MANYLION.
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Brynmenyn Primary,
- Pwnc: Heb ei ddarparu
- Oriau: Heb ei nodi
- Cytundeb: Heb ei nodi
- Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
- Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
- Math o gyflog: Per annum
- Cyflog: £26,403 per annum
- Iaith: Unrhyw
- Dyddiad Cau: 03 Mehefin , 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Uwch-swyddog Safle - Ysgol Gynradd Brynmenyn
Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Cyflog: £26,403 per annum
37 awr yr wythnos05.00am - 09.00am a 14.30pm - 18.00pm (17.30pm ar ddydd Gwener)
Mae Corff Llywodraethu Ysgol Gynradd Brynmenyn yn ceisio penodi Uwch-swyddog Safle gweithgar, trefnus a dibynadwy i weithio fel rhan o dîm cyfeillgar, gweithgar.
Rhaid i'r ymgeisydd llwyddiannus allu dangos sgiliau hunanreoli gwych, ymwybyddiaeth gref o iechyd a diogelwch a'r gallu i oruchwylio tîm o staff glanhau.
Rydym yn chwilio am rywun sy'n ymrwymedig i ddarparu gwaith cynnal a chadw a diogelwch ar safle ein hysgol. Mae angen rhywun arnom sy'n gallu meithrin perthnasoedd proffesiynol cryf gyda staff, rhieni a phlant ac sy'n ymrwymedig i sicrhau bod ein hysgol yn amgylchedd gwaith glân a threfnus.
Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus gyfrifoldebau iechyd a diogelwch gan gynnwys cynnal a chadw adeilad a thir yr ysgol mewn cyflwr diogel a gweithio mewn modd diogel.
Fel rhan o'r dyletswyddau hyn bydd gofyniad i gynnal a chofnodi gwiriadau iechyd a diogelwch cyfnodol hanfodol a gwneud gwaith cynnal a chadw/gwella'r ysgol yn ôl yr angen.
Rydym yn chwilio am gydweithiwr sy'n frwdfrydig ac yn llawn cymhelliant. Mae parodrwydd i fod yn rhan annatod o'n tîm gweithgar yn hanfodol gan y bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn chwarae rhan annatod yn yr ysgol ac yn cyfrannu at ethos a nodau'r ysgol.
Yr hyn y gallwn ei gynnig i chi:
Amgylchedd gwaith gofalgar a chefnogol.
Tîm staff ymrwymedig ac ymroddedig a Chorff Llywodraethu sy'n ymdrechu i wella'r ysgol yn barhaus.
Plant brwdfrydig a chyfeillgar sydd eisiau gwneud ein hysgol y lle gorau i bawb
Mae'r gallu i gyfarch cwsmeriaid drwy gyfrwng y Gymraeg yn ofyniad ar gyfer y swydd hon.
Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion sydd mewn perygl yn gyfrifoldeb craidd i holl weithwyr y cyngor.
Mae gwiriad cofnodion troseddol Manwl gyda rhestr Gwahardd Plant gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn ofyniad ar gyfer y swydd hon.
Dyddiad Cau: 03 Mehefin 2026
Dyddiad Llunio Rhestr Fer: 08 Mehefin 2026
Dyddiad y Cyfweliad: 15 Mehefin 2026
Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr
Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person