MANYLION.
  • Lleoliad: Bridgend,
  • Pwnc: Heb ei ddarparu
  • Oriau: Llawn amser
  • Cytundeb: Parhaol
  • Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
  • Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
  • Math o gyflog: Heb ei Gyflenwi
  • Cyflog: Heb ei ddarparu
  • Iaith: Unrhyw
  • Dyddiad Cau: 11 Mai, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Asesydd Cymorth Mynediad i Arholiadau a Chymorth Anawsterau Dysgu Penodol

Coleg Penybont
Asesydd Cymorth Mynediad i Arholiadau a Chymorth Anawsterau Dysgu Penodol
Graddfa Gyflog 6/S01: £34,204 - £40,503 pro rata y flwyddyn
37 awr yr wythnos, yn ystod y tymor yn unig am 38 wythnos
Parhaol

Cyflog yn ystod y Tymor yn Unig (yn seiliedig ar 38 wythnos yn weddill o'r flwyddyn academaidd) - £28,655 - £33,932 y flwyddyn. Sylwch, bydd y cyflog gwirioneddol yn seiliedig ar nifer yr wythnosau.

Rydym yn chwilio am Asesydd Cymorth Mynediad i Arholiadau a Chymorth Anawsterau Dysgu Penodol i ymuno a'n tîm ADY brwdfrydig.

Diben y swydd:

Bydd yr Asesydd Cymorth Mynediad i Arholiadau a Chymorth Anawsterau Dysgu Penodol yn gyfrifol am gynnal profion diagnostig yn unol â gofynion y Cyd-Gyngor Cymwysterau (CGC/JCQ) i sicrhau bod trefniadau mynediad priodol i arholiadau wedi'u dyfarnu i ddysgwyr a bydd yn cysylltu â thiwtoriaid a'r tîm arholiadau i sicrhau bod prosesau i ofyn am asesiad yn cael eu dilyn yn gywir.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus hefyd yn cynnal profion diagnostig ac asesiadau sgrinio yn ôl yr angen i sicrhau y gellir darparu strategaethau cymorth priodol i fyfyrwyr sydd ag anawsterau dysgu penodol (ADP), gan gynnwys Dyslecsia/Dyscalcwlia/Dyspracsia.

Yn unol ag ymagwedd gynhwysol y coleg at addysgu, dysgu ac asesu, bydd yr Asesydd Cymorth Mynediad i Arholiadau a Chymorth ADP yn darparu strategaethau ac adnoddau i gefnogi cynorthwywyr cymorth dysgu a staff addysgu, yn ôl yr angen, i sicrhau bod anghenion dysgu pob dysgwr ag anawsterau dysgu penodol yn cael eu diwallu'n briodol.

Mae'r rôl yn cynnwys cynnig lle diogel, anfarnol i ddysgwyr drafod pynciau personol a allai fod yn anodd iddynt. Rhaid trin hyn gyda gofal arbenigol a ffiniau proffesiynol.

I gael rhagor o wybodaeth, gwelwch becyn gwybodaeth y swydd .

Mae Coleg Penybont yn cydnabod ei gyfrifoldeb dros sicrhau diogelwch a lles pob myfyriwr. Rydym yn defnyddio proses drylwyr i wirio addasrwydd staff a gwirfoddolwyr i weithio â phlant ac oedolion bregus. Mae'r swydd uchod yn amodol ar Wiriad Manylach gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) ar gyfer y gweithlu plant ac oedolion a bydd rhaid i chi gofrestru fel Gweithiwr Cymorth Dysgu Addysg Bellach gyda Chyngor y Gweithlu Addysg.

Mae Coleg Penybont yn deall gwerth darparu gwasanaethau yn Gymraeg a'r angen i dyfu ei weithlu dwyieithog. Rydym felly'n annog ceisiadau gan ymgeiswyr sydd â sgiliau Cymraeg da. Nodwch yn eich datganiad personol a fyddai'n well gennych i'ch asesiad/cyfweliad gael ei gynnal yn Gymraeg.

Rydym wrthi'n ceisio gwella cynrychiolaeth o bob rhan o'r gymuned a hyrwyddo cyfleoedd cyfartal. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb, gan gynnwys pobl o wahanol gefndiroedd a chymunedau, ac o wahanol oedrannau.

Rydym yn falch o fod yn Arweinydd Hyderus o ran Anabledd ac rydym yn gwarantu cyfweld ag unrhyw un sydd ag anabledd cyn belled â bod eu cais yn bodloni meini prawf hanfodol y swydd, a'u hystyried ar eu galluoedd. Gallwn hefyd gynnig addasiadau rhesymol trwy gydol y broses recriwtio.

Bydd gofyn i'r ymgeisydd llwyddiannus ddarparu tystiolaeth o'i hunaniaeth a'i gymhwystra i weithio yn y DU.

Nid yw'r Coleg yn cymryd rhan yng Nghynllun Noddi Fisa'r DU, felly bydd rhaid i ymgeiswyr ddarparu tystiolaeth o'u hawl i weithio yn y DU os cynigir rôl iddynt gyda ni.

Sylwer, efallai y bydd gofyn am gyfweliad neu asesiad ail gam.