MANYLION.
  • Lleoliad: Bangor,
  • Pwnc: Heb ei ddarparu
  • Oriau: Rhan amser
  • Cytundeb: gweithio hyblyg
  • Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
  • Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
  • Math o gyflog: Fesul awr
  • Cyflog: £22.58 - £34.91 yr awr, sy'n cynnwys hawl gwyliau, yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad
  • Iaith: Unrhyw
  • Dyddiad Cau: 12 Mai, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Darlithydd Celf, Dros Dro, Tymor yn Unig

Grwp Llandrillo Menai

Cyflog: £22.58 - £34.91 yr awr, sy'n cynnwys hawl gwyliau, yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad

Pwrpas y swydd

Mae'r rôl hon o fewn y maes Celf yn yr adran Celfyddydau Creadigol yng Ngholeg Menai, ac wedi'i leoli ar y campws Celf ym Mharc Menai. Mae llwyddiant y cyrsiau Celf yn cael ei barchu ledled Cymru a thu hwnt, gyda chyn-fyfyrwyr wedi mynd ymlaen i lwyddiant cenedlaethol a rhyngwladol o fewn y sector Celf.

Mae ein cwricwlwm yn cynnwys cyrsiau AB (o lefel 1 i lefel 3), ynghyd â chyrsiau AU (FdA Celf a Dylunio, BA(Anrh) Celf Gain a BA(Anrh) Celf a Dylunio.

Dyma gyfle i ddarlithydd Celf ymuno â'n tîm llwyddiannus, deinamig a chefnogol.

Disgwylir i'r ymgeisydd llwyddiannus ddarparu safonau uchel o ddysgu ac addysgu ym maes eu harbenigedd a rhoi cefnogaeth, cyngor ac arweiniad parhaus i fyfyrwyr sy'n hyrwyddo llwyddiant.

Disgwyliadau allweddol y rôl:

1. Addysgu i safon uchel er mwyn creu cyfleoedd dysgu effeithiol ac er mwyn galluogi'r holl ddysgwyr i

gyflawni hyd eithaf eu gallu.

2. Darparu profiadau allgyrsiol rhagorol i'n dysgwyr.

3. Cynnal safonau uchel y ddarpariaeth â'r gefnogaeth a roddir i'r dysgwyr.

4. Sichrau bod polisiau a gweithdrefnau'r Grŵp yn cael ei dilyn.

5. Cefnogi dysgwyr i lwyddo er mwyn cyflawni eu targedau neu uwch gan herio ac ymestyn ein dysgwyr.




Manylion Swydd
Cyfeirnod y Swydd
CM/200/26

Cyflog
£22.58 - £34.91 yr awr, sy'n cynnwys hawl gwyliau, yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad

Lleoliad Gwaith
  • Bangor

Hawl gwyliau
Bydd hawl i wyliau â thâl pro rata ym mhob blwyddyn academaidd (1 Medi i 31 Awst), sy'n cynnwys hawl pro-rata i 8 Gŵyl Banc a Gwyliau Cyhoeddus a welir fel arfer yng Nghymru a hawl pro-rata o hyd at 5 o wyliau effeithlonrwydd (sylwer y gall hyn newid yn flynyddol). Mae gwyliau blynyddol yn deillio o hawl pro rata cyfwerth ag amser llawn o 46 diwrnod.

Patrwm gweithio
Hyd at 10 awr yr wythnos ar gael. Cytundeb rhan amser, telir fesul awr o ddydd Llun - Gwener. Patrwm gwaith i'w gytuno yn ddibynnol ar argaeledd. Mae'r pwnc a lefel y ddarpariaeth yn seiliedig ar gymwysterau a phrofiad.

Bydd canran ychwanegol o rhwng 10% - 63.33% (yn amodol ar feini prawf) yn cael ei gymhwyso i'r oriau cytundebol a weithiwyd i adlewyrchu paratoi a marcio.

35 wythnos y flwyddyn (yn ystod tymor y Coleg)

Hawliau Pensiwn
Cynllun Pensiwn Athrawon

Math o gytundeb
Rhan Amser a Delir wrth yr Awr

Dyddiad cau
12 Mai 2026
12:00 YH(Ganol dydd)