy na chyflog yn unig, felly edrychwch ar rai o'r buddion y gallwn eu cynnig i'n staff: Buddion o weithio i Gyngor Sir Ynys Môn

Pwrpas cyffredinol y swydd
• Darparu gwasanaeth a chymorth uniongyrchol i gwsmeriaid, sy'n cynnwys, ond nad yw'n gyfyngedig i: gofrestru aelodau, benthyca a derbyn eitemau, delio â cheisiadau am stoc ac eitemau sy'n cael eu dychwelyd yn hwyr, cadw trefn ar eitemau, cynorthwyo cwsmeriaid i ddewis a chanfod eitemau neu wybodaeth berthnasol.

• Sicrhau lefel uchel o ofal cwsmer drwy'r tîm cyfan gan sicrhau amgylchedd croesawgar, pleserus a thaclus ar gyfer cwsmeriaid. Gall hyn fod yn bersonol, dros y ffôn, drwy e - bost neu ar y we neu ddull arall. Sicrhau cofnod cywir o unrhyw negeseuon a chyfeiri o cwsmeriaid at ffynonellau priodol eraill pan fo angen .

• Sicrhau bod adnoddau'r llyfrgell yn cael eu cadw mewn cyflwr da i sicrhau eu defnyddio'n effeithlon gan gwsmeriaid. Gwirio cyflwr stoc a chymryd camau priodol a chylchredeg stoc yn unol ag arferion cylchdroi stoc.

Mwy o wybodaeth
Gwelwch y swydd disgrifiad am mwy o gwybodaeth a gofynion sgiliau iaith Gymraeg ar gyfer y swydd hon.

Mae croeso i chi gyflwyno cais yn eich dewis iaith. Bydd ceisiadau a gyflwynir yn Gymraeg neu'n Saesneg bob amser yn cael eu trin yn gyfartal.

Atodir isod y disgrifiad swydd/manyleb person.

Rydym yn eich cynghori i arbed y swydd ddisgrifiad a'r fanyleb person i'ch cyfrifiadur neu ar gof bach gan y bydd y dogfennau yn diflannu unwaith y bydd y swydd yn cau.

Manylion cyswllt
Enw: Elin Powell

Rhif ffôn: 01248 752170

Cyfeiriad e-bost: elinpowell@ynysmon.llyw.cymru