MANYLION.
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Heronsbridge,
- Pwnc: Heb ei ddarparu
- Oriau: Heb ei nodi
- Cytundeb: Heb ei nodi
- Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
- Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
- Math o gyflog: Heb ei Gyflenwi
- Cyflog: Teacher Pay Scale + ALN (1)
- Iaith: Unrhyw
- Dyddiad Cau: 27 Mai, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Athro\/Athrawes ADY 1 - Canolfan Awtistiaeth - Ysgol Heronsbridge
Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Cyflog: Teacher Pay Scale + ALN (1)
Mae Heronsbridge yn ysgol arbennig a gynhelir ar gyfer plant rhwng 3 ac 19 oed ag anawsterau dysgu difrifol, anawsterau dysgu dwys a lluosog ac awtistiaeth.Mae'r corff llywodraethu yn dymuno penodi athro/athrawes ddosbarth ofalgar, ymrwymedig a brwdfrydig. Dylai ymgeiswyr feddu ar brofiad o weithio gyda disgyblion a chanddynt anawsterau dysgu difrifol, anawsterau dysgu dwys a lluosog ac awtistiaeth.
Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus arfer rhagorol yn yr ystafell dosbarth, gan gynnwys y defnydd o TGCh, disgwyliadau uchel o gyflawniadau ac ymddygiad disgyblion a pharodrwydd i weithio fel rhan o dîm i sicrhau gwella ysgolion.
Croesewir ceisiadau ac ymweliadau â'r ysgol.
Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.
Mae gwiriad cofnodion troseddol Manwl gyda Rhestr Waharddedig Plant ac Oedolion gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Dyddiad Cau: 27 Mai 2026
Dyddiad Llunio'r Rhestr Fer: Wythnos yn Dechrau 1 Mehefin 2026
Dyddiad y Cyfweliad: Wythnos yn Dechrau 8 Mehefin 2026
Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr
Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person