MANYLION.
  • Lleoliad: Cwmfelin Primary,
  • Pwnc: Heb ei ddarparu
  • Oriau: Heb ei nodi
  • Cytundeb: Heb ei nodi
  • Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
  • Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
  • Math o gyflog: Per annum
  • Cyflog: Leadership Scale L(6) - L(10) £59,597 - £65,822 per annum
  • Iaith: Unrhyw
  • Dyddiad Cau: 27 Mai, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Dirprwy Bennaeth - Ysgol Gynradd Cwmfelin

Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr

Cyflog: Leadership Scale L(6) - L(10) £59,597 - £65,822 per annum

Mae Ysgol Gynradd Cwmfelin wedi'i lleoli yng Nghwm Llynfi. Mae'r ysgol yn gwasanaethu dalgylch eang ac mae'n ysgol leol uchel ei pharch a phoblogaidd gyda thua 200 o blant ar y gofrestr.

Mae Corff Llywodraethu Ysgol Gynradd Cwmfelin yn falch o wahodd ceisiadau am swydd Dirprwy Bennaeth i ymuno â'n tîm arweinyddiaeth ymroddedig a chefnogol. Gan weithio'n agos gyda'r Pennaeth, bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn chwarae rôl allweddol wrth arwain ac ysbrydoli ein cymuned ysgol ac wrth ddatblygu ymhellach ein gweledigaeth a rennir o fod yn 'Awyddus i ddysgu, yn falch o gyflawni.'

Mae Ysgol Gynradd Cwmfelin yn chwilio am ymarferydd ystafell ddosbarth llawn cymhelliant, hynod effeithiol, a phrofiadol sy'n angerddol am addysg ac sy'n dangos yr ymrwymiad, y weledigaeth a'r egni i arwain a datblygu darpariaeth cwricwlwm eithriadol ar draws yr ysgol. Byddwch yn cymryd rhan flaenllaw yng nghyfeiriad strategol arweinyddiaeth yr ysgol o ddydd i ddydd, gan gyfrannu at ddatblygu amgylchedd ysgol gofalgar a chynhwysol lle mae pob plentyn yn cael ei gefnogi i ffynnu yn academaidd, yn gymdeithasol, ac yn emosiynol.

A chithau'n Ddirprwy Bennaeth, arweinydd ysgol neu'n weithiwr proffesiynol addysg profiadol, bydd gennych brofiad rheoli gyda sgiliau arweinyddiaeth, sefydliadol a rhyngbersonol amlwg. Byddwch yn ymroddedig i weithio mewn partneriaeth â disgyblion, staff, rhieni a llywodraethwyr, y Gwasanaeth Cynhwysiant, asiantaethau allanol a'r gymuned leol i ddarparu amgylchedd lle mae'r staff a'r disgyblion yn cael eu cynorthwyo i gyflawni eu potensial llawn.

Gwahoddir darpar ymgeiswyr i ddod am daith o amgylch yr ysgol ddydd Gwener 15 Mai am 4:15pm. Os hoffech ddod i'r ymweliad hwn, cadarnhewch eich presenoldeb gyda:

Natalie Delve, Uwch-swyddog Gweinyddol drwy ffonio 01656 815525 neu anfonwch neges e-bost i admin@cwmfelinps.bridgend.cymru

Mae'r gallu i gyfarch cwsmeriaid drwy gyfrwng y Gymraeg yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.

Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.

Mae gwiriad cofnodion troseddol Manwl gyda Rhestr Waharddedig Plant gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.

Dyddiad Cau: 27 Mai 2026

Dyddiad Llunio'r Rhestr Fer: 1 Mehefin 2026

Arsylwi Gwersi: 3 Mehefin - 5 Mehefin 2026

Dyddiad y Cyfweliad: 8 & 9 Mehefin 2026

Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr

Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person