MANYLION.
  • Lleoliad: Llangefni,
  • Pwnc: Heb ei ddarparu
  • Oriau: Llawn amser
  • Cytundeb: Parhaol
  • Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
  • Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
  • Math o gyflog: Per annum
  • Cyflog: £21, 262 - £23, 609 y flwyddyn, yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad
  • Iaith: Unrhyw
  • Dyddiad Cau: 20 Mai, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Cynghorwr Myfyrwyr

Grwp Llandrillo Menai

Cyflog: £21, 262 - £23, 609 y flwyddyn, yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad

A ydych chi'n gyfathrebwr da ag ethos cryf sy'n canolbwyntio ar y cwsmer, a gyda'r gallu i ymgysylltu â dysgwyr o bob oed? Mae'r Grŵp eisiau penodi Cynghorwr Myfyrwyr i ymuno â'n hadran Gwasanaethau Dysgwyr ar gampws Llangefni. Fel cynghorwr, byddwch yn chwarae rhan bwysig yn llwyddiant ein dysgwyr, gan roi cymorth hanfodol iddynt a'u helpu i oresgyn anawsterau personol ac ymarferol a allai effeithio ar eu gallu i gyflawni eu potensial. Bydd y dyletswyddau'n cynnwys:
  • Cyngor ac Arweiniad - cefnogi dysgwyr i lywio eu taith o'r ysgol i'r coleg neu wrth ddychwelyd i addysg, a darparu cyngor arbenigol ar gyrsiau, cyfleoedd hyfforddi a chymwysterau.
  • Cyllid a Lles - darparu gwasanaeth cymorth personol i ddysgwyr ar gyllid myfyrwyr/bwrsarïau ac ariannu, trafnidiaeth, a chydweithio ag asiantaethau allanol gan sicrhau bod dysgwyr yn cael arweiniad amserol a chywir. Hyrwyddo cynllun Lles y Grŵp.
  • Gweinyddiaeth - prosesu ceisiadau dysgwyr a chanlyniadau cyfweliadau yn electronig.
  • Digwyddiadau - cynrychioli'r coleg mewn digwyddiadau recriwtio, nosweithiau agored a gweithgareddau eraill.

Byddwch yn gweithio o fewn amgylchedd cefnogol gyda chyfleoedd ar gyfer datblygiad proffesiynol yn ogystal â ystod eang o fuddion gweithwyr. Dewch i ymuno â'n Tîm Gwasanaethau dysgwyr.......ymgeisiwch nawr!

Manylion Swydd
Cyfeirnod y Swydd
AS/208/26

Cyflog
£21, 262 - £23, 609 y flwyddyn, yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad

Lleoliad Gwaith
  • Llangefni

Hawl gwyliau
  • 28 diwrnod y flwyddyn, yn codi i 32 diwrnod ar ôl pum mlynedd lawn o wasanaeth di-dor (01 Medi i 31 Awst).
  • Yr holl wyliau cyhoeddus arferol, i'w pennu'n flynyddol.
  • Hyd at 5 diwrnod effeithlonrwydd / diwrnod y trefnwyd i'r safle fod ar gau bob blwyddyn, i'w pennu'n flynyddol.
  • Bydd gan y rhai ar gontractau Rhan-amser hawl pro rata i'r hyn a nodir uchod.

Patrwm gweithio
30 awr yr wythnos

Hawliau Pensiwn
Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol

Math o gytundeb
Rhan Amser Parhaol

Dyddiad cau
20 Mai 2026
12:00 YH(Ganol dydd)