MANYLION.
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Glynllifon,
- Pwnc: Heb ei ddarparu
- Oriau: Llawn amser
- Cytundeb: Parhaol
- Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
- Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
- Math o gyflog: Per annum
- Cyflog: £33,595 - £51,931 y flwyddyn, yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad
- Iaith: Unrhyw
- Dyddiad Cau: 19 Mai, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: £33,595 - £51,931 y flwyddyn, yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad
Pwrpas y swyddMae'r adran Gofal Anifeiliaid wedi ei leoli yn Coleg Glynllifon mewn adeilad newydd ei adnewyddu gyda ystod eang o anifeiliaid ar gael i astudio. Mae myfyrwyr yn dilyn cyrsiau llawn amser lefel 1, 2 a 3 gyda'r posibilrwydd i gwblhau prentisiaeth gyda chyflogwr addas. Bydd myfyrwyr yn mynd ymlaen i'r byd gwaith trwy weithio i gyflogwyr sydd yn ymwneud a'r maes llety anifeiliaid defnydd anifeiliaid yn y maes hamdden, diogelu neu gwerthu nwyddau anifeiliaid. Bydd nifer o'r myfyrwyr yn mynd ymlaen i Brifysgol i astudio ar lefel uwch trwy gwblhau gradd.
Bydd darlithydd Rheolaeth Anifeiliaid yn arweinydd cwrs gyda chyfrifoldeb bugeiliol myfyrwyr a sicrhau fod safonau perthnasol yn cael eu cyrraedd fel gofynnir gan y bwrdd arholi. Mae cymwysterau Bagloriaeth Cymru yn rhan ganolog o'r cwricwlwm o fewn Astudiaethau Tir, bydd y swydd hon yn cynnwys elfen o gyflwyno a chydlynu i sicrhau bod y Bagloriaeth Cymru yn cael ei chyflwyno'n gyson ar draws y maes rhaglen.
Mae'r cwricwlwm yn cael ei osod gan y bwrdd arholi. Fe fydd gofyn i'r darlithydd ddatblygu sesiynau perthnasol i sicrhau fod myfyrwyr yn cael profiad da o ddysgu a bod amcanion yr unedau yn cael eu trosglwyddo yn effeithio. Bydd y myfyrwyr yn cael gwersi ymarferol yn wythnosol, bydd gofyn cydlynu'r rhain gyda'r hyfforddwyr perthnasol i ad gyfnerthu dealltwriaeth o'r sesiynau dosbarth.
Mae'r diwydiant yn dalgylch y coleg yn gymysg ei natur gyda'g elfenau amaethyddol yn ogystal ag anifeiliaid anwes. Mae'r adran felly yn hyfforddi myfyrwyr mewn agweddau gwahanol i wneud a'r diwydiant yn cynnwys Anifeiliaid anwes, ecsotic, adar, anifeiliaid dyfrol yn ogystal ag anifeiliaid fferm masnachol.
Yn fras mae gofyn i Ddarlithydd Rheolaeth Anifeiliaid ddarparu dysgu o ansawdd uchel, creu cyfleoedd effeithiol ar gyfer dysgu a galluogi pob myfyriwr i gyflawni hyd eithaf eu gallu.
Manylion Swydd
Cyfeirnod y Swydd
BD/205/26
Cyflog
£33,595 - £51,931 y flwyddyn, yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad
Lleoliad Gwaith
- Glynllifon
Hawl gwyliau
46 diwrnod o wyliau yn flynyddol.
Pob gwyliau cyhoeddus a arsylwir fel arfer, yn cael eu pennu'n flynyddol.
Hyd at 5 diwrnod o ddiwrnodau cau effeithlonrwydd y flwyddyn, a bennir yn flynyddol.
Patrwm gweithio
37 awr yr wythnos
835 awr o amser addysgu blynyddol.
Hyd at 5 awr yr wythnos o weithio o'r safle gyda chytundeb y rheolwr.
Hawliau Pensiwn
Cynllun Pensiwn Athrawon
Math o gytundeb
Llawn Amser Parhaol
Dyddiad cau
19 Mai 2026
12:00 YH(Ganol dydd)