MANYLION.
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Bridgend,
- Pwnc: Heb ei ddarparu
- Oriau: Llawn amser
- Cytundeb: Parhaol
- Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
- Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
- Math o gyflog: Per annum
- Cyflog: Graddfa gyflog 2: £25,402 y flwyddyn
- Iaith: Unrhyw
- Dyddiad Cau: 01 Gorffennaf, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: Graddfa gyflog 2: £25,402 y flwyddyn
Cynorthwyydd Desg Gwasanaethau TGLlawn amser (37 awr yr wythnos) a Chyfnod Penodol am 1 flwyddyn
Graddfa gyflog 2: £25,402 y flwyddyn
Yn y rôl hon sy'n canolbwyntio ar gwsmeriaid, byddwch yn darparu cymorth rheng flaen hanfodol i staff, dysgwyr ac ymwelwyr ar draws ein holl gampysau. Byddwch wrth wraidd ein gweithrediadau technegol, yn rheoli cyfrifon defnyddwyr ac yn ffurfweddu systemau fel Chromebooks a gliniaduron. Byddwch hefyd yn chwarae rhan allweddol yn y ddarpariaeth TG ar gyfer ein Campws Canol y Dref newydd sbon, gan gynnig cyfle unigryw i helpu i lunio amgylchedd dysgu modern o'r dechrau.
Rydym yn chwilio am chwaraewr tîm brwdfrydig, sy'n ffynnu mewn amgylchedd prysur mewn sefydliad mawr. Gyda chymhwyster Lefel 2 neu 4 TGAU (Gradd A-C, gan gynnwys Saesneg a Mathemateg) neu gymwysterau cyfwerth, dylech hefyd fod â gwybodaeth ymarferol gref am Google Workspace neu Systemau Gweithredu Microsoft. Bydd sgiliau cyfathrebu rhagorol a sylw at y manylion yn allweddol, gyda sgiliau Cymraeg hefyd yn ddymunol iawn ar gyfer y swydd hon.
I gael rhagor o wybodaeth, gwelwch becyn gwybodaeth y swydd .
Mae Coleg Penybont yn cydnabod ei gyfrifoldeb dros sicrhau diogelwch a lles pob myfyriwr. Rydym yn defnyddio proses drylwyr i wirio addasrwydd staff a gwirfoddolwyr i weithio â phlant ac oedolion bregus. Mae'r swydd uchod yn amodol ar ddatgeliad DBS Estynedig.
Mae Coleg Penybont yn deall gwerth darparu gwasanaethau yn Gymraeg a'r angen i dyfu ei weithlu dwyieithog. Rydym felly'n annog ceisiadau gan ymgeiswyr sydd â sgiliau Cymraeg da. Nodwch yn eich datganiad personol a fyddai'n well gennych i'ch asesiad/cyfweliad gael ei gynnal yn Gymraeg.
Rydym wrthi'n ceisio gwella cynrychiolaeth o bob rhan o'r gymuned a hyrwyddo cyfleoedd cyfartal. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb, gan gynnwys pobl o wahanol gefndiroedd a chymunedau, ac o wahanol oedrannau.
Rydym yn falch o fod yn Arweinydd Hyderus o ran Anabledd ac rydym yn gwarantu cyfweld ag unrhyw un sydd ag anabledd cyn belled â bod eu cais yn bodloni meini prawf hanfodol y swydd, a'u hystyried ar eu galluoedd. Gallwn hefyd gynnig addasiadau rhesymol trwy gydol y broses recriwtio.
Bydd gofyn i'r ymgeisydd llwyddiannus ddarparu tystiolaeth o'i hunaniaeth a'i gymhwystra i weithio yn y DU.
Nid yw'r Coleg yn cymryd rhan yng Nghynllun Noddi Fisa'r DU, felly bydd rhaid i ymgeiswyr ddarparu tystiolaeth o'u hawl i weithio yn y DU os cynigir rôl iddynt gyda ni.
Noder, efallai y bydd gofyn am gyfweliad neu asesiad ail gam.