MANYLION.
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Heb ei ddarparu
- Pwnc: Heb ei ddarparu
- Oriau: Llawn amser
- Cytundeb: Parhaol
- Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
- Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
- Math o gyflog: Heb ei Gyflenwi
- Cyflog: £47,181 - £51,356
- Iaith: Unrhyw
- Dyddiad Cau: 01 Mai, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: £47,181 - £51,356
Rydym yn mabwysiadu dull 'recriwtio dienw' wrth lunio'r rhestr fer. Ni fydd rheolwyr recriwtio yn cael mynediad at wybodaeth bersonol, gan gynnwys eich enw a'ch manylion cyswllt, hyd nes y bydd penderfyniad wedi'i wneud ynghylch y rhestr fer.Rydym wedi ymrwymo i recriwtio, cadw a datblygu gweithlu sy'n adlewyrchu'r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu. Mae rhannu eich data monitro cydraddoldeb yn ein galluogi i asesu effaith ein polisïau a'n harferion recriwtio a chyflogaeth ac yn rhoi cyfle i ni eu gwella lle bo modd. Nid yw rheolwyr recriwtio yn cael mynediad at wybodaeth monitro cydraddoldeb ar unrhyw adeg.
Ynglŷn â'r swydd wag
Cyfeirnod y Swydd Wag: 3140
Sefydliad:
Ysgolion
Nifer y swyddi gwag:
1
Math o gontract:
Parhaol Amser Llawn
Lleoliad:
Caerfyrddin, Llandeilo, Llanymddyfri, Sir Gaerfyrddin, Amrywiol
Gradd:
Gradd K
Cyflog:
£47,181 - £51,356
Os yw'n rhan-amser a/neu yn ystod y tymor, bydd y cyflog llawn amser a ddyfynnir (yn seiliedig ar 37 awr) ar sail pro rata yn unol â hynny
Cyfradd yr awr:
£24.46 - £26.62
Oriau Contract:
37
Dewch i ymuno â'n tîm
Mae Ysgol Bro Dinefwr yn chwilio am Rheolwr Busnes ysbrydoledig, rhagweithiol a strategol i arwain
swyddogaethau busnes allweddol yr ysgol o fis Gorffennaf 2026. Dyma gyfle eithriadol i siapio
cyfeiriad gweithredol a strategol ysgol flaengar sy'n ymrwymedig i ddwyieithrwydd, arloesedd,
llywodraethu cadarn a'r safon uchaf o wasanaeth i ddisgyblion, staff a'r gymuned.
Fel Rheolwr Busnes, byddwch yn:
- Arwain a rheoli'r holl swyddogaethau cefnogi, gan gynnwys cyllid, Adnoddau Dynol,
cyfleusterau/eiddo, gweinyddiaeth a gwasanaethau cymorth. - Gyrru trefn, effeithlonrwydd ac arloesi mewn rheolaeth ariannol a gweithredol, gan sicrhau dulliau
cadarn o gynllunio, monitro a chydymffurfio. - Cefnogi'r Pennaeth a'r Uwch Dîm Arwain trwy ddarparu dadansoddiad, cyngor a gwybodaeth
reoli strategol ar bob agwedd o adnoddau'r ysgol. - Arwain a mentora timau staff cefnogi, gan feithrin amgylchedd cydweithredol sy'n hyrwyddo
perfformiad uchel a gwella parhaus.
Rydym yn chwilio am unigolyn sydd â chymysgedd o arbenigedd busnes a rheolaeth, sgiliau arwain
cadarn ac angerdd dros ddarparu cefnogaeth weithredol o ansawdd rhagorol. Bydd gennych y gallu i
gyfathrebu'n effeithiol, datrys problemau'n greadigol ac adeiladu systemau a thimau sy'n galluogi'r
ysgol i ffynnu. Byddwch yn chwarae rhan allweddol yn llwyddiant ehangach yr ysgol, gan gyfrannu at
ddiwylliant cadarnhaol, gwerthoedd cryf a gweledigaeth uchelgeisiol.
Dull Penodi
Bydd y penodiad yn cael ei wneud drwy gyfweliad yn seiliedig ar gymhwysedd.
