MANYLION.
  • Lleoliad: Croesty Primary School,
  • Pwnc: Heb ei ddarparu
  • Oriau: Heb ei nodi
  • Cytundeb: Heb ei nodi
  • Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
  • Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
  • Math o gyflog: Heb ei Gyflenwi
  • Cyflog: Teachers Pay Scale
  • Iaith: Unrhyw
  • Dyddiad Cau: 03 Mehefin , 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Athro (Dros dro) - Ysgol Gynradd Croesty

Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr

Cyflog: Teachers Pay Scale

Dros dro - hyd at 1 flwyddyn

Mae Llywodraethwyr Ysgol Gynradd Croesty yn dymuno penodi athro/athrawes llawn cymhelliant ac effeithiol ar gyfer mis Medi 2026. Rydym yn chwilio am rywun sydd wedi ymrwymo i gefnogi llesiant a dysgu plant ac sydd â dyheadau a disgwyliadau uchel ar gyfer y disgyblion y maent yn gweithio gyda nhw. Mae Ysgol Gynradd Croesty yn chwilio am ymarferydd brwdfrydig a fydd yn ymuno â'n staff ymrwymedig i barhau i ddatblygu addysgu a dysgu o ansawdd uchel ar draws yr ysgol.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn:

- Meddu ar ddealltwriaeth gadarn o'r Cwricwlwm i Gymru.

- Darparu profiadau dysgu o ansawdd uchel.

- Gweithio'n effeithiol fel rhan o dîm.

- Dangos arfer rhagorol yn yr ystafell ddosbarth.

- Yn drefnus ac yn meddu ar sgiliau rhyngbersonol rhagorol.

- Gweithio'n effeithiol mewn tîm Maes Dysgu a Phrofiad.

Mae Ysgol Gynradd Croesty yn ymrwymedig i ddatblygu proffesiynol o ansawdd uchel, a gallwn gynnig dysgwyr cyfeillgar, brwdfrydig, hapus a fydd yn herio eich ffordd o feddwl. Rydym yn ymrwymedig i lesiant staff a sicrhau bod ein staff yn cael cyfleoedd i adeiladu ar eu sgiliau a'u profiad presennol a dod yn aelodau gwerthfawr a gweithgar o'n cymuned ysgol.

Mae'r gallu i gynnal sgwrs sylfaenol drwy gyfrwng y Gymraeg yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon

Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.

Mae gwiriad cofnodion troseddol Manwl gyda Rhestr Waharddedig Plant gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.

Dyddiad Cau: 03 Mehefin 2026

Dyddiad Llunio'r Rhestr Fer: 08 Mehefin 2026

Arsylwadau gwersi: Wythnos yn dechrau 15 Mehefin 2026

Dyddiad y Cyfweliad: 22 Mehefin 2026

Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr

Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person