MANYLION.
  • Lleoliad: Ysgol David Hughes,
  • Pwnc: Heb ei ddarparu
  • Oriau: Llawn amser
  • Cytundeb: Parhaol
  • Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
  • Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
  • Math o gyflog: Per annum
  • Cyflog: 24312.00 - 26800.00 GBP per Year
  • Iaith: Unrhyw
  • Dyddiad Cau: 05 Mehefin , 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Cymhorthydd Addysgu - Lefel 4 - Ymddygiad/Arweiniad/Cynnal

Cyngor Sir Ynys Mon

Cyflog: 24312.00 - 26800.00 GBP per Year

Gweithio i Gyngor Sir Ynys Môn
Mae Ynys Môn yn lle braf i fyw ac i weithio. Mae'n ymwneud â gwella bywydau'r bobl sy'n byw ac yn gweithio ar yr ynys. Er mwyn ein cynorthwyo i gyflawni ein blaenoriaethau rydym angen gweithwyr sydd yr un mor uchelgeisiol â ninnau, sy'n cymryd balchder yn eu gwaith, sydd â meddylfryd byd busnes, sy'n barod i weithio mewn partneriaeth ac sydd bob amser yn darparu'r safonau uchaf posibl.
Ein nod yw creu Ynys Môn sy'n iach a llewyrchus, lle gall teuluoedd ffynnu.

Pwrpas cyffredinol y swydd
Fel ymarferwr proffesiynol cofrestredig gyda'r Cyngor Gweithlu Addysg, o dan gyfundrefn gytunedig o oruchwyliaeth, cymryd rhan arweiniol o fewn yr ysgol mewn ymateb i anghenion disgyblion sydd angen cymorth penodol i oresgyn rhwystrau i ddysgu.

Mwy o wybodaeth
Penodiad yn ddibynnol ar wiriad GDG (DBS) lefel uwch boddhaol a chofrestriad CGA.

Cymhwyster Ysgol sy'n wybodus am Drawma neu gymhwyster tebyg yn ddymunol.

Mae'r swydd yma ar gyfer mis Medi 2026.

Gweler y swydd ddisgrifiad am fwy o wybodaeth ac ar gyfer y gofynion sgiliau iaith Gymraeg y swydd hon.

Mae croeso i chi gyflwyno cais yn eich dewis iaith. Bydd ceisiadau a gyflwynir yn Gymraeg neu'n Saesneg bob amser yn cael eu trin yn gyfartal.

Atodir isod y ffurflen gais a'r disgrifiad swydd/manyleb person.

Rydym yn eich cynghori i arbed y swydd ddisgrifiad a'r fanyleb person i'ch cyfrifiadur neu ar gof bach gan y bydd y ddwy ddogfen hyn yn diflannu unwaith y bydd y swydd yn cau.

Manylion cyswllt a chyflwyno ffurflenni cais
Enw: Mari Roberts

Rhif ff ô n: 01248 712287

Cyfeiriad e-bost: RobertsM438@Hwbcymru.net

Ffurflenni cais i'w dychwelyd i: Mari Roberts, Pennaeth: RobertsM438@Hwbcymru.net

Dyddiad Cau: Hanner dydd, Dydd Gwener, 5 Mehefin 2026