MANYLION.
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Bangor,
- Pwnc: Heb ei ddarparu
- Oriau: Llawn amser
- Cytundeb: Cyfnod penodol
- Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
- Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
- Math o gyflog: Per annum
- Cyflog: £33,479 - £35,721 y flwyddyn, yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad
- Iaith: Unrhyw
- Dyddiad Cau: 14 Mai, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Swyddog Uwch Lles (Coleg Menai / Coleg Meirion Dwyfor), Cyfnod penodol hyd at 31 Awst 2027
Grwp Llandrillo Menai
Cyflog: £33,479 - £35,721 y flwyddyn, yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad
Pwrpas y SwyddMae'r Uwch Swyddog Lles yn gyfrifol am arwain a chydlynu'r gwasanaethau lles ar draws campysau Grŵp Llandrillo Menai (un yn y dwyrain ac un yn y gorllewin), gan sicrhau bod pob dysgwr yn derbyn gofal bugeiliol a chefnogaeth briodol. Gan adrodd i'r Rheolwr Gwasanaethau i Ddysgwyr, mae'r swydd yn hanfodol wrth feithrin amgylchedd diogel, cynhwysol a meithringar lle gall myfyrwyr ffynnu'n academaidd, yn gymdeithasol ac yn emosiynol.
Drwy gydlynu staff yn nhîm Llesiant y Gwasanaethau i Ddysgwyr, mae'r swydd hon yn cefnogi lles myfyrwyr drwy ymyriadau rhagweithiol, a rhoi cyngor ac arweiniad ar faterion fel iechyd meddwl, diogelu, datblygiad personol a chaledi ariannol. Bydd yr Uwch Swyddog Lles yn cydweithio'n agos ag asiantaethau allanol ac adrannau mewnol hefyd i hyrwyddo lles myfyrwyr, mynd i'r afael â rhwystrau i ddysgu, a chyfrannu at brofiad cyffredinol y myfyrwyr a'r strategaeth cadw myfyrwyr. Elfen allweddol i'r rôl hon yw'r gallu i nodi tueddiadau, ymateb i anghenion unigolion a grwpiau, a gweithredu polisïau a rhaglenni sy'n cefnogi lles cyffredinol cymuned y myfyrwyr.
Manylion Swydd
Cyfeirnod y Swydd
AS/202/26
Cyflog
£33,479 - £35,721 y flwyddyn, yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad
Lleoliad Gwaith
- Bangor
Hawl gwyliau
- 28 diwrnod y flwyddyn, yn codi i 32 diwrnod ar ôl pum mlynedd lawn o wasanaeth di-dor (01 Medi i 31 Awst).
- Yr holl wyliau cyhoeddus arferol, i'w pennu'n flynyddol.
- Hyd at 5 diwrnod effeithlonrwydd / diwrnod y trefnwyd i'r safle fod ar gau bob blwyddyn, i'w pennu'n flynyddol.
Patrwm gweithio
37 awr yr wythnos, Dydd Llun i Ddydd Gwener
Hawliau Pensiwn
Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol
Math o gytundeb
Llawn Amser Cyfnod Penodol
Dyddiad cau
14 Mai 2026
12:00 YH(Ganol dydd)