MANYLION.
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Dolgellau,
- Pwnc: Heb ei ddarparu
- Oriau: Llawn amser
- Cytundeb: Parhaol
- Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
- Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
- Math o gyflog: Per annum
- Cyflog: £33,595 - £51,931 y flwyddyn, yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad
- Iaith: Unrhyw
- Dyddiad Cau: 14 Mai, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: £33,595 - £51,931 y flwyddyn, yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad
Pwrpas y swyddMae Adran Adeiladwaith Coleg Meirion Dwyfor yn adran flaengar sy'n cynnig cyrsiau mewn ystod o ddisgyblaethau adeiladwaith. Mae addysgu a dysgu yn digwydd gyda mynediad at offer safonol y diwydiant ac mewn cyfleusterau modern. O fewn yr adran, mae gennym ddau safle; Hafan (Pwllheli) a CaMDA (Dolgellau), mae'r ddarpariaeth Adeiladwaith wedi'i lleoli yng NghaMDA (Dolgellau).
Rydym yn chwilio am aelod o staff llawn amser parhaol i ymuno ag Adran Adeiladwaith y Coleg; a rydym yn barod i gyflogi unigolyn brwdfrydig ac ymroddedig sydd â phrofiad yn y maes Adeiladwaith ac Peirianneg Gwasanaethau Adeiladu, yn benodol y maes Plymio a Gwresogi.
Mae'r adran yn cynnig darpariaeth eang sy'n cynnwys cyrsiau amser llawn, rhan-amser, prentisiaethau a'r cwricwlwm 14-16. Ar hyn o bryd mae gennym dîm cryf o ddarlithwyr Adeiladwaith ym meysydd plastro, gosod brics, gwaith coed ac adeiladwaith cyffredinol, ynghyd â staff goruchwylio sgiliau ymarferol mewn meysydd gan gynnwys plymio, gosod brics, gwaith coed a phlastro, ac aelodau staff sy'n gweithio'n benodol gyda'r ddarpariaeth brentisiaethau. Rydym yn edrych am aelod o staff fydd yn ategu at hyn ac yn cyfrannu at ddatblygiad parhaus yr adran.
Bydd rôl y darlithydd Plymio yn cynnwys darparu addysg ddwyieithog o safon uchel i ddysgwyr ar ystod o gymwysterau a lefelau, gan gynnwys Lefel 2 a Lefel 3, ar raglenni llawn amser, rhan amser a phrentisiaethau. Bydd y rôl yn cynnwys cyflwyno sesiynau theori yn yr ystafell ddosbarth, cynnal sesiynau ymarferol yn y gweithdy pan fo angen, a darparu cymorth tiwtorial parhaus i sicrhau bod dysgwyr yn llwyddo.
Mae cysylltiad cryf â'r ddarpariaeth 14-16 yn hanfodol, gyda disgwyliad i'r ymgeisydd llwyddiannus gyfrannu at ddarpariaeth addysg o safon o 14-16 ymlaen i addysg bellach a dysgu seiliedig ar waith. Disgwylir hefyd rôl rhagweithiol wrth arwain a datblygu'r cyrsiau Plymio, gan sicrhau bod dysgwyr yn ganolog i bopeth a wnawn.
Bydd disgwyl i'r ymgeisydd llwyddiannus gyflwyno safonau uchel o addysgu a dysgu a darparu cymorth, cyngor ac arweiniad parhaus sy'n hyrwyddo llwyddiant dysgwyr. Hoffem weithio gyda chi i ddatblygu eich sgiliau proffesiynol er mwyn cynnig y profiad gorau posibl i ddysgwyr ac i helpu i symud yr adran yn ei blaen.
Disgwyliadau allweddol y rôl:
1. Addysgu i safon uchel er mwyn creu cyfleoedd dysgu effeithiol ac er mwyn galluogi'r holl ddysgwyr i gyflawni hyd eithaf eu gallu.
2. Darparu profiadau allgyrsiol rhagorol i'n dysgwyr.
3. Cynnal safonau uchel y ddarpariaeth â'r gefnogaeth a roddir i'r dysgwyr.
4. Sichrau bod polisiau a gweithdrefnau'r Grŵp yn cael ei dilyn.
5. Cefnogi dysgwyr i lwyddo er mwyn cyflawni eu targedau neu uwch gan herio ac ymestyn ein dysgwyr.
Manylion Swydd
Cyfeirnod y Swydd
CMD/201/26
Cyflog
£33,595 - £51,931 y flwyddyn, yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad
Lleoliad Gwaith
- Dolgellau
Hawl gwyliau
• 46 diwrnod o wyliau yn flynyddol
• Pob gwyliau cyhoeddus a arsylwir fel arfer, yn cael eu pennu'n flynyddol.
• Hyd at 5 diwrnod o ddiwrnodau cau effeithlonrwydd y flwyddyn, a bennir yn flynyddol.
Patrwm gweithio
37 awr yr wythnos
835 awr o amser addysgu blynyddol - 24 i 26 awr yr wythnos.
Hyd at 5 awr yr wythnos o weithio oddi ar safle gyda chytundeb y rheolwr.
Hawliau Pensiwn
Cynllun Pensiwn Athrawon
Math o gytundeb
Llawn Amser Parhaol
Dyddiad cau
14 Mai 2026
12:00 YH(Ganol dydd)