Am ragor o wybodaeth neu sgwrs anffurfiol am y rôl, cysylltwch â Mr Richard Mears, ar
richard.mears@brodinefwr.org.uk 01558 824800
Os ydych yn frwdfrydig am arwain, a gwneud effaith barhaol ar brofiadau dysgwyr, byddem wrth ein
bodd yn clywed gennych.
Disgrifiad Swydd:
Pecyn Recriwtio YBD - Rheolwr Busnes-Business Manager Ebr 2026.pdf - 4179KB ~~EFORM_FILE_NEW_WINDOW~~
Lefel DBS:
Bydd gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd gan Wirio'r Rhestr Wahardd yn ofynnol ar gyfer y swydd hon. Mae'n drosedd gwneud cais am y swydd os yw'r ymgeisydd wedi'i wahardd rhag cymryd rhan mewn gweithgareddau a reoleiddir sy'n berthnasol i blant neu oedolion sydd mewn perygl.
Lefel Sgiliau Cymraeg - Siarad:
Lefel 3 - Bydd angen ichi fod â lefel dda o Gymraeg llafar. Gellir darparu cymorth rhesymol ar ôl penodi i gyrraedd y lefel hon.
Dyddiad Cau: 01/05/2026, 09:00
Y Buddion
Rydym yn falch o gynnig amrywiaeth o fuddion i'n staff. Noder mai dim ond rhai o'r hyn a allai fod ar gael yw'r enghreifftiau a ddangosir, a gall cymhwysedd amrywio yn dibynnu ar eich rôl neu'ch math o gontract. Er enghraifft, efallai na fydd rhai buddion yn berthnasol i weithwyr achlysurol.
- Cyflog cystadleuol
- Cofrestru'n awtomatig i'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol
- Hawl i wyliau blynyddol hael gyda'r opsiwn o brynu gwyliau blynyddol ychwanegol
- Mynediad at gymorth iechyd a llesiant i staff
- Datblygiad personol a dilyniant gyrfa
- Cynlluniau disgownt staff a buddion eraill e.e., cynllun beicio i'r gwaith
- Gweithio hyblyg a pholisïau sy'n ystyriol o deuluoedd
Gwybodaeth Ychwanegol
Rydym wedi ymrwymo i recriwtio diogel a theg, diogelu ac amddiffyn y rhai yr ydym yn gofalu amdanynt ac yn eu gwasanaethu. Rydym yn sicrhau bod ein holl staff yn cael eu fetio, eu dethol, eu hyfforddi a'u goruchwylio'n deg ac i safon uchel fel y gallant ddarparu gofal diogel, effeithiol a thosturiol. ">Nodwch fod rhwymedigaeth gyfreithiol arnom i ystyried gweithwyr ar gyfer cyflogaeth arall addas os yw eu swyddi mewn perygl; rhoddir ystyriaeth ymlaen llaw i weithwyr presennol sy'n bodloni'r meini prawf hanfodol ac sydd wedi'u cofrestru ar ein cofrestr adleoli.
Cymhwysedd: Gofynnir i chi am eich cenedligrwydd ac a oes gennych hawl gyfreithiol i weithio yn y Deyrnas Unedig. Gwneir hyn er mwyn cael gwybod a ydych yn gymwys i wneud cais am y swydd wag hon. Mae hyn yn ofynnol ar gyfer gweithio yn y Cyngor neu mewn sefydliadau partner: https://www.gov.uk/prove-right-to-work . Nodwch: Os nad ydych yn bodloni'r meini prawf cymhwysedd, ni fydd eich cais yn symud ymlaen. Os daw'n amlwg yn ddiweddarach yn y broses nad ydych yn gymwys i wneud cais, efallai y bydd eich cais neu eich cynnig yn cael ei dynnu'n ôl.
Sut i wneud cais: Rhaid i bob cais am y swydd wag hon gael ei wneud drwy ein system ymgeisio ar-lein. Os oes gennych nam sy'n eich atal rhag gwneud cais ar-lein, e-bostiwch: swyddi@sirgar.gov.uk neu ffoniwch 01267 234567 a gofynnwch am 'Recriwtio' i drafod trefniadau eraill i'ch helpu yn y broses.
Gweler y canllawiau 'Sut rydym yn recriwtio' ar y Dudalen Gyrfaoedd i gael rhagor o wybodaeth am y broses recriwtio.