MANYLION.
  • Lleoliad: Merthyr, CF48 1AR
  • Pwnc: Heb ei ddarparu
  • Oriau: Heb ei ddarparu
  • Cytundeb: Heb ei ddarparu
  • Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
  • Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
  • Math o gyflog: Per annum
  • Cyflog: £33,596 - £51,931
  • Iaith: Unrhyw
  • Dyddiad Cau: 05 Mehefin , 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Darlithydd Peirianneg a Gweithgynhyrchu Uwch

Y Coleg Merthyr Tudful

Cyflog: £33,596 - £51,931

Mae Y Coleg Merthyr Tudful yn edrych am unigolyn brwdfrydig, cymell a deinamig i ymuno a'n tîm addysgu ymroddedig. Byddech yn cael y dasg o addysgu Peirianneg L1 i L4 o dan fyrddau arholi Pearson ac EAL, mae profiad o hynny yn ddymunol gyda statws asesydd ac o bosib IQA. Byddech hefyd yn cymryd rôl lawn a gweithredol yn y datblygiad o gyrsiau newydd a phwrpasol mewn gweithgynhyrchu uwch a thechnoleg gynaliadwy. Yn y bôn, bydd gennych y weledigaeth ac angerdd i daflunio'r maes llwyddiannus o fewn yr adran i gwrdd â galwadau dyfodol y diwydiant ac arloesedd mewn peirianneg. Byddech yn ysbrydoli a mentora myfyrwyr, yn eu paratoi am yrfaoedd llwyddiannus o fewn y sector, ymestyn cyfleoedd cyfoethogi a gweithio'n agos gyda'r academi peirianneg sydd newydd ffurfio i ddysgwyr mwy abl.

Mae'r swydd yn cychwyn ar 17 Awst 2026.

Rydym yn croesawu ceisiadau gan Athrawon Newydd Gymhwyso gan ymarferwyr diwydiant presennol sydd heb gymhwyster addysgu ond yn barod i weithio tuag at y cymhwyster.

Mae gwiriad DBS a chofrestriad CGA yn ofynion y rôl.

Rydym yn disgwyl i holl staff hybu ein gwerthoedd Coleg byw; Proffesiynol, Ysbrydoledig, Cydweithredol a Chefnogol

Yn Y Coleg Merthyr Tudful, rydym yn sefydliad cynhwysol lle rydym nid yn unig yn derbyn gwahaniaeth - rydym yn ei ddathlu ac yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob diwylliannau a chefndiroedd.

Os gwelwch yn dda, ymgeisiwch trwy ffurflen gais yn unig.

Dyddiad cau am geisiadau: 05/06/2026